Offerynnau Statudol Cymru

2001 Rhif 275 (Cy.11)

AMAETHYDDIAETH, CYMRU

Rheoliadau Llaeth Ysgol (Cymru) 2001

Wedi'u gwneud

30 Ionawr 2001

Yn dod i rym

1 Chwefror 2001

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, gan ei fod wedi'i ddynod(1)) at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972(2) mewn perthynas â pholisi amaethyddol cyffredin y Gymuned Ewropeaidd, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan yr adran 2(2) a enwyd, drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol:—

Teitl, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Teitl y Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Llaeth Ysgol (Cymru) 2001 a deuant i rym ar 1 Chwefror 2001.

(2Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru.

Dehongli

2.—(1Yn y Rheoliadau hyn, oni bai bod y cyd-destun yn mynnu fel arall —

(2Mae unrhyw gyfeiriad yn y Rheoliadau hyn at offeryn Cymunedol yn gyfeiriad at yr offeryn hwnnw fel y'i diwygiwyd ar y dyddiad y gwneir y Rheoliadau hyn.

(3Mae unrhyw gyfeiriad yn y Rheoliadau hyn at reoliad â rhif yn gyfeiriad at y rheoliad sy'n dwyn y rhif hwnnw yn y Rheoliadau hyn.

Rhoi cymorth gwladol

3.  Yn ddarostyngedig i Reoliad 4 gall y Cynulliad Cenedlaethol roi cymorth gwladol mewn cysylltiad â chyflenwi cynhyrchion llaeth cymwys i ddisgyblion sy'n derbyn addysg gynradd sy'n mynychu sefydliadau addysgol cymwys.

Amodau a chyfyngiadau sy'n gymwys ar gyfer rhoi cymorth gwladol

4.—(1Rhaid i gymorth gwladol o dan Reoliad 3 gael ei roi yn ddarostyngedig i'r amodau a'r cyfyngiadau a bennir ym mharagraff (2).

(2Dyma'r amodau a'r cyfyngiadau y cyfeirir atynt ym mharagraff (1) —

(a)bod y ceiswyr wedi'u cofrestru neu wedi'u cymeradwyo gan y Bwrdd at ddibenion gwneud cais am gymorth Cymunedol;

(b)bod y Bwrdd yn cael ei fodloni bod ceisydd a sefydliad addysgol cymwys (os yw'n wahanol) yn cydymffurfio, a'u bod wedi cydymffurfio â'r rheolau Cymunedol ac unrhyw rwymedigaethau neu ofynion eraill a all fod wedi'u hysbysu iddynt gan y Bwrdd mewn cysylltiad â'u cyfranogiad yng nghynllun cymorthdaliadau'r Gymuned Ewropeaidd;

(c)mai 0.25 litr o laeth neu o'r hyn sy'n gyfwerth â llaeth yn ôl fel y digwydd am bob disgybl sydd ar gofrestr yr ysgol am bob diwrnod ysgol fydd y swm mwyaf o gynhyrchion llaeth cymwys y gall cymorth gwladol gael ei roi ar ei gyfer yn achos unrhyw sefydliad addysgol cymwys;

(ch)y cyfyngir y cymorth gwladol, yn ddarostyngedig i Reoliad 5 —

(i)yn achos cyflenwi llaeth cyflawn, i swm sy'n cynrychioli'r gwerth sterling sy'n gyfwerth â 6.2 ewro i bob 100 kilogram, neu

(ii)yn achos cyflenwi cynhyrchion llaeth cymwys heblaw llaeth cyflawn, i swm sydd i'w bennu o dro i dro gan y Cynulliad Cenedlaethol a'i hysbysu mewn ysgrifen i geiswyr

Cymorth gwladol ychwanegol ar gyfer disgyblion cymwys

5.  Pan fydd cymorth gwladol yn cael ei roi mewn cysylltiad â chyflenwi cynnyrch llaeth cymwys sydd naill ai â chyflas neu hebddo, yn llaeth cyflawn neu'n laeth hanner sgim i ddisgyblion cymwys, gall y swm a roddir fod yn swm digonol i dalu'r costau gweddilliol a fuasai fel arall yn cael eu talu gan y disgyblion neu eu rhieni neu eu gwarcheidwaid mewn perthynas â'r cyflenwi hwnnw.

Talu cymorth gwladol

6.  Rhaid i gymorth gwladol a roddir gan y Cynulliad Cenedlaethol yn unol â Rheoliad 3 gael ei dalu i geiswyr gan y Bwrdd yn gweithredu fel asiant i'r Cynulliad Cenedlaethol.

Dal cymorth gwladol yn ôl a'i adennill

7.  Caiff y Bwrdd ddal yn ôl neu adennill oddi ar unrhyw geisydd y cyfan neu unrhyw ran o unrhyw gymorth gwladol a roddwyd o dan y Rheoliadau hyn os yw yn fodlon nad yw'r ceisydd neu sefydliad addysgol cymwys y mae ceisydd wedi gwneud cais mewn perthynas ag ef yn cydymffurfio neu nad yw wedi cydymffurfio ag unrhyw un o'r amodau a'r cyfyngiadau a bennir yn rheoliad 4(2).

Y gyfradd gyfnewid gymwysadwy

8.—(1At ddibenion cyfrifo cymorth gwladol mewn sterling, rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol benderfynu'r gyfradd gyfnewid rhwng sterling a'r ewro sydd i'w chymhwyso at gyfrifiad o'r fath ac, yn ddarostyngedig i baragraff (2) caiff ei diwygio o dro i dro.

(2Cyn unrhyw ddiwygiad arfaethedig ar y gyfradd gyfnewid rhwng sterling a'r ewro yn unol â pharagraff (1), rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol roi o leiaf 14 diwrnod o hysbysiad ysgrifenedig i geiswyr am y gyfradd ddiwygiedig sydd i'w chymhwyso.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(7).

D. Elis Thomas

Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

30 Ionawr 2001

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn, sy'n dod i rym ar 1 Chwefror 2001, yn pennu mesurau gweithredu mewn perthynas ag Erthygl 14(2) o Reoliad y Cyngor (EC) Rhif 1255 / 1999 ar gyd-drefnu'r farchnad mewn llaeth a chynhyrchion llaeth (OJ Rhif L160, 26.6.1999, t.48).

Mae'r Rheoliadau yn darparu y gall y Cynulliad Cenedlaethol dalu cymorth gwladol (sy'n cydategu cymorth y Gymuned Ewropeaidd) mewn cysylltiad â chyflenwi llaeth a chynhyrchion llaeth penodol i blant sy'n derbyn addysg gynradd.

Mae'r Rheoliadau yn darparu y gall y Cynulliad Cenedlaethol roi cymorth gwladol mewn cysylltiad â chyflenwi uchafswm o 0.25 litr o laeth (neu o'r hyn sy'n gyfwerth â llaeth yn achos cynhyrchion llaeth penodol), fesul plentyn fesul diwrnod ysgol.

Y plant sy'n elwa ar gymorth gwladol o dan y Rheoliadau hyn yw'r rhai sy'n mynychu sefydliad sy'n darparu addysg gynradd ac sydd wedi'i gofrestru gyda'r Bwrdd Ymyrraeth Cynhyrchion Amaethyddol at ddibenion cynllun y Gymuned Ewropeaidd ar gyfer cyflenwi cynhyrchion llaeth cymorthdaledig.

Mae'r Rheoliadau yn darparu bod rhaid i raddfa'r cymorth gwladol a roddir gan y Cynulliad Cenedlaethol gael ei gyfyngu —

(a) yn achos cyflenwi llaeth cyflawn, i swm sy'n cynrychioli'r gwerth sterling sy'n gyfwerth â 6.2 ewro i bob 100 kilogram; neu

(b)yn achos cyflenwi yr holl gynhyrchion llaeth eraill sy'n gymwys, i swm sydd i'w benderfynu gan y Cynulliad Cenedlaethol a'i hysbysu yn ysgrifenedig i geiswyr.

Er hynny, os oes cymorth gwladol yn cael ei roi mewn cysylltiad â chyflenwi llaeth cyflawn neu laeth hanner sgim, â chyflas neu heb gyflas, i ddisgyblion cynradd heblaw'r rhai sy'n derbyn addysg feithrin neu'r rhai yng nghyfnod allweddol 2, mae'r Rheoliadau'n darparu y gall cyfanswm y cymorth hwnnw fod yn swm sy'n ddigonol er mwyn talu unrhyw gost a fuasai fel arall yn gorfod cael ei thalu gan y disgyblion hynny neu eu rhieni neu eu gwarcheidwaid o dan amgylchiadau lle nad yw cymorth y Gymuned Ewropeaidd yn talu'n llawn am gost cyflenwi'r cynhyrchion hynny.

Mae'r Rheoliadau'n darparu ar gyfer talu cymorth gwladol i geiswyr gan y Bwrdd Ymyrraeth Cynhyrchion Amaethyddol fel asiant i'r Cynulliad Cenedlaethol (Rheoliad 6) ac yn darparu hefyd ar gyfer dal yn ôl ac adennill cymorth o dan amgylchiadau penodol (Rheoliad 7).

Mae'r Rheoliadau hefyd yn darparu bod y gyfradd gyfnewid gymwys rhwng yr euro a sterling sydd i'w defnyddio wrth gyfrifo cymorth gwladol i gael ei phennu o dro i dro gan y Cynulliad Cenedlaethol a'i hysbysu mewn ysgrifen i'r ceiswyr (Rheoliad 8).

(5)

OJ Rhif L311, 12.12.2000, t.37.

(6)

OJ Rhif L160, 26.6.1999, t.48.