xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
Offerynnau Statudol Cymru
GWASANAETHAU CYMORTH GWLADOL, CYMRU
Wedi'u gwneud
30 Ionawr 2001
Yn dod i rym
1 Chwefror 2001
1.—(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cymorth Gwladol (Asesu Adnoddau) (Diwygio) (Cymru) 2001 a deuant i rym ar 1 Chwefror 2001.
(2) Yn y Rheoliadau hyn, ystyr “y prif Reoliadau” (“the principal Regulations”) yw Rheoliadau Cymorth Gwladol (Asesu Adnoddau) 1992(3).
(3) Bydd y Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru yn unig.
2. Ar ddiwedd Atodlen 4 i'r prif Reoliadau (cyfalaf sydd i'w anwybyddu) ychwanegir y paragraff canlynol —
“20. Any amount which would be disregarded under paragraph 61 of Schedule 10 to the Income Support Regulations (ex-gratia payment made by the Secretary of State in consequence of a person’s imprisonment or internment by the Japanese during the Second World War).(4)”.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(5))
D.Elis Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
30 Ionawr 2001
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r Rheoliadau hyn yn gwneud diwygiadau pellach i Reoliadau Cymorth Gwladol (Asesu Adnoddau) 1992 (“y prif Reoliadau”).
Mae'r prif Reoliadau yn ymwneud ag asesu gallu person (“y preswylydd”) i dalu am lety sydd wedi'i drefnu gan awdurdodau lleol o dan Ran III o Ddeddf Cymorth Gwladol 1948. Mae llety Rhan III yn cael ei drefnu ar gyfer personau 18 oed neu drosodd y mae arnynt, oherwydd oedran, salwch, anabledd neu unrhyw amgylchiadau eraill, angen gofal a sylw nad ydynt ar gael iddynt fel arall, ac ar gyfer mamau sy'n disgwyl plentyn a mamau sy'n magu ac sydd mewn angen tebyg.
Mae'r prif Reoliadau yn darparu bod rhaid peidio ag asesu unrhyw breswylydd fel un sy'n methu â thalu am lety Rhan III yn ôl y gyfradd safonol os yw cyfalaf y preswylydd hwnnw, o'i gyfrifo yn unol â'r prif Reoliadau, yn fwy nag £16,000.
Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio'r prif Reoliadau fel bod taliad ex-gratia o £10,000 sy'n cael ei wneud gan yr Adran Nawdd Cymdeithasol ar 1 Chwefror 2001 neu wedyn yn cael ei anwybyddu, at ddibenion asesu cyfalaf preswylydd, os yw'r taliad yn cael ei wneud yn sgil carcharu neu gaethiwo unrhyw rai o'r canlynol gan y Japaneaid yn ystod yr Ail Ryfel Byd —
(a)y preswylydd;
(b)partner y preswylydd;
(c)priod marw y preswylydd; neu
(ch)priod marw partner y preswylydd.
1948 p.29; diwygiwyd adran 22(5) o Ddeddf Cymorth Gwladol 1948 gan adran 39(1) o Ddeddf y Weinyddiaeth Nawdd Cymdeithasol 1966 (p.20) a pharagraff 6 o Atodlen 6 iddi, gan adran 35(2) o Ddeddf Budd-daliadau Atodol 1976 (p.71) a pharagraff 3(b) o Atodlen 7 iddi, gan adran 20 o Ddeddf Nawdd Cymdeithasol 1980 (p.30) a pharagraff 2 o Atodlen 4 iddi, a chan adran 86 o Ddeddf Nawdd Cymdeithasol 1986 (p.50) a pharagraff 32 o Atodlen 10 iddi.
Cafodd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan adran 22(5) o Ddeddf Cymorth Gwladol 1948 eu trosglwyddo i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).
O.S. 1992/2977; yr offeryn diwygio perthnasol yw O.S. 1993/964.
Ychwanegwyd paragraff 61 gan O.S. 2001/22