- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made).
15.—(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (3) isod, ni chaiff neb ddefnyddio unrhyw safle ar gyfer cynhyrchu porthiant sy'n cynnwys protein wedi'i hydroleiddio i'w fwydo i anifeiliaid a ffermir heblaw cilgnowyr os yw'r safle'n cael ei ddefnyddio ar gyfer paratoi porthiant i anifeiliaid cnoi cil.
(2) At ddibenion paragraff 2 o Atodiad III i Benderfyniad y Comisiwn, mae safleoedd sy'n gweithgynhyrchu bwyd anifeiliaid nad ydynt yn cael eu defnyddio i baratoi porthiant ar gyfer anifeiliaid cnoi cil wedi'u hawdurdodi i gynhyrchu porthiant sy'n cynnwys protein wedi'i hydroleiddio i'w fwydo i anifeiliaid a ffermir heblaw cilgnowyr.
(3) Ni fydd y gwaharddiad ym mharagraff (1) uchod yn gymwys i safleoedd a ddefnyddir ar gyfer paratoi porthiant ar gyfer anifeiliaid cnoi cil sy'n cael eu defnyddio i gynhyrchu porthiant sy'n cynnwys protein wedi'i hydroleiddio ar gyfer rhywogaethau eraill o anifeiliaid —
(a)os yw'r protein wedi'i hydroleiddio yn bodloni gofynion rheoliad 4(2)(ch) uchod;
(b)os yw deunydd bwyd sydd wedi'i arfaethu ar gyfer anifeiliaid cnoi cil yn cael ei gludo a'i storio ar wahân yn llwyr i ddeunydd bwyd y gwaharddwyd ei fwydo i anifeiliaid cnoi cil;
(c)os yw'r cyfleusterau storio, cludo, gweithgynhyrchu a phecynnu ar gyfer porthiant cyfansawdd sydd wedi'i arfaethu ar gyfer anifeiliaid cnoi cil yn digwydd ar wahân yn llwyr; ac
(ch)os yw'r person sy'n defnyddio'r safle ar gyfer paratoi porthiant i anifeiliaid cnoi cil sy'n cael ei ddefnyddio i gynhyrchu porthiant sy'n cynnwys protein wedi'i hydroleiddio i anifeiliaid o rywogaethau eraill yn cynnal profion rhigolaidd ar y porthiant sydd wedi'i arfaethu ar gyfer anifeiliaid cnoi cil er mwyn sicrhau nad oes dim protein anifeiliaid wedi'i brosesu y gwaharddwyd ei fwydo i anifeiliaid a ffermir gan reoliad 4 uchod yn bresennol yn y porthiant hwnnw.
(4) Ni chaiff neb gynhyrchu unrhyw borthiant sy'n cynnwys protein wedi'i hydroleiddio i'w fwydo i anifeiliaid a ffermir heblaw cilgnowyr oni bai bod y porthiant yn cael ei labelu'n glir i ddangos y geiriau “contains hydrolysed protein — cannot be fed to ruminant animals”.
(5) Ni chaiff neb ddefnyddio unrhyw gerbyd ar gyfer cludo porthiant swmp sy'n cynnwys protein wedi'i hydroleiddio i'w fwydo i anifeiliaid a ffermir heblaw cilgnowyr ar yr un pryd ag y mae'n cael ei ddefnyddio ar gyfer cludo unrhyw fwyd i anifeiliaid cnoi cil.
(6) Os caiff cerbyd a ddefnyddir i gludo porthiant swmp sy'n cynnwys protein wedi'i hydroleiddio i'w fwydo i anifeiliaid a ffermir heblaw cilgnowyr ei ddefnyddio wedyn i gludo cynhyrchion eraill, rhaid i'r person sy'n defnyddio'r cerbyd ar gyfer cludo'r porthiant swmp sy'n cynnwys protein wedi'i hydroleiddio i'w fwydo i anifeiliaid a ffermir heblaw cilgnowyr sicrhau y caiff ei lanhau'n drwyadl a'i archwilio cyn cludo'r porthiant swmp hwnnw ac wedyn.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: