Search Legislation

Rheoliadau Protein Anifeiliaid wedi'i Brosesu (Cymru) 2001

Statws

This is the original version (as it was originally made).

Cymeradwyo safleoedd, atal cymeradwyaeth a'i thynnu'n ôl

8.—(1Rhaid i gais am gymeradwyo safle o dan reoliadau 5, 6 neu 7 uchod —

(a)ar gyfer cynhyrchu blawd pysgod i'w fwydo i anifeiliaid a ffermir heblaw cilgnowyr;

(b)ar gyfer cynhyrchu dicalcium phosphate i'w fwydo i anifeiliad a ffermir; neu

(c)ar gyfer cynhyrchu protein wedi'i hydroleiddio i'w fwydo i anifeiliaid a ffermir,

gael ei wneud yn ysgrifenedig i'r Cynulliad Cenedlaethol gan neu ar ran y person sy'n rhedeg neu sy'n bwriadu rhedeg y busnes ar y safle y mae'r cais yn ymwneud ag ef.

(2Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol hysbysu'r ceisydd yn ysgrifenedig am ei benderfyniad ar gais a wneir iddo yn unol â'r rheoliad hwn; ac, os yw'n gwrthod cymeradwyo'r safle y gwneir cais mewn perthynas ag ef, rhaid iddo hysbysu'r ceisydd yn ysgrifenedig am ei resymau dros wrthod.

(3Rhaid i gymeradwyaeth i safle o dan reoliadau 5, 6 neu 7 uchod bennu —

(a)enw a chyfeiriad y person y rhoddir y gymeradwyaeth iddo a chyfeiriad y safle a gymeradwyir;

(b)y defnyddir y safle ar gyfer y disgrifiad o gynhyrchu y rhoddir y gymeradwyaeth ar ei gyfer; ac

(c)yr amodau y rhoddir y gymeradwyaeth yn ddarostyngedig iddynt.

(4Os yw'n ymddangos i'r Cynulliad Cenedlaethol, mewn perthynas ag unrhyw safle a gymeradwyir o dan reoliadau 5, 6 neu 7 uchod —

(a)nad yw'r safle wedi'i gymeradwyo o dan y GSGA;

(b)bod y safle'n cael ei ddefnyddio heblaw yn unol â'r gymeradwyaeth o dan reoliadau 5, 6 neu 7 uchod;

(c)na chydymffurfiwyd ag unrhyw amod a bennir mewn Atodlen i'r Rheoliadau hyn sy'n ymwneud â chymeradwyo'r safle o dan reoliadau 5, 6 neu 7 uchod;

(ch)bod gwaith arolygu'r safle at ddibenion y Rheoliadau hyn yn cael ei rwystro; neu

(d)nad oes gwaith i gynhyrchu blawd pysgod, dicalcium phosphate neu brotein wedi'i hydroleiddio ar y safle y rhoddwyd y gymeradwyaeth mewn perthynas ag ef yn cael ei wneud yno mwyach,

caiff benderfynu atal y gymeradwyaeth i'r safle sy'n ymwneud â'r defnydd hwnnw neu ei thynnu'n ôl.

(5Os yw'r Cynulliad Cenedlaethol yn penderfynu atal cymeradwyaeth sy'n ymwneud ag unrhyw safle neu ei thynnu'n ôl, rhaid iddo roi hysbysiad o'r atal neu'r tynnu'n ôl i'r person sy'n rhedeg y busnes ar y safle (neu, yn achos atal neu dynnu'n ôl o dan baragraff (4)(d) uchod, i'r person a oedd gynt yn rhedeg y busnes ar y safle), ac i unrhyw berson arall y mae'n ymddangos i'r Cynulliad Cenedlaethol ei fod yn meddiannu'r safle ar hyn o bryd.

(6Rhaid i hysbysiad am atal cymeradwyaeth neu ei thynnu'n ôl gynnwys yr wybodaeth ganlynol —

(a)crynodeb o benderfyniad y Cynulliad Cenedlaethol i atal y gymeradwyaeth i'r safle neu ei thynnu'n ôl a'r defnydd ar y safle ar gyfer y disgrifiad o gynhyrchu y mae'r gymeradwyaeth wedi'i hatal neu wedi'i thynnu'n ôl ar ei gyfer;

(b)y rheswm dros yr atal neu'r tynnu'n ôl; ac

(c)y dyddiad y daw'r atal neu'r tynnu'n ôl i rym (a all fod yr un dyddiad â'r dyddiad y rhoddir yr hysbysiad).

(7Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol beidio â thynnu cymeradwyaeth yn ôl oni bai —

(a)ei bod yn ymddangos i'r Cynulliad Cenedlaethol —

(i)nad yw'r person sy'n defnyddio'r safle neu a oedd yn defnyddio'r safle ddiwethaf ar gyfer y disgrifiad o gynhyrchu y rhoddwyd y gymeradwyaeth ar ei gyfer yn dymuno parhau i ddefnyddio'r safle felly mwyach;

(ii)nad yw'r disgrifiad o gynhyrchu y mae'r safle wedi'i gynhyrchu ar ei gyfer yn cael ei wneud yno mwyach;

(iii)o atal y gymeradwyaeth, na fydd y person a oedd gynt yn defnyddio'r safle, nac unrhyw berson arall a fyddai ym marn y Cynulliad Cenedlaethol yn defnyddio'r safle ar gyfer y disgrifiad o gynhyrchu y rhoddwyd y gymeradwyaeth ar ei gyfer yn defnyddio'r safle yn unol â'r gymeradwyaeth neu ag un neu ragor o'r amodau a bennir yn yr Atodlen i'r Rheoliadau hyn sy'n ymwneud â'r gymeradwyaeth;

(iv)os nad yw'r gymeradwyaeth wedi'i hatal eisoes, na fyddai ei hatal yn galluogi'r person sy'n defnyddio'r safle ar gyfer y disgrifiad o gynhyrchu y rhoddwyd y gymeradwyaeth ar ei gyfer i gymryd camau adfer o fewn cyfnod rhesymol ar ôl yr atal i alluogi'r safle i gael ei ddefnyddio yn unol â'r gymeradwyaeth neu ag un neu ragor o'r amodau a bennir yn yr Atodlen i'r Rheoliadau hyn sy'n ymwneud â'r gymeradwyaeth; a

(b)ei fod wedi rhoi hysbysiad i'r person sy'n defnyddio'r safle ar gyfer y disgrifiad o gynhyrchu y rhoddwyd y gymeradwyaeth ar ei gyfer neu, os nad yw'r safle'n cael ei ddefnyddio at y diben hwnnw, i'r person diwethaf y mae'n hysbys i'r Cynulliad Cenedlaethol ei fod yn defnyddio'r safle at y diben hwnnw, ei fod yn bwriadu tynnu'r gymeradwyaeth yn ôl a'i fod wedi rhoi sylw i unrhyw sylwadau a gyflwynwyd iddo gan y person hwnnw mewn perthynas â'r bwriad hwnnw.

(8Os —

(a)oes ataliad ar gymeradwyaeth i safle o dan y rheoliad hwn wedi dod i rym; neu

(b)bod cymeradwyaeth wedi'i thynnu'n ôl;

rhaid trin y safle fel pe na bai wedi'i gymeradwyo ar gyfer y disgrifiad o gynhyrchu y rhoddwyd y gymeradwyaeth ar ei gyfer ac y mae'r gymeradwyaeth wedi'i hatal neu wedi'i thynnu'n ôl mewn perthynas ag ef.

(9Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol godi ataliad ar gymeradwyaeth os yw wedi'i fodloni —

(a)nad yw'r rheswm dros yr atal yn gymwys mwyach; a

(b)y bydd y person a fyddai'n defnyddio'r safle ar gyfer y disgrifiad o gynhyrchu y rhoddwyd y gymeradwyaeth ar ei gyfer yn defnyddio'r safle yn unol â'r gymeradwyaeth a'r amodau a bennir yn yr Atodlenni i'r Rheoliadau hyn sy'n ymwneud â'r gymeradwyaeth.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources