- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
13.—(1) Pan ddaw archwiliad a gynhelir yn unol â Rhan III o'r rheoliadau hyn i ben, rhaid i'r Comisiynydd gyflwyno adroddiad.
(2) Pan ddaw adolygiad swyddogaethau, adolygiad trefniadau, monitro yn unol ag adran 73(1) o'r Ddeddf neu asesiad yn unol ag adran 73(1A) o'r Ddeddf i ben, fe gaiff y Comisiynydd gyflwyno adroddiad.
(3) Rhaid i adroddiad a gyflwynir o dan baragraff (1) neu (2) nodi—
(a)canfyddiadau a chasgliadau'r Comisiynydd; a
(b)unrhyw argymhellion a wneir gan y Comisiynydd.
(4) Rhaid i'r Comisiynydd anfon copi o adroddiad o'r fath—
(a)at y Prif Weinidog; a
(b)i lyfrgelloedd y Cynulliad a dau Dŷ'r Senedd.
(5) Rhaid i'r Comisiynydd anfon copi
(a)yn achos adroddiad a gyflwynir o dan baragraff (1), at y plentyn neu'r person, yn ôl fel y digwydd, a gyflwynodd sylwadau i'r Comisiynydd yn unol â rheoliad 6; a
(b)yn achos adroddiad a gyflwynir o dan baragraff (1) neu (2), at y person neu'r personau
(i)y mae ei waith wrth ddarparu gwasanaethau neu ei waith wrth arfer swyddogaethau wedi'i archwilio,
(ii)y mae ei drefniadau mewn perthynas â chŵynion, chwythu'r chwiban neu eiriolaeth wedi'u hadolygu neu wedi'u monitro,
(iii)y mae asesiad yn unol ag adran 73(1A) o'r Ddeddf wedi'i gynnal mewn perthynas ag ef, neu
(iv)a grybwyllir yn yr adroddiad.
14.—(1) Os yw'r Comisiynydd wedi cyflwyno adroddiad o dan baragraff (1) o reoliad 13 sy'n cynnwys argymhelliad mewn perthynas â darparydd gwasanaethau rheoleiddiedig i blant yng Nghymru, y Cynulliad neu berson a grybwyllir yn Atodlen 2A i'r Ddeddf, caiff y Comisiynydd ei gwneud yn ofynnol mewn ysgrifen i'r person y gwneir yr argymhelliad mewn perthynas ag ef roi'r wybodaeth berthnasol i'r Comisiynydd o fewn tri mis o ddyddiad anfon copi o'r adroddiad at y person hwnnw.
(2) Os yw'r Comisiynydd wedi cyflwyno adroddiad o dan baragraff (2) o reoliad 13 sy'n cynnwys argymhelliad mewn perthynas â pherson a grybwyllir ym mharagraff (1) o'r rheoliad hwn, caiff y Comisiynydd ofyn mewn ysgrifen i'r person y gwneir yr argymhelliad mewn perthynas ag ef roi'r wybodaeth berthnasol i'r Comisiynydd o fewn tri mis o ddyddiad anfon copi o'r adroddiad at y person hwnnw.
(3) At ddibenion paragraffau (1) a (2) ystyr “yr wybodaeth berthnasol” yw unrhyw wybodaeth, esboniadau neu gymorth i alluogi'r Comisiynydd i benderfynu a yw'r person o dan sylw wedi cydymffurfio â'r argymhelliad neu a fydd yn cydymffurfio ag ef, neu esboniad ar y rheswm dros beidio â chymryd camau o'r fath neu dros beidio â bwriadu eu cymryd.
(4) Pan wneir gofyniad o dan baragraff (1) neu gais o dan baragraff (2) rhaid iddo gynnwys datganiad y gall methiant i ymateb o fewn y tri mis gael ei gyhoeddi mewn unrhyw fodd y mae'r Comisiynydd yn credu ei fod yn briodol.
(5) Os yw'r Comisiynydd yn credu'n rhesymol, pan gaiff yr wybodaeth berthnasol, nad yw'r camau a gymerwyd neu y bwriedir eu cymryd er mwyn cydymffurfio â'r argymhelliad neu nad yw'r rheswm am beidio â chymryd camau o'r fath neu am beidio â bwriadu eu cymryd, yn ddigonol, caiff y Comisiynydd anfon hysbysiad ysgrifenedig at y person o dan sylw yn nodi'r diffygion, sef hysbysiad y mae angen ymateb iddo o fewn un mis o ddyddiad ei anfon.
(6) Os na chaiff y Comisiynydd ymateb yn unol â'r hysbysiad ysgrifenedig o dan baragraff (5) o fewn un mis neu os yw'n anfodlon ar yr ymateb, caiff y Comisiynydd anfon hysbysiad atodol sy'n mynnu ymateb atodol o fewn un mis o ddyddiad ei anfon.
(7) Rhaid i'r hysbysiad atodol gynnwys datganiad y gall methiant i roi'r hyn sy'n ymateb atodol boddhaol ym marn y Comisiynydd, neu fethiant i ymateb o gwbl, gael ei gyhoeddi mewn unrhyw fodd y mae'r Comisiynydd yn credu ei fod yn briodol.
(8) Rhaid i'r Comisiynydd gadw cofrestr yn cynnwys manylion—
(a)argymhellion a geir mewn adroddiadau a gyflwynir o dan baragraffau (1) neu (2) o reoliad 13, a
(b)canlyniadau camau pellach a gymerir yn unol â pharagraffau (1), (2), (5) a (6) o'r rheoliad hwn.
(9) Rhaid i unrhyw gofrestr a gedwir o dan baragraff (8) fod yn agored i'w harchwilio gan unrhyw un ar bob adeg resymol yn swyddfeydd y Comisiynydd a chaiff y Comisiynydd wneud trefniadau i gopïau o'r gofrestr fod ar gael i'w harchwilio mewn unrhyw fan arall neu fannau eraill neu drwy unrhyw fodd arall y mae'n credu eu bod yn briodol.
(10) Rhaid i'r Comisiynydd gyhoeddi'r trefniadau a enwyd mewn ffordd a fydd yn dod â hwy i sylw personau y mae'n debyg, ym marn resymol y Comisiynydd, y bydd ganddynt ddiddordeb.
15.—(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (3), rhaid i'r Comisiynydd gyflwyno adroddiad blynyddol i'r Prif Weinidog, y mae'n rhaid iddo gynnwys—
(a)crynodeb o'r camau a gymerwyd wrth arfer swyddogaethau'r Comisiynydd o dan y Ddeddf yn ystod y flwyddyn ariannol flaenorol, gan gynnwys crynodeb o'r adroddiadau a gyhoeddwyd yn ystod y cyfnod hwnnw ac o unrhyw sylwadau y gall y Comisiynydd fod wedi'u cyflwyno yn ystod y cyfnod hwnnw yn unol ag adran 75A o'r Ddeddf, gan gynnwys unrhyw sylwadau a gyflwynwyd ynghylch amrediad neu effeithiolrwydd pwerau'r Comisiynydd;
(b)adolygiad o faterion sy'n berthnasol i hawliau a lles plant yng Nghymru; ac
(c)crynodeb o raglen waith y Comisiynydd ar gyfer y flwyddyn ariannol y cyflwynir yr adroddiad ynddi ac o gynigion y Comisiynydd ar gyfer rhaglen waith ar gyfer y flwyddyn ariannol yn dilyn y flwyddyn honno.
(2) Rhaid i'r Comisiynydd hefyd gynhyrchu fersiwn o'r adroddiad blynyddol sydd, cyn belled ag y bo'n rhesymol ymarferol, yn addas ar gyfer plant.
(3) Rhaid i'r adroddiadau cyntaf y cyfeirir atynt ym mharagraffau (1) a (2) gael eu cyflwyno yn 2002.
(4) Yn ddarostyngedig i baragraff (3), rhaid i'r Comisiynydd, erbyn 1 Hydref bob blwyddyn, anfon copi o'r adroddiadau y cyfeirir atynt ym mharagraffau (1) a (2)—
(a)at y Prif Weinidog; a
(b)i lyfrgelloedd y Cynulliad a dau Dŷ'r Senedd.
16.—(1) Rhaid i'r Comisiynydd drefnu bod copïau o adroddiadau a gyflwynir o dan baragraffau (1) neu (2) o reoliad 13 ac o dan reoliad 15 ar gael i'w harchwilio yn swyddfa'r Comisiynydd ar bob adeg resymol ac mewn unrhyw fannau eraill neu drwy unrhyw gyfrwng arall, gan gynnwys drwy gyfrwng electronig, y mae'r Comisiynydd yn credu eu bod yn briodol.
(2) Rhaid i'r Comisiynydd gyhoeddi'r trefniadau a enwyd mewn ffordd a fydd yn dod â hwy i sylw personau y mae'n debyg, ym marn resymol y Comisiynydd, y bydd ganddynt ddiddordeb.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: