xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN VSWYDDOGAETHAU PELLACH

Y berthynas â phlant

12.—(1Rhaid i'r Comisiynydd gymryd camau rhesymol i sicrhau—

(a)bod plant yng Nghymru yn cael gwybod am leoliad swyddfa neu swyddfeydd y Comisiynydd ac ym mha ffyrdd y gallant gyfathrebu â'r Comisiynydd a'i staff;

(b)bod plant o'r fath yn cael eu hannog i gyfathrebu â'r Comisiynydd a'i staff;

(c)bod cynnwys unrhyw ddeunydd a gyhoeddir gan y Comisiynydd neu ei staff, p'un a fydd wedi'i argraffu neu ar ffurf electronig, y bwriedir iddo gael ei ddarllen gan unrhyw un neu ragor o blant o'r fath, yn cymryd i ystyriaeth, cyn belled ag y bo'n ymarferol, oedran, lefel dealltwriaeth ac iaith arferol y sawl y bwriedir iddo ei dderbyn;

(ch)bod barn plant o'r fath ynghylch sut y dylai'r Comisiynydd arfer ei swyddogaethau ac ynghylch cynnwys rhaglen waith flynyddol y Comisiynydd yn cael ei cheisio; a

(d)bod y Comisiynydd a'i staff yn trefnu eu bod ar gael i blant o'r fath yn ardal y plant.

(2Wrth arfer y swyddogaethau a nodir ym mharagraff (1) rhaid i'r Comisiynydd roi sylw i beth yw anghenion ac amgylchiadau plant o'r fath yn ei farn resymol ef.