xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
Offerynnau Statudol Cymru
TRAFNIDIAETH, CYMRU
Wedi'i wneud
25 Gorffennaf 2001
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Gorchymyn canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 275(2) a 276(2) o Ddeddf Trafnidiaeth 2000(1):
1.—(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Trafnidiaeth 2000 (Cychwyn Rhif 1) (Cymru) 2001.
(2) Yn y Gorchymyn hwn ystyr “y Ddeddf” yw Deddf Trafnidiaeth 2000.
(3) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys i Gymru.
2. Daw darpariaethau'r Ddeddf a bennir yn Atodlen 1 i'r Gorchymyn hwn i rym, yn ddarostyngedig i'r cyfyngiadau a bennir yn yr Atodlen honno, ar 1 Awst 2001.
3. Daw darpariaethau'r Ddeddf a bennir yn Atodlen 2 i'r Gorchymyn hwn i rym ar 1 Ebrill 2002.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(2).
Rhodri Morgan
Prif Ysgrifennydd y Cynulliad Cenedlaethol
25 Gorffennaf 2001
Erthygl 2
1. Adrannau 108 i 123.
2. Adrannau 128(4), 130(8), 131(2), (3) a (4), 132(6), 133 a 134
3. Gweddill darpariaethau adrannau 124 i 132 ond mewn perthynas yn unig â'r pwerau i wneud rheoliadau o dan y darpariaethau a bennir ym mharagraff 2 o'r Atodlen hon.
4. Adrannau 135 i 144.
5. Adran 145 ac eithrio is-adrannau (1), (2) a (3).
6. Adrannau 146 i 150.
7. Adran 152.
8. Adran 153 ac eithrio i'r graddau y mae'n perthyn i baragraff 1(1)(a) a (2)(a) o Atodlen 10 i'r Ddeddf ac i'r geiriau “a quality partnership scheme or” ym mharagraff 12(2) o'r Atodlen honno.
9. Adran 154(1) i (5).
10. Adrannau 155 i 160.
11. Adran 161 ac eithrio i'r graddau y mae'n perthyn i baragraffau 15 i 20 o Atodlen 11 i'r Ddeddf.
12. Adran 162.
13. Adrannau 163(2)(b), 168(3), 172(1), 173(1), (2), (3) a (4), 174(1), (2) a (5), 175(1) ac 176(2).
14. Gweddill Pennod I o Ran III (ac eithrio adran 166) ond mewn perthynas yn unig â'r pwerau i wneud rheoliadau o dan y darpariaethau a bennir ym mharagraff 13 o'r Atodlen hon.
15. Adrannau 178(2)(b), 182(5), 183(3), 187(1) a 189(1), (2), (3)(b) a (4).
16. Gweddill Pennod II o Ran III (ac eithrio adran 181) ond mewn perthynas yn unig â'r pwerau i wneud rheoliadau o dan y darpariaethau a bennir ym mharagraff 15 o'r Atodlen hon.
17. Pennod III o Ran III (ac eithrio adrannau 191 ac 199).
Erthygl 3
1. Adran 145(1), (2) a (3).
2. Adran 161 i'r graddau y mae'n perthyn i baragraffau 15 i 20.
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Mae'r Gorchymyn hwn yn dod â rhai darpariaethau o Rannau II a III o Ddeddf Trafnidiaeth 2000 i rym yng Nghymru.
Mae'r darpariaethau sy'n dod i rym ar 1 Awst 2001 yn cynnwys:
Adrannau 108 i 113, sy'n gosod dyletswydd ar yr awdurdodau lleol i baratoi cynlluniau trafnidiaeth lleol a strategaethau bysiau;
Adrannau 114 i 123, sy'n gwneud darpariaeth i'r awdurdodau trafnidiaeth lleol wneud cynlluniau partneriaeth ansawdd gwasanaeth bysiau;
Adrannau 124 i 134, sy'n gwneud darpariaeth i'r awdurdodau trafnidiaeth lleol wneud cynlluniau contractau ansawdd gwasanaethau bysiau, ond dim ond i'r graddau sy'n galluogi'r Cynulliad Cenedlaethol i wneud rheoliadau sy'n perthyn i'r cynlluniau hynny;
Adrannau 135 i 138, sy'n galluogi'r awdurdodau lleol i wneud cynlluniau ynglyn â thocynnau bysiau ar y cyd a thrwodd;
Adrannau 139 i 144, sy'n gosod dyletswydd ar yr awdurdodau lleol i benderfynu sut i sicrhau bod y cyhoedd yn derbyn gwybodaeth am wasanaethau bysiau lleol;
Adrannau 145 i 150 sy'n gwneud darpariaeth ar gyfer consesiynau teithio gorfodol ar fysiau lleol i rai hen neu anabl (ond heb gynnwys yr hawl i'r consesiwn ei hun);
Adrannau 152 i 159 (gyda rhai eithriadau), sy'n ymwneud â grantiau ar gyfer trafnidiaeth gyhoeddus leol a phrofion cystadleuaeth ynglyn ag arfer pwerau sy'n perthyn i wasanaethau bysiau;
Adrannau 160, 161 a 162, sy'n ymwneud â'r pwerau i wneud rheoliadau, mân ddiwygiadau i'r gyfraith a dehongli;
Pennod I o Ran III o'r Ddeddf sy'n darparu ar gyfer cynlluniau codi tâl ar ddefnyddwyr ffyrdd, ond dim ond i'r graddau sy'n galluogi'r Cynulliad Cenedlaethol a'r Arglwydd Ganghellor i wneud rheoliadau sy'n perthyn i'r cynlluniau hynny;
Pennod II o Ran III o'r Ddeddf sy'n darparu ar gyfer ardollau parcio mannau gwaith, ond dim ond i'r graddau sy'n galluogi'r Cynulliad Cenedlaethol a'r Arglwydd Ganghellor i wneud rheoliadau sy'n perthyn i'r cynlluniau hynny;
Pennod III o Ran III o'r Ddeddf sy'n gwneud darpariaethau cyffredinol ac atodol yn perthyn i godi tâl ar ddefnyddwyr ffyrdd ac ardollau parcio mannau gwaith ond ac eithrio Atodlen 12 sy'n cynnwys darpariaethau ariannol;
Mae'r darpariaethau sy'n dod i rym ar 1 Ebrill 2002 yn cynnwys:
Y darpariaethau o Adran 145 sy'n rhoi'r hawl i'r consesiynau teithio;
Rhai diwygiadau llai i'r gyfraith o dan Adran 161.