Teitl, cychwyn a dehongli1

1

Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Daliadau Amaethyddol (Unedau Cynhyrchu) (Cymru) 2001 a daw i rym ar 31 Awst 2001.

2

Mae unrhyw gyfeiriad yn y Gorchymyn hwn at “yr Atodlen” yn gyfeiriad at yr Atodlen i'r Gorchymyn hwn.

3

Mae unrhyw gyfeiriad yn y Gorchymyn hwn at offeryn y Gymuned Ewropeaidd yn gyfeiriad at yr offeryn hwnnw ac unrhyw ddiwygiad i'r cyfryw offeryn sydd mewn grym ar y dyddiad y gwneir y Gorchymyn hwn.

4

Yn y Gorchymyn hwn:

  • ystyr “Rheoliad 805/68 y Cyngor” (“Council Regulation 805/68”) yw Rheoliad (EEC) Rhif 805/68 y Cyngor ar drefniadaeth gyffredin y farchnad mewn cig eidion a chig llo3;

  • ystyr “Rheoliad 1765/92 y Cyngor” (“Council Regulation 1765/92”) yw Rheoliad (EEC) Rhif 1765/92 y Cyngor sy'n sefydlu system gynnal i gynhyrchwyr cnydau âr penodol4;

  • ystyr “Rheoliad 2467/98 y Cyngor” (“Council Regulation 2467/98”) yw Rheoliad (EC) Rhif 2467/98 y Cyngor ar drefniadaeth gyffredin y farchnad mewn cig dafad a chig gafr 5;

  • ystyr “Rheoliad 1251/99 y Cyngor” (“Council Regulation 1251/99”) yw Rheoliad (EC) Rhif 1251/99 y Cyngor sy'n sefydlu system gynnal i gynhyrchwyr cnydau âr penodol6;

  • ystyr “Rheoliad 1254/99 y Cyngor” (“Council Regulation 1254/99”) yw Rheoliad (EC) Rhif 1254/99 y Cyngor ar drefniadaeth gyffredin y farchnad mewn cig eidion a chig llo7).