Gorchymyn Daliadau Amaethyddol (Unedau Cynhyrchu) (Cymru) 2001

Teitl, cychwyn a dehongli

1.—(1Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Daliadau Amaethyddol (Unedau Cynhyrchu) (Cymru) 2001 a daw i rym ar 31 Awst 2001.

(2Mae unrhyw gyfeiriad yn y Gorchymyn hwn at “yr Atodlen” yn gyfeiriad at yr Atodlen i'r Gorchymyn hwn.

(3Mae unrhyw gyfeiriad yn y Gorchymyn hwn at offeryn y Gymuned Ewropeaidd yn gyfeiriad at yr offeryn hwnnw ac unrhyw ddiwygiad i'r cyfryw offeryn sydd mewn grym ar y dyddiad y gwneir y Gorchymyn hwn.

(4Yn y Gorchymyn hwn:

  • ystyr “Rheoliad 805/68 y Cyngor” (“Council Regulation 805/68”) yw Rheoliad (EEC) Rhif 805/68 y Cyngor ar drefniadaeth gyffredin y farchnad mewn cig eidion a chig llo(1);

  • ystyr “Rheoliad 1765/92 y Cyngor” (“Council Regulation 1765/92”) yw Rheoliad (EEC) Rhif 1765/92 y Cyngor sy'n sefydlu system gynnal i gynhyrchwyr cnydau âr penodol(2);

  • ystyr “Rheoliad 2467/98 y Cyngor” (“Council Regulation 2467/98”) yw Rheoliad (EC) Rhif 2467/98 y Cyngor ar drefniadaeth gyffredin y farchnad mewn cig dafad a chig gafr (3);

  • ystyr “Rheoliad 1251/99 y Cyngor” (“Council Regulation 1251/99”) yw Rheoliad (EC) Rhif 1251/99 y Cyngor sy'n sefydlu system gynnal i gynhyrchwyr cnydau âr penodol(4);

  • ystyr “Rheoliad 1254/99 y Cyngor” (“Council Regulation 1254/99”) yw Rheoliad (EC) Rhif 1254/99 y Cyngor ar drefniadaeth gyffredin y farchnad mewn cig eidion a chig llo(5)).

(1)

OJ Rhif L148, 28.6.68, t.24 (OJ / SE 1968(I) t.187) fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad y Cyngor (EC) Rhif 1633/98 (OJ Rhif L210 28.7.98, t.17) (a oedd yn gymwys hyd at a chan gynnwys 31 Rhagfyr 1999).

(2)

OJ Rhif L181, 1.7.92, t.12, yn ôl y diwygiad diweddaraf gan Reoliad(EC) Rhif 1624/98 y Cyngor (OJ Rhif L210, 28.7.98, t.3) (a oedd yn gymwys tan 30 Mehefin 2000).

(3)

OJ Rhif L312, 20.11.98, t.1.

(4)

OJ Rhif. L160, 26.6.99, t.1 (a fu'n gymwys o 1 Gorffennaf 2000 ymlaen).

(5)

OJ Rhif L160, 26.6.99, t.21 (ac eithrio. Erthygl 18, sy'n gymwys ers 1 Ionawr 2000).