2001 Rhif 3064 (Cy. 253 )
Gorchymyn Daliadau Amaethyddol (Unedau Cynhyrchu) (Cymru) (Rhif 3) 2001
Wedi'i wneud
Yn dod i rym
Teitl, cychwyn a dehongli1
1
Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Daliadau Amaethyddol (Unedau Cynhyrchu) (Cymru) (Rhif 3) 2001 a daw i rym ar 12 Medi 2001.
2
Mae unrhyw gyfeiriad yn y Gorchymyn hwn at “yr Atodlen” yn gyfeiriad at yr Atodlen i'r Gorchymyn hwn.
3
Mae unrhyw gyfeiriad yn y Gorchymyn hwn at offeryn y Gymuned Ewropeaidd yn gyfeiriad at yr offeryn hwnnw ac unrhyw ddiwygiad i'r cyfryw offeryn sydd mewn grym ar y dyddiad y gwneir y Gorchymyn hwn.
4
Yn y Gorchymyn hwn:
ystyr “Rheoliad 2467/98 y Cyngor” (“Council Regulation 2467/98”) yw Rheoliad (EC) Rhif 2467/98 y Cyngor ar drefniadaeth gyffredin y farchnad mewn cig dafad a chig gafr 3;
ystyr “Rheoliad 1251/99 y Cyngor” (“Council Regulation 1251/99”) yw Rheoliad (EC) Rhif 1251/99 y Cyngor sy'n sefydlu system gynnal i gynhyrchwyr cnydau âr penodol4;
ystyr “Rheoliad 1254/99 y Cyngor” (“Council Regulation 1254/99”) yw Rheoliad (EC) Rhif 1254/99 y Cyngor ar drefniadaeth gyffredin y farchnad mewn cig eidion a chig llo5.
Asesiad o gynhwysedd cynhyrchiol y tir2
1
Mae paragraffau (2) a (3) o'r erthygl hon yn cael effaith at ddibenion asesu cynhwysedd cynhyrchiol uned o dir amaethyddol a leolir yng Nghymru, er mwyn penderfynu a yw'r uned honno'n uned fasnachol o dir amaethyddol o fewn ystyr is-baragraff (1) o baragraff 3 o Atodlen 6 i Ddeddf Daliadau Amaethyddol 1986.
2
Pan ellir defnyddio'r tir dan sylw, wrth ei ffermio o dan reolaeth gymwys, i gynhyrchu unrhyw dda byw, cnwd, ffrwythau, etc., fel a grybwyllir yn unrhyw un o gofnodion 1 i 7 yng ngholofn 1 o'r Atodlen, yna —
a
yr uned a bennir yng ngholofn 2 o'r Atodlen gyferbyn â'r cofnod hwnnw fydd yr uned gynhyrchu a ragnodir mewn perthynas â'r defnydd hwnnw o dir, a
b
y swm a bennir yng ngholofn 3 o'r Atodlen gyferbyn â'r uned gynhyrchu honno fydd y swm a benderfynir am y cyfnod o 12 mis yn dechrau gyda 12 Medi 2001 fel yr incwm blynyddol net gan yr uned gynhyrchu honno yn y cyfnod hwnnw.
3
Pan ellir defnyddio tir, wrth ei ffermio o dan reolaeth gymwys, i gynhyrchu incwm blynyddol net a phan ddynodir hwnnw fel neilltir, fel a grybwyllir yng nghofnod 8 yng ngholofn 1 o'r Atodlen, yna —
a
yr uned a bennir yng ngholofn 2 o'r Atodlen gyferbyn â'r cofnod hwnnw fydd yr uned gynhyrchu a ragnodir mewn perthynas â'r defnydd hwnnw o'r tir, a
b
y swm a bennir yng ngholofn 3 o'r Atodlen gyferbyn â'r uned gynhyrchu honno fydd y swm a benderfynir am y cyfnod o 12 mis yn dechrau gyda 12 Medi 2001 fel yr incwm blynyddol net gan yr uned gynhyrchu honno yn y cyfnod hwnnw.
4
Mae'r Atodlen yn cael effaith yn ddarostyngedig i'r Nodiadau i'r Atodlen.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 19986.
ATODLENRHAGNODI UNEDAU CYNHYRCHU A PHENDERFYNU INCWM BLYNYDDOL NET
Colofn 1 | Colofn 2 | Colofn 3 |
---|---|---|
Defnydd ffermio | Uned gynhyrchu | Incwm blynyddol net gan uned gynhyrchu £ |
1. Da byw | ||
Buchod llaeth: | ||
Bridiau Ynysoedd y Sianel | buwch | 296 |
Bridiau eraill | buwch | 375 |
Buchod bridio cig eidion: | ||
Ar dir cymwys o dan Reoliadau Tir Mynydd 2001(a) | buwch | 51(1) |
Ar dir arall | buwch | 43(1) |
Gwartheg pesgi cig eidion (lled arddwys) | pen | 45(2) |
Buchod llaeth i lenwi bylchau | pen | 30(3) |
Mamogiaid: | ||
Ar dir cymwys o dan Reoliadau Tir Mynydd 2001 | mamog | 10(4) |
Ar dir arall | mamog | 11(5) |
Ŵyn stôr (gan gynnwys ŵ yn benyw a werthir fel hesbinod blwydd) | pen | 0.87 |
Moch: | ||
Hychod a banwesi torrog | hwch neu fanwes | 70 |
Moch porc | pen | 1.37 |
Moch torri | pen | 2.59 |
Moch bacwn | pen | 3.79 |
Dofednod: | ||
Ieir dodwy | aderyn | 0.90 |
Brwyliaid | aderyn | 0.09 |
Cywennod ar ddodwy | aderyn | 0.20 |
Tyrcwn | aderyn | 1.27 |
2. Cnydau âr fferm | ||
Haidd | hectar | 140(6) |
Ffa | hectar | 158(7) |
Had glaswellt | hectar | 125 |
Had llin | hectar | 22(8) |
Ceirch | hectar | 163(9) |
Rêp had olew | hectar | 82(10) |
Pys: | ||
Sych | hectar | 200(11) |
Dringo | hectar | 205 |
Tatws: | ||
Cynnar cyntaf | hectar | 835 |
Prif gnwd (gan gynnwys hadau) | hectar | 860 |
Betys siwgr | hectar | 250 |
Gwenith | hectar | 197(12) |
3. Cnydau garddwriaethol awyr agored | ||
Ffa cyffredin | hectar | 410 |
Ysgewyll Brwsel | hectar | 1505 |
Bresych, safwy a brocoli blaguro | hectar | 1730 |
Moron | hectar | 2270 |
Blodfresych a brocoli'r gaeaf | hectar | 975 |
Seleri | hectar | 8255 |
Cennin | hectar | 2945 |
Letys | hectar | 4150 |
Wynwns: | ||
Bylbiau sych | hectar | 1305 |
Salad | hectar | 4125 |
Bylbiau awyr agored | hectar | 1600 |
Pannas | hectar | 2591 |
Riwbob (naturiol) | hectar | 4845 |
Maip a swêds | hectar | 1210 |
4.Cnydau gwarchodedig | ||
Narsisi gorfod | 1000 metr sgwâr | 6980 |
Tiwlipau gorfod | 1000 metr | 7175 |
5. Ffrwythau'r berllan | ||
Afalau: | ||
Seidr | hectar | 420 |
Coginio | hectar | 1275 |
Melys | hectar | 1250 |
Ceirios | hectar | 690 |
Gellyg | hectar | 965 |
Eirin | hectar | 1215 |
6. Ffrwythau meddal | ||
Cyrens Duon | hectar | 740 |
Mafon | hectar | 3000 |
Mefus | hectar | 3500 |
7. Amrywiol | ||
Hopys | hectar | 1670 |
8. Neilltir(1) | ||
hectar | 28 | |
NODIADAU I'R ATODLEN | ||
Erthygl 2(4) | ||
Nodyn i golofn 1 | ||
(1) Ar gyfer y flwyddyn farchnata 2001/2002 mae hyn yn cyfeirio at dir sydd wedi'i neilltuo o dan Erthygl 2(3) o Reoliad 1251/99 y Cyngor, ac eithrio pan ddefnyddir tir felly (yn unol ag Erthygl 6(3) o Reoliad 1251/99 y Cyngor) ar gyfer darparu deunyddiau at weithgynhyrchu cynhyrchion o fewn y Gymuned na fwriedir iddynt yn uniongyrchol yn anad dim gael eu bwyta gan bobl neu anifeiliaid. | ||
Nodiadau i golofn 3 | ||
(1) Didynner £126 o'r ffigur hwn yn achos anifeiliaid nad yw'r incwm blynyddol net ar eu cyfer yn cynnwys swm ynglŷn â'r premiwm at gynnal buchod sugno (premiwm buchod sugno) y darperir ar ei gyfer yn Erthygl 6 o Reoliad 1254/99 y Cyngor. Ychwaneger £20 at y ffigur yng ngholofn 3 yn achos anifeiliaid y mae'r incwm blynyddol net ar eu cyfer yn cynnwys swm ynglŷn â graddfa is y premiwm anarddwysáu y darperir ar ei gyfer yn Erthygl 13 o Reoliad 1254/99 y Cyngor. Ychwaneger £40 at y ffigur yng ngholofn 3 yn achos anifeiliaid y mae'r incwm blynyddol net ar eu cyfer yn cynnwys swm ynglŷn â graddfa uwch y premiwm anarddwysáu y darperir ar ei gyfer yn Erthygl 13 o Reoliad 1254/99 y Cyngor. | ||
(2) Dyma'r ffigur ar gyfer anifeiliaid a fyddai'n cael eu cadw am 12 mis. Didynner £91 yn achos anifeiliaid a gedwir am 12 mis nad yw'r incwm blynyddol net ar eu cyfer yn cynnwys swm ynglŷn â'r premiwm arbennig dros gadw anifeiliaid buchol gwryw (premiwm arbennig cig eidion) y darperir ar ei gyfer yn Erthygl 4 o Reoliad 1254/99 y Cyngor. Ychwaneger £20 at y ffigur yng ngholofn 3 yn achos anifeiliaid a gedwir am 12 mis y mae'r incwm blynyddol net ar eu cyfer yn cynnwys swm ynglŷn â graddfa is y premiwm anarddwysáu. Ychwaneger £40 at y ffigur yng ngholofn 3 yn achos anifeiliaid a fyddai'n cael eu cadw am y cyfnod hwnnw ac y mae'r incwm blynyddol net ar eu cyfer yn cynnwys swm ynglŷn â graddfa uwch y premiwm anarddwysáu. Yn achos anifeiliaid a gedwir am lai na 12 mis ac nad yw'r incwm blynyddol net ar eu cyfer yn cynnws swm ynglŷn â'r premiwm arbennig cig eidion, cyfrifir yr incwm blynyddol net drwy ddidynnu £91 o'r ffigur yng ngholofn 3 ac wedyn gwneud addasiad pro rata o'r ffigur canlyniadol. Yn achos anifeiliaid a gedwir am lai na 12 mis ac y mae'r incwm blynyddol net ar eu cyfer yn cynnws swm ynglŷn â'r premiwm arbennig cig eidion, cyfrifir yr incwm blynyddol net i ddechrau drwy ddidynnu £91 o'r ffigur yng ngholofn 3, wedyn gwneud addasiad pro rata o'r ffigur canlyniadol, wedyn ychwanegu at y ffigur hwnnw y swm o £91 ac (lle mae'r incwm blynyddol net yn cynnwys swm ynglŷn â phremiwm anarddwysáuestyniad) y swm o £20 (lle telir y premiwm anarddwysáuestyniad ar y raddfa is) neu £40 (lle telir y premiwm anarddwysáuestyniad ar y raddfa uwch). | ||
(3) Mae hwn yn dangos y ffigur ar gyfer anifeiliaid (gan anwybyddu oedran) a gedwir am 12 mis. Yn achos anifeiliaid a gedwir am lai na 12 mis rhaid gwneud addasiad pro rata i'r ffigur hwn. | ||
(4) Didynner £12 o'r ffigur hwn yn achos anifeiliaid nad yw'r incwm blynyddol net ar eu cyfer yn cynnwys swm ynglŷn â'r premiwm ar gyfer gwrthbwyso colli incwm gan gynhyrchwyr cig defaid (premiwm blynyddol defaid) y darperir ar ei gyfer yn Erthygl 5 o Reoliad 2467/98 y Cyngor. | ||
(5) Didynner £8 o'r ffigur hwn yn achos anifeiliaid nad yw'r incwm blynyddol net ar eu cyfer yn cynnwys swm ynglŷn â'r premiwm defaid blynyddol. | ||
(6) Didynner £219 o'r ffigur hwn yn achos tir nad yw'r incwm blynyddol net ar ei gyfer yn cynnwys swm ynglŷn â iawndal y gall cynhyrchwyr cnydau âr wneud cais amdano (taliad arwynebedd) y darperir ar ei gyfer yn Erthygl 2 o Reoliad 1251/99 y Cyngor. | ||
(7) Didynner £253 o'r ffigur hwn yn achos tir nad yw'r incwm blynyddol net ar ei gyfer yn cynnwys swm ynglŷn â thaliad arwynebedd. | ||
(8) Didynner £264 o'r ffigur hwn yn achos tir nad yw'r incwm blynyddol net ar ei gyfer yn cynnwys swm ynglŷn â thaliad arwynebedd. | ||
(9) Didynner £219 o'r ffigur hwn yn achos tir nad yw'r incwm blynyddol net ar ei gyfer yn cynnwys swm ynglŷn â thaliad arwynebedd. | ||
(10) Didynner £258 o'r ffigur hwn yn achos tir nad yw'r incwm blynyddol net ar ei gyfer yn cynnwys swm ynglŷn â thaliad arwynebedd. | ||
(11) Didynner £253 o'r ffigur hwn yn achos tir nad yw'r incwm blynyddol net ar ei gyfer yn cynnwys swm ynglŷn â thaliad arwynebedd. | ||
(12) Didynner £220 o'r ffigur hwn yn achos tir nad yw'r incwm blynyddol net ar ei gyfer yn cynnwys swm ynglŷn â thaliad arwynebedd. |
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)