2001 Rhif 3322 (Cy.275)
Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Treuliau Teithio a Pheidio â Chodi Tâl) (Diwygio) (Rhif 2) (Cymru) 2001
Wedi'u gwneud
Yn dod i rym
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 83A, 126(4) a 128(1) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 19771, drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol:
Enwi, cychwyn, dehongli a chymhwyso1
1
Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Treuliau Teithio a Pheidio â Chodi Tâl) (Diwygio) (Rhif 2) (Cymru) 2001 a deuant i rym ar 1 Hydref 2001.
2
Yn y Rheoliadau hyn, ystyr “y prif Reoliadau” yw Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Treuliau Teithio a Pheidio â Chodi Tâl) 19882.
3
Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru yn unig.
Diwygio rheoliad 4 o'r prif Reoliadau2
Yn rheoliad 4 o'r prif Reoliadau (disgrifiad o bersonau sydd â hawl i beidio â thalu dim ac i gael taliad llawn), ar ddiwedd paragraff (m) ychwanegir y gair “or” a'r paragraff canlynol —
n
a relevant child for the purposes of section 23A of the Children Act 1989 to whose maintenance a responsible local authority is contributing under section 23B(8) of that Act
Diwygio rheoliad 7 o'r prif Reoliadau3
Ym mharagraff 1(a)(ii) o reoliad 7 o'r prif Reoliadau (hawliadau am beidio â thalu neu am daliad), yn lle “or (m)” rhowch “(m) or (n)”.
Diwygio Atodlen 1A o'r prif Reoliadau4
Yn Atodlen 1A o'r prif Reoliadau (cyfnodau dilysrwydd hysbysiadau hawl), ar ôl paragraff 9 ychwanegir y paragraff canlynol—
10
A relevant child for the purposes of section 23A of the Children Act 1989 to whose maintenance a responsible local authority is contributing under section 23B(8) of that Act.
12 months or until the child’s 18th birthday whichever is longer
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 19984
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)