Enwi, cychwyn, dehongli a chymhwyso1.

(1)

Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Gwastraff Arbennig (Diwygio) (Cymru) 2001.

(2)

Daw'r Rheoliadau hyn i rym —

(a)

yn achos pob darpariaeth heblaw rheoliadau 10 ac 11, ar 1 Tachwedd 2001;

(b)

yn achos rheoliad 10, ar 1 Rhagfyr 2001; ac

(c)

yn achos rheoliad 11, ar 1 Mai 2002.

(3)

Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru.