Rheoliadau Addysg (Ysgolion ac Addysg Bellach ac Uwch) (Diwygio) (Cymru) 2001

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Addysg (Ysgolion ac Addysg Bellach ac Uwch) 1989 (“Rheoliadau 1989”) mewn perthynas â Chymru.

Diwygir Rheoliad 4 o Reoliadau 1989 er mwyn tynnu'r cyfeiriad at ysgol a gynhelir â grant (sef categori o ysgol nad yw'n bod mwyach).

Diddymir Rheoliad 8 fel nad oes gofyn i Gynulliad Cenedlaethol Cymru mwyach gymeradwyo darparu tir ac adeiladau newydd sy'n golygu gwaith adeiladu neu newidiadau i dir ac adeiladau presennol mewn ysgol, sefydliad addysg bellach neu uwch neu hostel ar gyfer disgyblion ag anghenion addysgol arbennig.

Mae'r diddymiad yn tynnu'r angen am gymeradwyaeth o dan y Rheoliadau yn unig ac nid yr angen am unrhyw gymeradwyaeth neu gydsyniad arall o dan unrhyw ddeddfiad arall.

Gwnaed diwygiadau tebyg ar gyfer Lloegr gan Reoliadau Addysg (Ysgolion ac Addysg Bellach ac Uwch) (Diwygio) (Lloegr) 2001 (O.S. 2001/692).