2001 Rhif 3711 (Cy.307)

ADDYSG, CYMRU

Rheoliadau Cynrychiolwyr Rhiant -lywodraethwyr a Chynrychiolwyr Eglwysig (Cymru) 2001

Wedi'u gwneud

Yn dod i rym

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 32, 105(2) a 106(1) a (2) o Ddeddf Llywodraeth Leol 20001 a pharagraffau 9(4), (5) a (6) o Atodlen 1 iddi, a thrwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 499 a 569(4) a (5) o Ddeddf Addysg 19962 ac sydd bellach wedi'u breinio yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru3:

Enwi, cychwyn a chymhwyso1

1

Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cynrychiolwyr Rhiant-lywodraethwyr a Chynrychiolwyr Eglwysig (Cymru) 2001.

2

Deuant i rym ar 14 Rhagfyr 2001.

3

Maent yn gymwys i Gymru yn unig.

Dehongli2

Yn y Rheoliadau hyn, onid yw'r cyd-destun yn mynnu fel arall:

  • ystyr “awdurdod addysg lleol” (“local education authority”) yw awdurdod addysg lleol yng Nghymru;

  • ystyr “cynrychiolydd rhiant-lywodraethwyr” (“parent governor representative”) yw person sydd wedi'i ethol yn unol â rheoliadau 5 i 7 neu sy'n cael ei drin yn unol â rheoliad 11 pe bai wedi'i ethol felly;

  • ystyr “Deddf 1998” (“the 1998 Act”) yw Deddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 19984);

  • ystyr “Deddf 2000” (“the 2000 Act”) yw Deddf Llywodraeth Leol 2000;

  • ystyr “dyddiad yr etholiad” (“the date of the election”), mewn perthynas ag etholiad pan ellir bwrw pleidlais ar fwy nag un dyddiad, yw'r dyddiad olaf y gellir bwrw pleidlais neu y gellir derbyn pleidleisiau post;

  • mae i “gweithrediaeth” yr ystyr a roddir i “executive” gan adran 11 o Ddeddf 2000;

  • ystyr “pwyllgor trosolygu a chraffu addysg” (“education overview and scrutiny committee”) yw —

    1. a

      pwyllgor neu is?bwyllgor trosolygu a chraffu awdurdod addysg lleol wedi'i benodi o dan adran 21 o Ddeddf 2000 y mae ei swyddogaethau yn ymwneud yn gyfan gwbl neu'n rhannol ag unrhyw swyddogaethau addysg sy'n gyfrifoldeb i weithrediaeth yr awdurdod; neu

    2. b

      pwyllgor neu is-bwyllgor awdurdod addysg lleol wedi'i benodi yn unol â darpariaeth sydd wedi'i chynnwys mewn trefniadau amgen yn rhinwedd adran 32(1)(b) o Ddeddf 2000 (trefniadau ar gyfer penodi pwyllgorau neu is-bwyllgorau i adolygu neu graffu ar benderfyniadau a wnaed, neu gamau eraill a gymrwyd, mewn cysylltiad â chyflawni swyddogaethau'r awdurdod) y mae ei swyddogaethau'n ymwneud yn gyfan gwbl neu'n rhannol ag unrhyw swyddogaethau addysg sy'n gyfrifoldeb i'r awdurdod5;

  • ystyr “Rheoliadau 1999” (“the 1999 Regulations”) yw Rheoliadau Addysg (Cynrychiolwyr Rhiant-lywodraethwyr) (Cymru) 19996;

  • ystyr “rhiant-lywodraethwr” (“parent governor”) yw—

    1. a

      person—

      1. i

        sydd wedi'i ethol yn aelod o gorff llywodraethu ysgol gan rieni disgyblion cofrestredig yn yr ysgol; a

      2. ii

        sydd yn rhiant i ddisgybl o'r fath ar yr adeg y caiff ei ethol; neu

    2. b

      person sydd wedi'i benodi'n rhiant-lywodraethwr gan y corff llywodraethu yn unol â rheoliadau o dan Ddeddf 19987; neu

    3. c

      person sy'n parhau yn rhiant-lywodraethwr at ddibenion ailgyfansoddi'r corff llywodraethu wrth drosi i'r fframwaith ysgolion newydd yn rhinwedd rheoliadau o dan Ran II o Ddeddf 19988);

  • mae i “trefniadau amgen” yr ystyr a roddir i “alternative arrangements” gan adran 32 o Ddeddf 2000;

  • mae i “trefniadau gweithrediaeth” yr ystyr a roddir i “executive arrangements” gan adran 10 o Ddeddf 2000;

  • ystyr “trefniadau pleidleisio yn ôl categori” (“voting by category arrangements”) yw trefniadau o'r math y cyfeirir atynt yn rheoliad 5(2);

  • mae i “ysgol” (“school”) yr ystyr a roddir i “maintained school” gan adran 20(7) o Ddeddf 1998.

Trefniadau Amgen3

1

Pennir darpariaethau'r Rheoliadau hyn yn drefniadau amgen at ddibenion Rhan II o Ddeddf 2000 yn ychwanegol at y trefniadau amgen a bennir yn Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Trefniadau Amgen) (Cymru) 20019.

2

I'r graddau y mae unrhyw ddarpariaeth yn y Rheoliadau hynny'n anghyson ag unrhyw ddarpariaeth yn y Rheoliadau hyn, y ddarpariaeth yn y Rheoliadau hyn fydd drechaf.

Gofyniad bod pwyllgorau trosolygu a chraffu addysg yn cynnwys cynrychiolwyr rhiant-lywodraethwyr4

Yn ddarostyngedig i reoliad 13, rhaid i awdurdod addysg lleol benodi o leiaf ddau ond nid mwy na phum cynrychiolydd rhiant-lywodraethwyr, wedi'u hethol yn unol â rheoliad 5, i bob un o'u pwyllgorau trosolygu a chraffu addysg.

Gweithdrefnau etholiadol a swyddi gwag5

1

Yn ddarostyngedig i'r Rheoliadau hyn, rhaid i awdurdod addysg lleol wneud yr holl drefniadau angenrheidiol ar gyfer cynnal etholiad cynrychiolydd rhiant-lywodraethwyr a phenderfynu ar yr holl faterion eraill ynghylch ei gynnal, ond ni fydd dim yn y rheoliad hwn yn atal awdurdod rhag penodi corff arall i gynnal neu oruchwylio'r etholiad hwnnw.

2

Caiff awdurdod addysg lleol wneud trefniadau i rannu cynrychiolwyr rhiant?lywodraethwyr i gategorïau gwahanol sy'n cynrychioli naill ai —

a

math penodol o ysgol neu fathau penodol o ysgol, neu

b

ysgolion mewn ardal ddaearyddol benodol,

ac i gyfyngu etholaeth pob categori felly i riant-lywodraethwyr o'r un math o ysgol neu o'r un mathau o ysgol neu riant-lywodraethwyr ysgolion yn yr ardal honno.

3

Os bydd gofyn llenwi swydd ar gyfer cynrychiolydd rhiant-lywodraethwyr drwy etholiad rhaid i'r awdurdod addysg lleol gyhoeddi'r swydd wag honno o fewn tri mis iddi ddod yn wag ac ar yr un adeg â'r cyhoeddiad hwnnw rhaid iddynt—

a

penodi swyddog canlyniadau a fydd yn sicrhau cyn belled â phosibl fod yr etholiad yn cael ei gynnal yn deg; a

b

cymryd unrhyw gamau sy'n rhesymol ymarferol i sicrhau bod pob person y gwyddys ei fod yn gymwys i bleidleisio mewn etholiad cynrychiolydd rhiant-lywodraethwyr (yn unol â rheoliad 6)—

i

wedi cael gwybod am y swydd wag y mae'n ofynnol ei llenwi drwy etholiad;

ii

wedi cael gwybod bod ganddo ef neu ganddi hi hawl i bleidleisio yn yr etholiad a bod esboniad o'r gweithdrefnau pleidleisio yn rheoliad 6(2) i 6(6) (fel y bo'n gymwys) yn cael ei roi iddo ef neu iddi hi;

iii

wedi cael gwybod am fanylion yr amserlen a'r gweithdrefnau etholiadol;

iv

wedi cael gwybod am y cymwysterau y mae ar berson eu hangen (o dan reoliad 7) er mwyn cael ei ethol yn gynrychiolydd rhiant-lywodraethwyr, ac am gyfnod swydd cynrychiolydd rhiant-lywodraethwyr (o dan reoliad 9); a

v

wedi cael disgrifiad o rôl cynrychiolydd rhiant-lywodraethwyr.

4

Rhaid cynnal unrhyw etholiad cynrychiolydd rhiant-lywodraethwyr lle ceir gornest drwy bleidlais gyfrinachol.

5

Ni chaiff unrhyw bapur pleidleisio mewn etholiad felly gynnwys unrhyw arwydd o gysylltiad â phlaid wleidyddol.

6

Pan fydd swydd wag ar gyfer cynrychiolydd rhiant-lywodraethwyr yn codi, rhaid i'r awdurdod addysg lleol —

a

penderfynu, at ddibenion yr etholiad, unrhyw gwestiwn ynghylch hawl person i bleidleisio neu ei gymhwyster i sefyll etholiad;

b

darparu i bob person sy'n gymwys i bleidleisio yn yr etholiad gael cyfle i wneud hynny drwy'r post;

c

sicrhau bod canlyniadau'r etholiad yn cael eu cyhoeddi heb fod yn fwy nag wythnos ar ôl dyddiad yr etholiad.

7

Yn ddarostyngedig i baragraff (8), pan fydd swydd wag ar gyfer cynrychiolydd rhiant-lywodraethwyr, rhaid i'r awdurdod addysg lleol sicrhau bod etholiad yn cael ei gynnal mewn pryd i lenwi'r swydd heb fod yn hwyrach na chwe mis ar ôl y dyddiad y daeth y swydd yn wag.

8

Pan fydd swydd wag ar gyfer cynrychiolydd rhiant-lywodraethwyr heb ei llenwi oherwydd nad oes ymgeisydd, neu nad oes digon o ymgeiswyr yn ceisio cael eu hethol, rhaid i'r awdurdod addysg lleol gydymffurfio â gofynion y rheoliad hwn unwaith eto cyn pen blwyddyn i'r swydd wreiddiol ddod yn wag a phob chwe mis wedyn, wedi'i gyfrifo o'r pen-blwydd cyntaf ar ôl i'r swydd wreiddiol ddod yn wag, hyd nes y llenwir y swydd.

9

Ni fydd dim yn y Rheoliadau hyn yn ei gwneud yn ofynnol i bleidlais gael ei chynnal os yw nifer y swyddi gwag sydd i'w llenwi yn hafal i nifer yr ymgeiswyr sydd i'w ethol neu'n fwy na hynny.

Cymhwyster i bleidleisio mewn etholiadau a gofynion pleidleisio6

1

Yn ddarostyngedig i baragraffau (2) a (3), bydd person yn gymwys i bleidleisio yn etholiad cynrychiolydd rhiant-lywodraethwyr os yw'r person hwnnw ar ddyddiad yr etholiad yn rhiant-lywodraethwr ar un neu fwy o ysgolion a gynhelir gan yr awdurdod addysg lleol sy'n cynnal yr etholiad.

2

Pan fydd pleidleisio, o dan drefniadau pleidleisio yn ôl categori, dros gategori penodol o gynrychiolydd rhiant-lywodraethwyr yn cael ei gyfyngu i riant-lywodraethwyr o fath penodol neu o fathau penodol o ysgol a gynhelir gan yr awdurdod, ni fydd person yn gymwys i bleidleisio yn etholiad categori felly o gynrychiolydd rhiant-lywodraethwyr ond os yw ar ddyddiad yr etholiad yn rhiant-lywodraethwr un neu fwy o ysgolion o'r math hwnnw neu o'r mathau hynny a gynhelir gan yr awdurdod.

3

Pan fydd pleidleisio, o dan drefniadau felly, dros gategori penodol o gynrychiolydd rhiant-lywodraethwyr yn cael ei gyfyngu i riant-lywodraethwyr o ysgolion a gynhelir gan yr awdurdod mewn ardal ddaearyddol benodol, ni fydd person yn gymwys i bleidleisio yn etholiad categori felly o gynrychiolydd rhiant-lywodraethwyr ond os yw ar ddyddiad yr etholiad yn rhiant-lywodraethwr un neu fwy o ysgolion yn yr ardal ddaearyddol honno a gynhelir gan yr awdurdod.

4

Pan na fydd yr awdurdod wedi gwneud trefniadau pleidleisio yn ôl categori, bydd gan berson sydd yn rhiant-lywodraethwr ar fwy nag un ysgol a gynhelir gan yr awdurdod ar ddyddiad yr etholiad, hawl i fwrw'r nifer o bleidleisiau sy'n hafal i nifer yr ysgolion hynny y mae'n rhiant-lywodraethwr arnynt ar ddyddiad yr etholiad.

5

Pan fydd yr awdurdod wedi gwneud trefniadau pleidleisio yn ôl categori, bydd gan berson sydd, yn rhinwedd paragraff (2) neu (3), yn gymwys i bleidleisio yn etholiad mwy nag un categori o gynrychiolydd rhiant-lywodraethwyr (oherwydd ei fod yn rhiant-lywodraethwr ar fwy nag un math o ysgol neu ar ysgolion mewn mwy nag un ardal ddaearyddol, yn ôl fel y digwydd) hawl i bleidleisio yn etholiad pob categori felly y mae'n gymwys ynddynt.

6

Bydd y nifer o bleidleisiau y mae gan berson felly hawl i'w bwrw yn etholiad pob categori felly o gynrychiolydd rhiant-lywodraethwyr y mae'n gymwys i bleidleisio ynddynt yn nifer sy'n hafal i nifer yr ysgolion a gynhelir gan yr awdurdod y mae'n rhiant-lywodraethwr cymwys arnynt ar ddyddiad yr etholiad.

7

Ym mharagraff (6) ystyr “rhiant-lywodraethwr cymwys” (“eligible parent governor”) yw rhiant-lywodraethwr sy'n gymwys yn unol â pharagraff (2) neu (3) (yn ôl fel y digwydd) a pharagraff (5) i bleidleisio yn etholiad y categori o gynrychiolydd rhiant-lywodraethwyr o dan sylw.

Cymwysterau ar gyfer etholiad fel cynrychiolydd rhiant-lywodraethwyr7

1

Yn ddarostyngedig i ddarpariaethau canlynol y rheoliad hwn, bydd person, onid yw wedi'i anghymhwyso o dan unrhyw ddeddfiad, yn gymwys i'w ethol fel cynrychiolydd rhiant-lywodraethwyr mewn etholiad a gynhelir gan awdurdod addysg lleol os yw ar ddyddiad yr etholiad—

a

yn rhiant-lywodraethwr ysgol a gynhelir gan yr awdurdod hwnnw; a

b

yn rhiant plentyn cofrestredig sy'n cael ei addysgu mewn ysgol a gynhelir gan yr awdurdod hwnnw, neu sy'n cael ei addysgu gan yr awdurdod hwnnw heblaw mewn ysgol.

2

Pan fydd y swydd wag yn un ar gyfer cynrychiolydd rhiant-lywodraethwyr i gynrychioli math penodol o ysgol neu fathau penodol o ysgol, ni fydd person yn gymwys i gael ei ethol ond os yw, yn ychwanegol at fodloni gofynion paragraffau (1)(a) ac (1)(b) hefyd yn rhiant-lywodraethwr ar ysgol o'r math hwnnw neu ar un o'r mathau hynny o ysgol.

3

Pan fydd y swydd wag yn un ar gyfer cynrychiolydd rhiant-lywodraethwyr i gynrychioli ysgolion mewn ardal ddaearyddol benodol, ni fydd person yn gymwys i gael ei ethol ond os yw, yn ychwanegol at fodloni gofynion paragraffau (1)(a) ac (1)(b) hefyd yn rhiant-lywodraethwr ar ysgol yn yr ardal honno.

4

Bydd person sydd eisoes yn aelod o'r awdurdod addysg lleol sy'n cynnal yr etholiad wedi'i anghymhwyso rhag cael ei ethol yn gynrychiolydd rhiant-lywodraethwyr.

5

Bydd person sy'n athro neu'n athrawes, neu a gyflogir fel arall, mewn ysgol a gynhelir gan yr awdurdod addysg lleol sy'n cynnal yr etholiad, neu mewn uned cyfeirio disgyblion neu mewn ysgol feithrin a gynhelir gan yr awdurdod hwnnw, wedi'i anghymhwyso rhag cael ei ethol yn gynrychiolydd rhiant-lywodraethwyr.

6

Bydd person a gyflogir gan yr awdurdod addysg lleol sy'n cynnal yr etholiad, ac y mae ei gyflogaeth yn ymwneud yn gyfan gwbl neu'n rhannol â swyddogaethau addysg yr awdurdod hwnnw, wedi'i anghymhwyso rhag cael ei ethol yn gynrychiolydd rhiant-lywodraethwyr.

7

Ni fydd person yn gymwys i'w ethol yn gynrychiolydd rhiant-lywodraethwyr pwyllgor trosolygu a chraffu addysg awdurdod addysg lleol os yw ar ddyddiad yr etholiad eisoes yn dal swydd fel cynrychiolydd rhiant-lywodraethwyr ar bwyllgor trosolygu a chraffu addysg yr awdurdod hwnnw neu unrhyw awdurdod arall.

Anghymhwyso rhag parhau i ddal swydd fel cynrychiolydd rhiant-lywodraethwyr8

1

Bydd cynrychiolydd rhiant-lywodraethwyr a oedd yn gymwys i'w ethol o dan y Rheoliadau hyn yn peidio â bod yn gymwys i ddal y swydd honno —

a

pan fydd yn ymddiswyddo neu pan gaiff ei anghymhwyso o swydd rhiant-lywodraethwr o dan unrhyw ddeddfiad; neu

b

yn ddarostyngedig i baragraffau (2) a (3), pan fydd yn rhoi'r gorau i fod yn rhiant-lywodraethwr mewn ysgol a gynhelir gan yr awdurdod addysg lleol o dan sylw, am unrhyw reswm heblaw—

i

bod cyfnod ei swydd fel rhiant-lywodraethwr ysgol o'r fath wedi dod i ben; neu

ii

bod newid yng nghyfansoddiad corff llywodraethu'r ysgol yr oedd yn rhiant-lywodraethwr arni.

2

Bydd cynrychiolydd rhiant-lywodraethwyr a oedd yn gymwys i'w ethol o dan drefniadau pleidleisio yn ôl categori fel cynrychiolydd rhiant-lywodraethwyr i gynrychioli ysgolion o fath penodol neu o fathau penodol yn peidio â bod yn gymwys i ddal y swydd honno os nad yw mwyach yn dal unrhyw swydd fel rhiant-lywodraethwr a oedd yn ei gymhwyso neu a fyddai wedi ei gymhwyso i gael ei ethol yn gynrychiolydd rhiant-lywodraethwyr am unrhyw reswm heblaw'r rhesymau y cyfeirir atynt ym mharagraff (1)(b).

3

Bydd cynrychiolydd rhiant-lywodraethwyr a oedd yn gymwys i'w ethol o dan drefniadau pleidleisio yn ôl categori fel cynrychiolydd rhiant-lywodraethwyr i gynrychioli ysgolion mewn ardal ddaearyddol benodol yn peidio â bod yn gymwys i ddal y swydd honno os nad yw mwyach yn dal unrhyw swydd fel rhiant-lywodraethwr a oedd yn ei gymhwyso neu a fyddai wedi ei gymhwyso i gael ei ethol yn gynrychiolydd rhiant-lywodraethwyr am unrhyw reswm heblaw'r rhesymau y cyfeirir atynt ym mharagraff (1)(b).

4

Bydd cynrychiolydd rhiant-lywodraethwyr yn peidio â bod yn gymwys i ddal y swydd honno os bydd yn cael ei ethol yn aelod o'r awdurdod addysg lleol o dan sylw.

5

Bydd cynrychiolydd rhiant-lywodraethwyr yn peidio â bod yn gymwys i ddal y swydd honno os bydd yn ymgymryd â chyflogaeth—

a

p'un ai fel athro neu athrawes neu fel arall, mewn ysgol a gynhelir gan yr awdurdod addysg lleol o dan sylw neu mewn uned cyfeirio disgyblion neu mewn ysgol feithrin a gynhelir gan yr awdurdod hwnnw, neu

b

gyda'r awdurdod addysg lleol a bod ei gyflogaeth yn ymwneud yn gyfan gwbl neu'n rhannol â swyddogaethau addysg yr awdurdod hwnnw.

6

Bydd cynrychiolydd rhiant-lywodraethwyr sydd wedi methu â bod yn bresennol yng nghyfarfodydd pwyllgor trosolygu a chraffu addysg y mae'n aelod ohono am gyfnod di-dor o chwe mis gan ddechrau ar ddyddiad cyfarfod, pan fydd y cyfnod hwnnw'n dod i ben, yn peidio â bod yn gymwys i ddal y swydd honno.

7

At ddibenion paragraff (6), ni chymerir bod cynrychiolydd rhiant-lywodraethwyr wedi methu â bod yn bresennol mewn cyfarfod o bwyllgor trosolygu a chraffu addysg os yw wedi cyflwyno ymddiheuriad am ei absenoldeb a bod yr ymddiheuriad hwnnw wedi'i dderbyn gan y pwyllgor.

Cyfnod y swydd9

1

Yn ddarostyngedig i baragraff (2) isod a rheoliad 13 (darpariaethau trosiannol), bydd cyfnod swydd cynrychiolydd rhiant-lywodraethwyr ar bwyllgor trosolygu a chraffu addysg —

a

yn dechrau ar unrhyw ddyddiad y penderfynir arno gan yr awdurdod addysg lleol, sef dyddiad heb fod yn fwy na mis ar ôl dyddiad cyhoeddi canlyniad yr etholiad yr etholwyd ef neu hi ynddo, a

b

o'r hyd hwnnw y penderfynir arno gan yr awdurdod addysg lleol sef cyfnod heb fod yn llai na dwy flynedd nac yn fwy na phedair blynedd.

2

Pan na fydd cynrychiolydd rhiant-lywodraethwyr yn cwblhau cyfnod ei swydd, caiff yr awdurdod addysg lleol benodi olynydd iddo am y rhan o gyfnod blaenorol y swydd sydd heb ddirwyn i ben.

Hawliau pleidleisio cynrychiolwyr rhiant-lywodraethwyr10

Bydd gan gynrychiolydd rhiant-lywodraethwyr hawl i bleidleisio yng nghyfarfod pwyllgor trosolygu a chraffu addysg y mae'n aelod ohono ar unrhyw gwestiwn —

a

sy'n ymwneud ag unrhyw swyddogaethau addysg sydd yn gyfrifoldeb yr awdurdod addysg lleol o dan sylw, a

b

sydd i'w ystyried yn y cyfarfod.

Cynrychiolwyr eglwysig11

1

Mae'r rheoliad hwn yn gymwys i bwyllgor awdurdod addysg lleol sydd wedi'i benodi yn unol â'r ddarpariaeth a gynhwysir mewn trefniadau amgen yn rhinwedd adran 32(1)(b) (y cyfeirir ato isod yn y rheoliad hwn fel pwyllgor trosolygu a chraffu addysg) os yw swyddogaethau'r pwyllgor yn ymwneud yn gyfan gwbl neu'n rhannol ag unrhyw swyddogaethau addysg sy'n gyfrifoldeb i'r awdurdod.

2

Mae'r rheoliad hwn hefyd yn gymwys i is-bwyllgor i bwyllgor trosolygu a chraffu addysg awdurdod os yw swyddogaethau'r is-bwyllgor yn ymwneud yn gyfan gwbl neu'n rhannol ag unrhyw swyddogaethau addysg sy'n gyfrifoldeb i'r awdurdod.

3

Rhaid i bwyllgor neu is-bwyllgor trosolygu a chraffu addysg y mae'r rheoliad hwn yn gymwys iddo gynnwys un neu fwy o bersonau a benodir fel cynrychiolwyr y personau sy'n penodi llywodraethwyr sefydledig ar gyfer yr ysgolion a gynhelir gan yr awdurdod o dan sylw ac sydd wedi'u pennu mewn cyfarwyddiadau a wneir gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru fel ysgolion sydd â chymeriad yn gysylltiedig â chrefydd benodol, neu ag enwad crefyddol penodol, sydd wedi'u pennu yn y cyfarwyddiadau.

4

Nid yw paragraff (3) yn gymwys os nad oes ysgolion a gynhelir gan yr awdurdod o dan sylw ac sydd wedi'u pennu mewn cyfarwyddiadau o dan y paragraff hwnnw.

5

Mae gan aelod o bwyllgor neu is-bwyllgor trosolygu a chraffu addysg a benodwyd yn rhinwedd paragraff (3) hawl i bleidleisio mewn cyfarfod o'r pwyllgor neu o'r is-bwyllgor ar unrhyw gwestiwn —

a

sy'n ymwneud ag unrhyw swyddogaethau addysg sy'n gyfrifoldeb i'r awdurdod o dan sylw, a

b

sydd i'w benderfynu yn y cyfarfod.

6

Caiff Cynulliad Cenedlaethol Cymru drwy gyfarwyddiadau i awdurdod addysg lleol ei gwneud yn ofynnol i unrhyw un o bwyllgorau neu is-bwyllgorau trosolygu a chraffu addysg yr awdurdod y mae'r rheoliad hwn yn gymwys iddynt gynnwys personau a benodir, yn unol â'r cyfarwyddiadau, yn gynrychiolwyr y personau sy'n penodi llywodraethwyr sefydledig i'r ysgolion hynny a gynhelir gan yr awdurdod o dan sylw ac nad ydynt wedi'u pennu mewn cyfarwyddiadau o dan baragraff (3) a all gael eu pennu mewn cyfarwyddiadau o dan y paragraff hwn.

7

Gall cyfarwyddiadau o dan baragraff (6) wneud darpariaeth ynghylch hawliau pleidleisio personau a benodir yn unol â chyfarwyddiadau o'r fath.

Diddymu a Darpariaethau Trosiannol

12

1

Mae Rheoliadau 1999 drwy hyn wedi'u diddymu.

2

Ni fydd diddymu Rheoliadau 1999 yn dirymu penodiad cynrychiolwyr rhiant-lywodraethwyr i bwyllgor perthnasol (o fewn ystyr “relevant committee” yn Rheoliadau 1999).

3

Hyd nes y bydd awdurdod addysg lleol yn gweithredu trefniadau gweithrediaeth neu drefniadau amgen bydd y Rheoliadau hyn yn effeithiol mewn perthynas â'r awdurdod hwnnw—

a

fel pe bai cyfeiriadau at “pwyllgor trosolygu a chraffu addysg” yn gyfeiriadau at bwyllgor perthnasol (o fewn ystyr “relevant committee” yn Rheoliadau 1999), a

b

fel pe bai'r cyfeiriad yn rheoliad 10 at “gweithrediaeth yr awdurdod addysg lleol o dan sylw” yn gyfeiriad at “yr awdurdod o dan sylw”.

13

1

Yn y rheoliad hwn, ystyr “Cynrychiolydd 1999” yw cynrychiolydd rhiant-lywodraethwyr —

a

sydd wedi'i ethol a'i benodi i bwyllgor perthnasol (o fewn ystyr “relevant committee” yn Rheoliadau 1999) awdurdod lleol yn unol â Rheoliadau 1999, a

b

nad yw cyfnod ei swydd a gyfrifwyd yn unol â Rheoliadau 1999, wedi dirwyn i ben ar y dyddiad y mae'r awdurdod hwnnw'n sefydlu pwyllgor trosolygu a chraffu addysg.

2

Yn ddarostyngedig i baragraff (3) pan fydd awdurdod addysg lleol yn sefydlu pwyllgor trosolygu a chraffu addysg, ymdrinnir â Chynrychiolydd 1999 fel pe bai wedi'i benodi i'r pwyllgor trosolygu a chraffu addysg hwnnw.

3

Bydd Cynrychiolydd 1999 yr ymdrinnir ag ef fel pe bai wedi'i benodi i bwyllgor trosolygu a chraffu addysg yn unol â pharagraff (2) yn parhau yn ei swydd hyd nes y daw cyfnod gwreiddiol ei swydd i ben fel aelod o'r pwyllgor perthnasol (o fewn ystyr “relevant committee” yn Rheoliadau 1999).

4

Ni fydd dim ym mharagraff (3) yn atal Cynrychiolydd 1999 rhag cael ei anghymhwyso rhag parhau yn ei swydd yn rhinwedd darpariaeth a wneir o dan y Rheoliadau hyn.

Diwygio Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Trefniadau Amgen) (Cymru) 200114

1

Yn rheoliad 2 o Reoliadau Awdurdodau Lleol (Trefniadau Amgen) (Cymru) 2001 10 yn y diffiniad o “trefniadau amgen” ar ôl “rheoliad 4” mewnosodwch “neu â Rheoliadau Cynrychiolwyr Rhiant-lywodraethwyr a Chynrychiolwyr Eglwysig (Cymru) 200111

2

Yn lle rheoliad 4(3) o'r Rheoliadau hynny rhowch y canlynol:

3

Yn ddarostyngedig i baragraff (4), pennir y trefniadau a nodir yn y Rheoliadau hyn a'r trefniadau a nodir yn Rheoliadau Cynrychiolwyr Rhiant-lywodraethwyr a Chynrychiolwyr Eglwysig (Cymru) 200112 yn drefniadau amgen at ddibenion Rhan II o Ddeddf 2000.

4

I'r graddau y mae unrhyw ddarpariaeth yn y Rheoliadau hyn yn anghyson ag unrhyw ddarpariaeth yn Rheoliadau Cynrychiolwyr Rhiant-lywodraethwyr a Chynrychiolwyr Eglwysig (Cymru) 2001, y ddarpariaeth yn y Rheoliadau olaf hynny fydd drechaf.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 199813

John MarekDirprwy Lywydd y Cynulliad Cenedlaethol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae Rhan II o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000 yn gwneud darpariaeth i awdurdodau lleol yng Nghymru a Lloegr wneud trefniadau sy'n golygu creu a gweithredu gweithrediaeth i'r awdurdod. Mae Rhan II o'r Ddeddf honno hefyd yn gwneud darpariaeth i'r awdurdodau lleol wneud trefniadau amgen nad ydynt yn golygu creu a gweithredu gweithrediaeth i'r awdurdod. Mae'n ofynnol i awdurdodau lleol sy'n gweithredu trefniadau gweithrediaeth neu drefniadau amgen sefydlu un neu fwy o bwyllgorau y cyfeirir atynt yn y Rheoliadau hyn fel pwyllgorau trosolygu a chraffu.

Mae'r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth i gynrychiolwyr rhiant-lywodraethwyr mewn ysgolion a gynhelir gael eu cynnwys ar bwyllgorau trosolygu a chraffu addysg yr awdurdodau addysg lleol yng Nghymru.

Mae rheoliad 3 yn datgan bod darpariaethau'r Rheoliadau hyn wedi'u pennu fel trefniadau amgen yn unol â Deddf Llywodraeth Leol 2000 ac mai'r Rheoliadau hyn sy'n trechu os digwydd bod unrhyw ddarpariaeth yn anghyson â Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Trefniadau Amgen) (Cymru) 2001.

Mae rheoliad 4 yn darparu bod pob pwyllgor trosolygu a chraffu addysg yn cynnwys rhwng 2 a 5 o gynrychiolwyr rhiant-lywodraethwyr.

Mae rheoliad 5 yn nodi'r gweithdrefnau ar gyfer ethol cynrychiolwyr rhiant-lywodraethwyr ac yn caniatáu i'r awdurdodau addysg lleol wneud trefniadau i rannu cynrychiolwyr rhiant-lywodraethwyr i gategorïau gwahanol sy'n cynrychioli math penodol neu fathau penodol o ysgol neu sy'n cynrychioli ysgolion mewn ardaloedd daearyddol penodol.

Mae rheoliad 6 yn ymwneud â meini prawf cymhwyster ar gyfer pleidleisio mewn etholiadau. Oni fydd awdurdod addysg lleol yn cynnal etholiad ar gyfer categori penodol o gynrychiolwyr rhiant-lywodraethwyr gall unrhyw riant-lywodraethwr ysgol a gynhelir gan yr awdurdod hwnnw bleidleisio. Er hynny, os yw'r swydd wag yn un ar gyfer cynrychiolydd rhiant-lywodraethwyr i gynrychioli math penodol neu fathau penodol o ysgol dim ond rhiant-lywodraethwyr yr un math neu fathau o ysgol a all bleidleisio. Yn yr un modd, os yw'r swydd wag yn un ar gyfer cynrychiolydd rhiant-lywodraethwr i gynrychioli ysgolion mewn ardal benodol dim ond rhiant-lywodraethwyr ysgolion yn yr ardal honno a all bleidleisio. Ym mhob etholiad pan fydd cynrychiolydd rhiant-lywodraethwyr yn gymwys i bleidleisio mae gan y cynrychiolydd rhiant-lywodraethwyr hwnnw bleidlais ar wahân ar gyfer pob swydd llywodraethwr gymwys y mae'n ei dal ar gyfer yr etholiad arbennig hwnnw.

Mae rheoliad 7 yn nodi'r cymwysterau ar gyfer etholiad fel cynrychiolydd rhiant-lywodraethwyr. Yn fras, gall unrhyw berson sy'n rhiant-lywodraethwr ac yn rhiant i blentyn sy'n cael ei addysgu gan yr awdurdod sy'n cynnal yr etholiad gael ei ethol. Er hynny, os yw'r swydd wag yn un i gynrychioli math penodol neu fathau penodol o ysgol dim ond rhiant-lywodraethwyr o'r math neu fathau perthnasol o ysgol a all gael eu hethol. Yn yr un modd, os yw'r swydd wag yn un i gynrychioli ysgolion mewn ardal ddaearyddol benodol dim ond rhiant-lywodraethwyr ysgolion yn yr ardal honno a all gael eu hethol.

Mae rheoliadau 7 a 8 yn nodi'r amgylchiadau sy'n anghymhwyso person rhag cael ei ethol neu rhag parhau i weithredu fel cynrychiolydd rhiant-lywodraethwyr.

Mae rheoliad 9 yn darparu cyfnod swydd cynrychiolydd rhiant-lywodraethwyr i fod rhwng dwy flynedd a phedair blynedd, onid yw'r swydd yn dod yn wag yn ystod y cyfnod, ac mae'n nodi'r weithdrefn pan ddaw'r swydd yn wag yn ystod y cyfnod, gan gynnwys cyfnod swydd olynydd y cynrychiolydd.

Mae rheoliad 10 yn nodi hawliau pleidleisio cynrychiolwyr rhiant-lywodraethwyr. Gall cynrychiolydd bleidleisio ar unrhyw fater sy'n ymwneud â swyddogaethau addysgol gweithrediaeth yr awdurdod sy'n codi yng nghyfarfod un o bwyllgorau trosolygu a chraffu addysg yr awdurdod hwnnw.

Mae rheoliad 11 yn darparu i bwyllgor trosolygu a chraffu addysg sydd wedi'i benodi o dan drefniadau amgen a weithredir gan awdurdod addysg lleol gynnwys o leiaf un cynrychiolydd eglwysig os yw'r awdurdod o dan sylw yn cynnal un neu fwy o ysgolion â chymeriad crefyddol.

Mae rheoliad 12 yn diddymu Rheoliadau blaenorol sy'n ymdrin â chynrychiolwyr rhiant-lywodraethwyr. Mae hefyd yn nodi darpariaethau trosiannol i ymdrin â'r sefyllfa cyn i'r pwyllgorau trosolygu a chraffu newydd gael eu sefydlu.

Mae rheoliad 13 yn ymdrin â throsglwyddo cynrychiolwyr rhiant-lywodraethwyr a etholwyd o dan yr hen Reoliadau i'r pwyllgorau newydd.

Mae rheoliad 14 yn gwneud diwygiadau penodol i Reoliadau Awdurdodau Lleol (Trefniadau Amgen) (Cymru) 2001 ac yn cadarnhau y bydd y Rheoliadau hyn yn cael blaenoriaeth dros y Rheoliadau hynny os bydd rhyw anghysondeb rhwng darpariaethau'r ddwy set o Reoliadau.