- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
2. Yn y Rheoliadau hyn, onid yw'r cyd-destun yn mynnu fel arall:
ystyr “awdurdod addysg lleol” (“local education authority”) yw awdurdod addysg lleol yng Nghymru;
ystyr “cynrychiolydd rhiant-lywodraethwyr” (“parent governor representative”) yw person sydd wedi'i ethol yn unol â rheoliadau 5 i 7 neu sy'n cael ei drin yn unol â rheoliad 11 pe bai wedi'i ethol felly;
ystyr “Deddf 1998” (“the 1998 Act”) yw Deddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998(1));
ystyr “Deddf 2000” (“the 2000 Act”) yw Deddf Llywodraeth Leol 2000;
ystyr “dyddiad yr etholiad” (“the date of the election”), mewn perthynas ag etholiad pan ellir bwrw pleidlais ar fwy nag un dyddiad, yw'r dyddiad olaf y gellir bwrw pleidlais neu y gellir derbyn pleidleisiau post;
mae i “gweithrediaeth” yr ystyr a roddir i “executive” gan adran 11 o Ddeddf 2000;
ystyr “pwyllgor trosolygu a chraffu addysg” (“education overview and scrutiny committee”) yw —
pwyllgor neu is?bwyllgor trosolygu a chraffu awdurdod addysg lleol wedi'i benodi o dan adran 21 o Ddeddf 2000 y mae ei swyddogaethau yn ymwneud yn gyfan gwbl neu'n rhannol ag unrhyw swyddogaethau addysg sy'n gyfrifoldeb i weithrediaeth yr awdurdod; neu
pwyllgor neu is-bwyllgor awdurdod addysg lleol wedi'i benodi yn unol â darpariaeth sydd wedi'i chynnwys mewn trefniadau amgen yn rhinwedd adran 32(1)(b) o Ddeddf 2000 (trefniadau ar gyfer penodi pwyllgorau neu is-bwyllgorau i adolygu neu graffu ar benderfyniadau a wnaed, neu gamau eraill a gymrwyd, mewn cysylltiad â chyflawni swyddogaethau'r awdurdod) y mae ei swyddogaethau'n ymwneud yn gyfan gwbl neu'n rhannol ag unrhyw swyddogaethau addysg sy'n gyfrifoldeb i'r awdurdod(2);
ystyr “Rheoliadau 1999” (“the 1999 Regulations”) yw Rheoliadau Addysg (Cynrychiolwyr Rhiant-lywodraethwyr) (Cymru) 1999(3);
ystyr “rhiant-lywodraethwr” (“parent governor”) yw—
person—
sydd wedi'i ethol yn aelod o gorff llywodraethu ysgol gan rieni disgyblion cofrestredig yn yr ysgol; a
sydd yn rhiant i ddisgybl o'r fath ar yr adeg y caiff ei ethol; neu
person sydd wedi'i benodi'n rhiant-lywodraethwr gan y corff llywodraethu yn unol â rheoliadau o dan Ddeddf 1998(4); neu
person sy'n parhau yn rhiant-lywodraethwr at ddibenion ailgyfansoddi'r corff llywodraethu wrth drosi i'r fframwaith ysgolion newydd yn rhinwedd rheoliadau o dan Ran II o Ddeddf 1998(5));
mae i “trefniadau amgen” yr ystyr a roddir i “alternative arrangements” gan adran 32 o Ddeddf 2000;
mae i “trefniadau gweithrediaeth” yr ystyr a roddir i “executive arrangements” gan adran 10 o Ddeddf 2000;
ystyr “trefniadau pleidleisio yn ôl categori” (“voting by category arrangements”) yw trefniadau o'r math y cyfeirir atynt yn rheoliad 5(2);
mae i “ysgol” (“school”) yr ystyr a roddir i “maintained school” gan adran 20(7) o Ddeddf 1998.
Gweler Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Trefniadau Amgen) (Cymru) 2001 (O.S 2001/2285 (W.173)).
Gweler rheoliadau 9 a 12 o Reoliadau Addysg (Llywodraethu Ysgolion) (Cymru)1999 (O.S. 1999/2242 (Cy.2.) ) ac Atodlenni 2, 5 a 6 iddynt.
Gweler rheoliadau 13 ac 20 o Reoliadau Addysg (Llywodraethu Ysgolion) (Trosi i Fframwaith Newydd) 1998 (O.S. 1998/2763).
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: