xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
Offerynnau Statudol Cymru
AER GLÅN, CYMRU
Wedi'u gwneud
13 Rhagfyr 2001
Yn dod i rym
17 Rhagfyr 2001
1. —Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Ardaloedd Rheoli Mwg (Tanwyddau Awdurdodedig) (Diwygio) (Cymru) 2001.
(2) Daw'r Rheoliadau hyn i rym ar 17 Rhagfyr 2001.
(3) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru yn unig.
2.—(1) Diwygir Atodlen 1 i Reoliadau Ardaloedd Rheoli Mwg (Tanwyddau Awdurdodedig) (Cymru) 2001(3)fel a ganlyn:
(2) Ar ôl paragraff 5 mewnosodir
“5A. Bord na Móna Firepak briquettes (sy'n cael eu marchnata hefyd fel Arigna Special coal briquettes), a weithgynhyrchir gan Bord na Móna Fuels Limited, Newbridge, County Kildare, Iwerddon—
(a)sy'n cynnwys glo caled (sef rhyw 50 y cant o'r cyfanswm pwysau), golosg petrolewm (sef rhyw 20 i 40 y cant o'r cyfanswm pwysau) glo meddal (sef rhyw 10 i 30 y cant o'r cyfanswm pwysau) a starts yn rhwymwr (sef gweddill y pwysau);
(b)a weithgynhyrchwyd o'r cyfansoddion hynny drwy broses sy'n cynnwys rholio-wasgu a thriniaeth wres;
(c)sy'n frics glo ar siâp gobennydd ac sy'n pwyso 50 gram ar gyfartaledd; ac
(ch)nad ydynt yn cynnwys mwy nag 1.5 y cant o sylffwr o'r cyfanswm pwysau.”
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(4)
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
13 Rhagfyr 2001
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Pan fydd mwg yn cael ei ollwng o simnai mewn ardal rheoli mwg a bod y simnai honno naill ai—
(a)yn simnai adeilad; neu
(b)yn simnai sy'n gwasanaethu ffwrnais bwyler sefydlog neu beiriannau diwydiannol (heb fod yn simnai adeilad),
mae adran 20 o Ddeddf Aer Glân 1993 (“y Ddeddf”) yn darparu bod meddiannydd yr adeilad, neu yn ôl fel y digwydd, y person sy'n meddu ar y bwyler neu'r peiriannau, yn euog o dramgwydd. Mae'n amddiffyniad os gellir dangos mai drwy ddefnyddio tanwydd awdurdodedig yn unig yr achoswyd y gollyngiad honedig.
O dan adran 20(6) o'r Ddeddf, caiff Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy reoliadau, ddatgan bod tanwydd yn danwydd awdurdodedig at y diben hwnnw.
Mae'r Rheoliadau hyn, sy'n gymwys i Gymru, yn diwygio Rheoliadau Ardaloedd Rheoli Mwg (Tanwyddau Awdurdodedig) (Cymru) 2001 fel bod Bord na Móna Firepak briquettes (sy'n cael eu marchnata hefyd fel Arigna Special coal briquettes) yn danwydd awdurdodedig ychwanegol.
Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol i'r graddau y maent yn arferadwy mewn perthynas â Chymru i Gynulliad Cenedlaethol Cymru: gweler Erthygl 2 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S.1999/672) ac Atodlen 1 iddo.