Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Pan fydd mwg yn cael ei ollwng o simnai mewn ardal rheoli mwg a bod y simnai honno naill ai—

(a)yn simnai adeilad; neu

(b)yn simnai sy'n gwasanaethu ffwrnais bwyler sefydlog neu beiriannau diwydiannol (heb fod yn simnai adeilad),

mae adran 20 o Ddeddf Aer Glân 1993 (“y Ddeddf”) yn darparu bod meddiannydd yr adeilad, neu yn ôl fel y digwydd, y person sy'n meddu ar y bwyler neu'r peiriannau, yn euog o dramgwydd. Mae'n amddiffyniad os gellir dangos mai drwy ddefnyddio tanwydd awdurdodedig yn unig yr achoswyd y gollyngiad honedig.

O dan adran 20(6) o'r Ddeddf, caiff Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy reoliadau, ddatgan bod tanwydd yn danwydd awdurdodedig at y diben hwnnw.

Mae'r Rheoliadau hyn, sy'n gymwys i Gymru, yn diwygio Rheoliadau Ardaloedd Rheoli Mwg (Tanwyddau Awdurdodedig) (Cymru) 2001 fel bod Bord na Móna Firepak briquettes (sy'n cael eu marchnata hefyd fel Arigna Special coal briquettes) yn danwydd awdurdodedig ychwanegol.