Tanwyddau awdurdodedig at ddibenion Deddf Aer Glân 1993
2.—(1) Diwygir Atodlen 1 i Reoliadau Ardaloedd Rheoli Mwg (Tanwyddau Awdurdodedig) (Cymru) 2001(1)fel a ganlyn:
(2) Ar ôl paragraff 5 mewnosodir
“5A. Bord na Móna Firepak briquettes (sy'n cael eu marchnata hefyd fel Arigna Special coal briquettes), a weithgynhyrchir gan Bord na Móna Fuels Limited, Newbridge, County Kildare, Iwerddon—
(a)sy'n cynnwys glo caled (sef rhyw 50 y cant o'r cyfanswm pwysau), golosg petrolewm (sef rhyw 20 i 40 y cant o'r cyfanswm pwysau) glo meddal (sef rhyw 10 i 30 y cant o'r cyfanswm pwysau) a starts yn rhwymwr (sef gweddill y pwysau);
(b)a weithgynhyrchwyd o'r cyfansoddion hynny drwy broses sy'n cynnwys rholio-wasgu a thriniaeth wres;
(c)sy'n frics glo ar siâp gobennydd ac sy'n pwyso 50 gram ar gyfartaledd; ac
(ch)nad ydynt yn cynnwys mwy nag 1.5 y cant o sylffwr o'r cyfanswm pwysau.”