2001 Rhif 4000 (Cy.328)

Y GWASANAETH IECHYD GWLADOL, CYMRU

Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Deintyddol Cyffredinol) (Diwygio) (Rhif 3) (Cymru) 2001

Wedi'u gwneud

Yn dod i rym

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 15(1), 35(1), 36(1) a (3) a 126(4) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 19771 drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol:

Enwi, cychwyn a chymhwyso1

1

Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Deintyddol Cyffredinol) (Diwygio) (Rhif 3) (Cymru) 2001 a deuant i rym ar 31 Rhagfyr 2001.

2

Bydd y Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru yn unig.

Diwygio Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Deintyddol Cyffredinol) 19922

Mae Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Deintyddol Cyffredinol) 1992 (“y prif Reoliadau”)2 yn cael eu diwygio yn unol â'r darpariaethau canlynol yn y Rheoliadau hyn.

Diwygio rheoliad 2 o'r prif Reoliadau3

Mae rheoliad 2(1) o'r prif Reoliadau (dehongli) yn cael ei ddiwygio fel a ganlyn—

a

mae'r diffiniad o “general anaesthesia list” yn cael ei hepgor;

b

yn y diffiniad o “treatment” mae'r geiriau “general anaesthesia and” yn cael eu dileu.

Diwygio rheoliad 4 o'r prif Reoliadau4

Mae rheoliad 4 o'r prif Reoliadau (rhestr ddeintyddol) yn cael ei ddiwygio fel a ganlyn—

a

ar ddiwedd paragraff 2(b)(ii) mae'r gair “and” yn cael ei fewnosod;

b

ar ddiwedd paragraff 2(b)(iii) mae'r gair “and” yn cael ei ddileu;

c

mae paragraff 2(b)(iv) yn cael ei hepgor.

Diwygio rheoliad 5D o'r prif Reoliadau5

Mae rheoliad 5D o'r prif Reoliadau (rhestr anaesthesia gyffredinol) yn cael ei hepgor.

Diwygio rheoliad 5E o'r prif Reoliadau6

Mae rheoliad 5E o'r prif Reoliadau (dileu cofnodion o'r rhestr anaesthesia gyffredinol neu ei diwygio) yn cael ei hepgor.

Diwygio Atodlen 1 i'r prif Reoliadau7

1

Mae Atodlen 1 i'r prif Reoliadau (telerau gwasanaeth deintyddion) yn cael ei diwygio yn unol â'r darpariaethau canlynol yn y rheoliad hwn.

2

Ym mharagraff 4(3)(g) (trefniant gofal parhaus) mae'r geiriau “general anaesthesia or” yn cael eu dileu.

3

Ym mharagraff 16 (3)(c) (cymysgu gwasanaethau deintyddol cyffredinol a thriniaeth gofal preifat) mae'r geiriau “ in which case the treatment shall be provided wholly under general dental services or wholly privately” yn cael eu dileu.

4

Mae paragraff 17 (triniaeth achlysurol) yn cael ei ddiwygio fel a ganlyn—

a

yn is-baragraff 2(c) mae'r geiriau “except that, where a general anaesthetic is used, there shall be no limit as to the number of deciduous teeth that may be extracted” yn cael eu dileu;

b

mae is-baragraff (2)(p) yn cael ei hepgor.

5

Yn lle paragraff 21 (anaesthesia gyffredinol a thawelyddu) rhoddir—

Sedation21

1

Where a dentist undertakes, in the course of providing general dental services, any procedure for which sedation of the patient is necessary he shall remain with the patient, and arrange for another person with suitable training and experience to remain with the patient, throughout the procedure.

2

In this paragraph “a person with suitable training and experience” means a person who has received such training and experience as to be capable of assisting the dentist in monitoring the clinical condition of the patient and in the event of an emergency.

6

Mae paragraff 33A (adeiladau: anaesthesia gyffredinol) yn cael ei hepgor.

7

Mae paragraff 40 (anaesthetigau cyffredinol) yn cael ei hepgor.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 19983

D. Elis-ThomasLlywydd y Cynulliad Cenedlaethol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio ymhellach ar Reoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Deintyddol Cyffredinol) 1992 (O.S. 1992/661) (“y prif Reoliadau”) sy'n rheoleiddio ar ba delerau y mae gwasanaethau deintyddol cyffredinol yn cael eu darparu o dan Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977

Mae'r diwygiadau sy'n cael eu gwneud gan y Rheoliadau hyn yn rhoi diwedd ar ddarparu triniaeth o dan anaesthesia gyffredinol o dan wasanaethau deintyddol cyffredinol.