
Print Options
PrintThe Whole
Instrument
PrintThis
Section
only
Statws
This is the original version (as it was originally made). This item of legislation is currently only available in its original format.
Cadarnhau map drafft
7.—(1) Gall y Cyngor, ar ôl ystyried unrhyw sylwadau y mae'n ofynnol iddo eu hystyried o dan ddarpariaethau rheoliad 6(1) neu (2) ynghyd ag unrhyw sylwadau pellach y mae'n penderfynu eu hystyried, yn ôl ei ddoethineb, o dan reoliad 6(4), gadarnhau'r map drafft gydag addasiadau neu hebddynt.
(2) Os yw'r Cyngor yn cadarnhau'r map drafft heb addasiadau rhaid iddo nodi'r ffaith ar y map drafft ac ar unrhyw gopi o'r map drafft sy'n cael ei wneud ar ôl y cadarnhad hwnnw.
(3) Os yw'r Cyngor yn cadarnhau'r map drafft gydag addasiadau rhaid iddo:
(a)paratoi map y bydd ei ffurf yn union yr un fath â'r map drafft ac eithrio i'r graddau y mae'n ymgorffori'r addasiadau hynny;
(b)paratoi datganiad ysgrifenedig sy'n nodi'r addasiadau hynny ac yn ymgorffori datganiad cryno o'r rhesymau dros eu gwneud; ac
(c)nodi ar y map sy'n cael ei baratoi yn unol ag is-baragraff (a) o'r paragraff hwn ac ar unrhyw gopi o'r map hwnnw y ffaith mai hwnnw sy'n cynrychioli'r map drafft fel y'i cadarnhawyd gydag addasiadau.
(4) Mae cyfeiriadau yn y rheoliad hwn at gadarnhau map yn gyfeiriadau at ei gadarnhau yn unol ag adran 5(c) o'r Ddeddf.
Back to top