2001 Rhif 424 (Cy.18)

AMAETHYDDIAETH, CYMRU

Rheoliadau'r Cynllun Ffermio Organig (Cymru) 2001

Wedi'u gwneud

Yn dod i rym

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, gan ei fod wedi'i ddynodi 1 at ddibenion adran 2(2) Deddf y Cymunedau Ewropeaidd 19722 mewn perthynas â pholisi amaethyddol cyffredin y Gymuned Ewropeaidd, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan yr adran honno, a phob pŵ er arall sy'n ei alluogi yn y cyswllt hwnnw, ar ôl cael cymeradwyaeth y Comisiwn Ewropeaidd ar gyfer cynllun datblygu gwledig a gyflwynwyd ar ffurf drafft yn unol ag Erthygl 41 o Reoliad y Cyngor (EC) Rhif 1257/19993 ar gymorth ar gyfer datblygu gwledig, drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol—