Newid meddiannaeth
12.—(1) Pan fydd newid meddiannaeth ar y cyfan neu unrhyw ran o uned organig buddiolwr yn ystod y cyfnod penodedig oherwydd disgyniad yr uned neu'r rhan organig honno ar ôl marwolaeth y buddiolwr neu fel arall—
(a)rhaid i'r buddiolwr (neu, os yw wedi marw, y cynrychiolwyr personol) hysbysu'r Cynulliad Cenedlaethol yn ysgrifenedig o fewn 28 diwrnod ar ôl newid o'r fath ynglŷn â'r newid meddiannaeth, a rhaid iddo ddarparu i'r Cynulliad Cenedlaethol yr wybodaeth ynglŷn â'r newid meddiannaeth ar y ffurf ac o fewn y cyfnod y bydd y Cynulliad Cenedlaethol yn eu cyfarwyddo'n rhesymol; a
(b)yn ddarostyngedig i ddarpariaethau'r rheoliad hwn, caiff meddiannydd newydd yr uned neu'r rhan organig honno roi ymrwymiad ysgrifenedig i'r Cynulliad Cenedlaethol i gydymffurfio, a hynny'n weithredol o'r dyddiad y daeth y meddiannydd newydd hwnnw i feddiannaeth ar yr uned neu'r rhan organig honno (yn ôl fel y digwydd) ac am weddill y cyfnod penodedig, â'r rhwymedigaethau a dderbyniwyd gan y buddiolwr o dan gais y buddiolwr hwnnw mewn perthynas â'r tir sydd wedi'i gynnwys yn yr uned organig honno, i'r graddau y maent yn gymwys mewn perthynas â'r tir a drosglwyddwyd i'r meddiannydd newydd.
(2) Pan fydd y newid meddiannaeth y cyfeirir ato ym mharagraff (1) yn dilyn marwolaeth y buddiolwr, ni fydd y pŵ er a roddir i'r Cynulliad Cenedlaethol gan reoliad 16(2) yn gymwys mewn perthynas ag ystad y buddiolwr, ynglŷn â methiant y buddiolwr â chydymffurfio ag unrhyw ymrwymiad oherwydd y farwolaeth honno.
(3) Yn ddarostyngedig i baragraff (4), pan na fydd y newid meddiannaeth y cyfeirir ato ym mharagraff (1) yn dilyn marwolaeth y buddiolwr, ni fydd y pwerau sy'n cael eu rhoi i'r Cynulliad Cenedlaethol gan reoliad 16(2) ynglŷn â rhwymedigaethau ad-dalu'r buddiolwr o dan Erthygl 29 o Reoliad y Comisiwn (sy'n llywodraethu trosglwyddo daliadau), neu ynglŷn ag unrhyw fethiant gan y buddiolwr i gydymffurfio ag unrhyw ymrwymiad, ac sydd yn y naill achos neu'r llall yn arferadwy o ganlyniad i'r ffaith fod y buddiolwr yn peidio â meddiannu'r uned organig neu'r rhan o'r uned organig (yn ôl fel y digwydd), yn gymwys, ar yr amod —
(a)bod meddiannydd newydd, o fewn tri mis o'r dyddiad y peidiodd y buddiolwr â meddiannu'r tir o dan sylw, yn rhoi ymrwymiad o dan baragraff (1)(b) mewn perthynas â'r tir hwnnw; a
(b)pan fydd y meddiannydd newydd yn meddiannu rhan yn unig o uned organig y buddiolwr, fod y buddiolwr yn bodloni'r amodau cymhwyster yn rheoliad 5(1)(a), (b) ac (c), fel y byddent yn gymwys mewn perthynas â'r rhan honno o'r uned organig y mae'r buddiolwr yn parhau i'w meddiannu, petai cais wedi'i wneud ganddo mewn perthynas â'r rhan honno.
(4) Ni fydd amodau (a) a (b) i baragraff (3) yn gymwys mewn perthynas ag unrhyw dir a drosglwyddwyd os yw'r cyfnod trosi, ar gyfer y cyfan o'r tir a drosglwyddwyd, wedi'i gwblhau a bod yr holl daliadau a oedd yn daladwy o dan y Rheoliadau hyn wedi'u gwneud.
(5) Pan fydd newid meddiannaeth ar ran o'r uned organig, rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol benderfynu i ba raddau y mae'r rhwymedigaethau a dderbyniwyd gan y buddiolwr yn ymwneud â'r rhan honno, o ystyried—
(a)arwynebedd y tir sydd wedi'i gynnwys yn y rhan honno ac yng ngweddill yr uned organig, a
(b)y defnydd sy'n cael ei wneud ar y rhan honno;
a bydd ymrwymiad sy'n cael ei roi o dan baragraff (1)(b) ar gyfer rhan o'r uned organig yn gymwys mewn perthynas â'r rhan honno i'r graddau y penderfynwyd arnynt.
(6) Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol beidio â derbyn ymrwymiad o dan baragraff (1)(b) oni fydd yn cael ei fodloni—
(a)bod y tir y mae'r ymrwymiad yn ymwneud ag ef (“y tir perthnasol”) yn ffurfio'r cyfan neu ran o uned organig sy'n cynnwys y cyfan neu ran o ddaliad y meddiannydd newydd neu ddaliad sydd wedi'i freinio yn y meddiannydd newydd hwnnw fel cynrychiolydd personol;
(b)bod y meddiannydd newydd yn meddiannu'r tir perthnasol yn gyfreithlon fel perchennog neu denant neu ei fod yn meddiannu'r tir hwnnw'n gyfreithlon fel cynrychiolydd personol y buddiolwr;
(c)y byddai'r amodau cymhwyster a bennir yn rheoliad 5(1)(a), (b)(ii) ac (ch) yn cael eu bodloni petai'r ymrwymiad yn gais ar gyfer y tir perthnasol y mae'r ymrwymiad yn ymwneud ag ef; ac
(ch)bod y meddiannydd newydd wedi rhoi'r ymrwymiad a grybwyllir ym mharagraff (7) mewn unrhyw achos lle mae'r meddiannydd newydd, cyn dechrau meddiannu'r uned organig o dan sylw, wedi cyflwyno ffermio organig ar unrhyw ran o'i ddaliad.
(7) Mae'r ymrwymiad y cyfeirir ato ym mharagraff (6)(ch) yn ymrwymiad y bydd y meddiannydd newydd yn parhau i ffermio'r rhan o'r daliad y cyfeirir ati yn y paragraff hwnnw yn unol â dulliau ffermio organig ar gyfer gweddill y cyfnod penodedig sy'n gymwys mewn perthynas â'r tir yr oedd ymrwymiadau meddiannydd blaenorol yr uned organig o dan sylw yn ymwneud ag ef.
(8) Rhaid i feddiannydd newydd, sy'n rhoi ymrwymiad i gydymffurfio â'r rhwymedigaethau a dderbyniwyd gan y buddiolwr, ddarparu i'r Cynulliad Cenedlaethol, o fewn unrhyw gyfnod ar ôl y newid meddiannaeth y bydd y Cynulliad Cenedlaethol yn ei gyfarwyddo'n rhesymol, unrhyw dystiolaeth ac unrhyw wybodaeth ychwanegol ar unrhyw ffurf y bydd y Cynulliad Cenedlaethol yn cyfarwyddo'n rhesymol y dylid eu darparu.
(9) Pan fydd y Cynulliad Cenedlaethol wedi derbyn ymrwymiad gan feddiannydd newydd i gydymffurfio â rhwymedigaethau buddiolwr—
(a)bernir bod effaith yr ymrwymiad hwnnw yn dechrau ar y dyddiad y dechreuodd y meddiannydd newydd feddiannu'r daliad, neu ran o'r daliad, yn ôl fel y digwydd; a
(b)o'r dyddiad hwnnw ymlaen, bydd y meddiannydd blaenorol yn peidio â bod yn fuddiolwr, a bydd yn peidio â chael ei rwymo gan y rhwymedigaethau a dderbyniwyd yn rhinwedd yr ymrwymiad, i'r graddau y maent yn gymwys i'r daliad neu (yn ôl fel y digwydd) i'r rhan honno o'r daliad sy'n cael ei meddiannu gan y meddiannydd newydd.
(10) Ni fydd dim ym mharagraff (9)(b) yn effeithio ar atebolrwydd buddiolwr sydd wedi dod i'w ran cyn y dyddiad y bydd yr ymrwymiad a roddir gan y meddiannydd newydd yn effeithiol.