Search Legislation

Rheoliadau'r Cynllun Ffermio Organig (Cymru) 2001

Statws

This is the original version (as it was originally made).

Dehongli

2.—(1Yn y Rheoliadau hyn, oni fydd y cyd-destun yn mynnu fel arall—

  • ystyr “a gymeradwywyd” (“approved”) yw wedi'i gymeradwyo gan awdurdod archwilio;

  • mae “amaethyddiaeth” (“agriculture”) yn cynnwys garddwriaeth, tyfu ffrwythau, tyfu hadau, ffermio llaeth, bridio a chadw da byw, a defnyddio'r tir ar gyfer tir pori, doldir, gerddi marchnad neu diroedd planhigfa, ond nid yw'n cynnwys defnyddio' tir

    (i)

    fel tir helyg gwiail; neu

    (ii)

    ar gyfer coetiroedd, ac eithrio pan yw'r defnydd hwnnw'n atodol i unrhyw ddefnydd arall ar y tir at ddibenion amaethyddiaeth;

    ystyr “awdurdod archwilio” (“inspection authority”), mewn perthynas ag uned organig neu barsel organig, yw—

    (a)

    yr awdurdod a ddynodir gan Reoliadau Cynnyrch Organig 1992(1) at ddibenion Erthygl 9 o Reoliad y Cyngor 2092/91(2), neu

    (b)

    corff archwilio preifat sydd wedi'i gymeradwyo gan yr awdurdod hwnnw yn unol ag Erthygl 9 o'r Rheoliad hwnnw (sy'n ymwneud â'r system archwilio y mae ffermio organig yn ddarostyngedig iddi),

    sef yr awdurdod neu'r corff archwilio preifat y mae'r ceisydd wedi gwneud cais iddo gyflawni swyddogaethau archwilio mewn perthynas â'r uned organig honno neu'r parsel organig hwnnw;

  • ystyr “blwyddyn ariannol” (“financial year”) yw'r deuddeng mis sy'n dod i ben ar 31 Mawrth;

  • ystyr “blwyddyn gyntaf” (“first year”) yw—

    (a)

    mewn perthynas â pharsel organig—

    (i)

    mewn achos lle mae'r cyfnod trosi mewn perthynas â'r parsel organig wedi dechrau erbyn y dyddiad derbyn fan bellaf, y flwyddyn sy'n dechrau ar y dyddiad derbyn; a

    (ii)

    mewn unrhyw achos arall, y flwyddyn sy'n dechrau ar ben-blwydd y dyddiad derbyn, sef y pen-blwydd cyntaf o'r fath i ddigwydd yn ystod y cyfnod trosi sy'n ymwneud â'r parsel organig o dan sylw; a

    (b)

    mewn perthynas ag uned organig, y flwyddyn gyntaf mewn perthynas â'r parsel organig cyntaf y mae cais yn ymwneud ag ef, sef y cais cyntaf o'r fath sy'n ymwneud â thir sydd wedi'i gynnwys yn yr uned organig honno;

    ac mae unrhyw gyfeiriad at unrhyw flwyddyn olynol yn gyfeiriad at y flwyddyn olynol berthnasol yn dilyn mewn trefn o'r flwyddyn gyntaf;

  • ystyr “buddiolwr” (“beneficiary”) yw—

    (a)

    person y mae ei gais, ynglŷn â thir sy'n cynnwys un neu ragor o barseli organig, wedi'i dderbyn gan y Cynulliad Cenedlaethol; neu

    (b)

    person sy'n meddiannu'r cyfan neu unrhyw ran o uned organig yn dilyn newid ym meddiannaeth y daliad, sydd wedi ymrwymo i gydymffurfio â'r holl rwymedigaethau yr oedd cyn-feddiannydd y daliad wedi'u derbyn o dan y Rheoliadau hyn, i'r graddau y maent yn ymwneud â thir sydd wedi'i gynnwys yn yr uned organig honno, neu ran o'r uned organig honno sy'n cael ei meddiannu gan y meddiannydd newydd, ac y mae ei ymrwymiad ar y telerau wedi'i dderbyn gan y Cynulliad Cenedlaethol;

    ystyr “cais” (“application”) yw cais am gymorth sy'n cael ei wneud yn unol â rheoliad 9 ar gyfer un neu ragor o barseli organig, a dehonglir “ceisydd” (“applicant”) a “gwneud cais” (“apply”) yn unol â hynny;

  • ystyr “CTATA” (“AAPS”) yw Cynllun Taliadau Ardal Tir År;

  • ystyr “cyfnod penodedig” (“specified period”), mewn perthynas â chais, yw'r cyfnod sy'n dechrau ar y dyddiad derbyn ac sy'n gorffen pan ddaw'r cyfnod o bum mlynedd, o'r dyddiad y daw'r taliad cyntaf yn daladwy arno ar gyfer y parsel organig olaf sy'n destun y cais hwnnw i ben;

  • ystyr “cyfnod trosi” (“conversion period”), mewn perthynas â pharsel organig, yw'r cyfnod sy'n cael ei benderfynu gan yr awdurdod archwilio fel y cyfnod y disgwylir i waith trosi'r parsel organig hwnnw gael ei gwblhau, sef cyfnod sy'n dechrau—

    (a)

    mewn perthynas â'r parsel organig cyntaf, erbyn y dyddiad derbyn fan bellaf; a

    (b)

    mewn perthynas ag unrhyw barsel organig arall, erbyn pumed pen-blwydd y dyddiad derbyn fan bellaf;

  • ystyr “cymorth” (“aid”) yw'r taliadau o dan y cynllun cymorth Cymunedol y cyfeirir ato yn Erthygl 2 o Reoliad y Cyngor 1257/1999 i'r graddau y mae'n ymwneud â ffermwyr sy'n ymrwymo i gyflwyno dulliau ffermio organig;

  • ystyr “cynllun” (“plan”) yw atodlen ysgrifenedig sy'n pennu, mewn perthynas ag uned organig—

    (a)

    y parseli hynny sydd wedi'u cofrestru gan yr awdurdod archwilio;

    (b)

    y parseli hynny y bwriedir eu cofrestru yn y dyfodol;

    (c)

    y dyddiadau y mae parseli organig o'r fath wedi'u cofrestru neu (yn ôl fel y digwydd) y bwriedir eu cofrestru; ac

    (ch)

    pan fydd y cynllun yn ymwneud â thir y mae da byw yn cael eu cadw arno, y da byw sy'n cael eu trosi neu sydd eisioes yn dda byw organig;

  • ystyr “cynllun amaeth-amgylcheddol” (“agri-environment scheme”) yw trefniant—

    (a)

    sy'n cael ei reoli gan offeryn statudol sy'n darparu ar gyfer talu cymorth i bersonau sy'n ymrwymo neu'n gwneud cytundeb mewn perthynas â defnyddio neu reoli tir; a

    (b)

    sydd wedi'i gymeradwyo gan Gomisiwn y Cymunedau Ewropeaidd o dan Erthygl 44 o Reoliad y Cyngor 1257/1999 fel rhan o gynllun datblygu gwledig a luniwyd yn unol ag Erthygl 41 o'r Rheoliad hwnnw;

    ystyr “y Cynulliad Cenedlaethol” (“the National Assembly”) yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru;

  • ystyr “da byw” (“livestock”) yw unrhyw anifail neu ffowlyn sy'n cael ei gadw ar gyfer cynhyrchu bwyd, gwlân neu grwyn neu ar gyfer bridio unrhyw anifail at unrhyw ddiben o'r fath;

  • ystyr “da byw organig” (“organic livestock”) yw da byw sydd wedi'u nodi mewn cynllun a gymeradwywyd fel da byw sy'n cydymffurfio'n llawn â'r safonau UKROFS hynny sy'n gymwys i ffermio da byw yn organig;

  • ystyr “da byw sy'n cael eu trosi” (“livestock undergoing conversion”) yw da byw sydd wedi'u nodi mewn cynllun a gymeradwywyd fel rhai sydd wrthi'n cael eu trosi i dda byw organig, ac sy'n cydymffurfio'n llawn â'r safonau UKROFS hynny sy'n gymwys mewn perthynas â ffermio da byw sy'n cael eu trosi;

  • ystyr “daliad” (“holding”) yw'r holl unedau cynhyrchu sydd wedi'u lleoli yn nhiriogaeth yr un Aelod-wladwriaeth sy'n cael eu rheoli gan gynhyrchydd;

  • ystyr “dulliau ffermio organig” (“organic farming methods)” yw ffermio sy'n cyd-fynd ag Atodiad I i Reoliad y Cyngor 2092/91;

  • ystyr “dyddiad derbyn” (“date of acceptance”) yw'r dyddiad y mae'r Cynulliad Cenedlaethol yn derbyn ffurflen gais yn unol â rheoliad 3;

  • ystyr “dyddiad dod i law” (“date of receipt”), mewn perthynas â pharsel organig, yw'r dyddiad y cafodd y Cynulliad Cenedlaethol ffurflen gais yn unol â rheoliad 9 ar gyfer y parsel organig hwnnw;

  • ystyr “ffermio organig” (“organic farming”) yw ffermio drwy ddulliau ffermio organig;

  • ystyr “hollol organig” (“fully organic”) mewn perthynas â pharsel organig neu uned organig yw—

    (a)

    bod yr awdurdod archwilio yn fodlon bod gwaith trosi'r parsel organig hwnnw neu'r uned organig honno wedi'i gwblhau; a

    (b)

    bod manylion y parsel organig hwnnw neu'r uned organig honno, ar ôl i hysbysiad gael ei roi o dan Erthygl 8 o Reoliad y Cyngor 2092/91, wedi ymddangos ar y rhestr y cyfeirir ati yn yr Erthygl honno;

  • ystyr “landlord” (“landlord”), mewn perthynas â thenant daliad, yw unrhyw berson sy'n berchennog unigol neu'n gyd-berchennog ar y daliad hwnnw, neu y mae ganddo denantiaeth landlord uwch arno, ac ystyr “landlord uniongyrchol” (“immediate landlord”) yw'r landlord y mae'r tenant yn deillio ei deitl yntau yn uniongyrchol o'i deitl (neu, yn ôl fel y digwydd, ei gyd-deitl ef neu hi);

  • ystyr “parsel organig” (“organic parcel”) yw darn o dir sy'n ffurfio'r cyfan neu ran o uned organig ac sydd wedi'i nodi mewn cynllun a gymeradwywyd drwy gyfeirio at unrhyw system rhifo caeau y mae'r Cynulliad Cenedlaethol ei cyfarwyddo y dylid ei defnyddio;

  • ystyr “parsel organig cyntaf” (“first organic parcel”) yw'r parsel organig, o blith yr holl barseli organig sydd wedi'u cynnwys mewn cais, y mae'r cyfnod trosi ar ei gyfer yn dechrau'n gyntaf;

  • ystyr “parsel organig olaf” (“last organic parcel”) yw'r parsel organig, o blith yr holl barseli organig sy'n destun cais, y mae'r cyfnod trosi ar ei gyfer yn dechrau'n olaf;

  • ystyr “perchennog” (“owner”) yw'r person sy'n berchennog ar ffi syml y daliad, a dehonglir “yn berchennog ar” (“owns”) yn unol â hynny;

  • ystyr “person awdurdodedig” (“authorised person”) yw person (p'un ai yn swyddog y Cynulliad Cenedlaethol neu beidio) sy'n cael ei awdurdodi gan y Cynulliad Cenedlaethol, naill ai'n gyffredinol neu'n benodol, i weithredu mewn perthynas â materion sy'n codi o dan y Rheoliadau hyn;

  • ystyr “Rheoliad y Comisiwn” (“Commission Regulation”) yw Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1750/1999(3) sy'n nodi rheolau manwl ar gyfer cymhwyso Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1257/1999;

  • ystyr “Rheoliad y Cyngor 1257/1999” (“Council Regulation 1257/1999”) yw Rheoliad y Cyngor (EEC) Rhif 1257/1999 ar gymorth ar gyfer datblygu gwledig;

  • ystyr “Rheoliad y Cyngor 2092/91” (“Council Regulation 2092/91”) yw Rheoliad y Cyngor (EEC) Rhif 2092/91 ar gynhyrchu cynnyrch amaethyddol yn organig a mynegiadau sy'n cyfeirio atynt ar gynnyrch a bwydydd amaethyddol;

  • ystyr “Rheoliadau 1994” (“the 1994 Regulations”) yw Rheoliadau Ffermio Organig (Cymorth) 1994(4);

  • ystyr “Rheoliadau 1999” (“the 1999 Regulations”) yw Rheoliadau Ffermio Organig (Cymru) 1999(5);

  • ystyr “safonau UKROFS” (“UKROFS standards”) yw'r safonau cynhyrchu ar gyfer ffermio organig yng Nghofrestr Safonau Bwyd Organig y Deyrnas Unedig a gyhoeddwyd yn Ionawr 1999 gan y Weinyddiaeth Amaethyddiaeth, Pysgodfeydd a Bwyd ac a elwir Safonau UKROFS ar gyfer Cynhyrchu Bwyd Organig;

  • ystyr “tenant” (“tenant”) yw person y mae ei hawl i feddiannu daliad yn deillio o'r canlynol—

    (a)

    cytundeb sy'n effeithiol yn rhinwedd adran 2 o Ddeddf Daliadau Amaethyddol 1986(6) fel cytundeb ar gyfer gosod tir ar denantiaeth o flwyddyn i flwyddyn;

    (b)

    cytundeb tenantiaeth sy'n dod o fewn adran 1 o Ddeddf Tenantiaethau Amaethyddol 1995(7); neu

    (c)

    contract ar gyfer tenantiaeth am gyfnod sefydlog o flynyddoedd;

  • ystyr “tir” (“land”) yw tir sy'n cael ei ddefnyddio ar gyfer amaethyddiaeth;

  • ystyr “trosi” (“conversion”), mewn perthynas â pharsel organig, yw trosi'r parsel organig hwnnw i un sy'n hollol organig;

  • ystyr “tystysgrif gofrestru” (“certificate of registration”) yw tystysgrif sy'n cael ei rhoi gan awdurdod archwilio mewn perthynas â pharsel organig, sy'n pennu'r cyfnod trosi sy'n gymwys i'r parsel organig hwnnw, neu'r dyddiad y mae'r cyfnod trosi hwnnw yn dechrau arno; ac at y dibenion hyn mae tystysgrif a roddir felly yn cael ei rhoi “ar gyfer” parsel organig os yw'n ymwneud â'r parsel organig hwnnw, p'un a yw'n ymwneud ag unrhyw barsel organig arall hefyd neu beidio; ac

  • ystyr “uned organig” (“organic unit”) yw arwynebedd tir sy'n cynnwys y cyfan neu ran o ddaliad, ac sydd wedi'i sefydlu fel uned organig yn unol ag Atodiad III i Reoliad y Cyngor 2092/91 (sy'n ymwneud â'r system archwilio ar gyfer unedau organig).

(2Rhaid dehongli unrhyw gyfeiriad yn y Rheoliadau hyn—

(a)at reoliad neu Atodlen â rhif yn gyfeiriad at y rheoliad neu'r Atodlen iddo sy'n dwyn y rhif hwnnw yn y Rheoliadau hyn; a

(b)at baragraff â rhif neu lythyren yn gyfeiriad at y paragraff sy'n dwyn y rhif hwnnw neu'r lythyren honno yn y rheoliad y mae'r cyfeiriad yn digwydd ynddo.

(3Rhaid i eiriau ac ymadroddion a ddefnyddir yn y Rheoliadau ac sydd heb eu diffinio ym mharagraff (1) gael eu dehongli yn unol ag Atodlen 1.

(1)

O.S. 1992/2111; a ddiwygwyd gan O.S. 1994/2286.

(2)

OJ Rhif L198, 22.7.1991, t.1.

(3)

OJ Rhif L214, 13.8.1999, t.31.

(4)

O.S. 1994/1721; a ddiwygiwyd gan O.S. 1996/3109 ac O.S. 1998/1606.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources