ATODLEN 1CYFRIFO CYMORTH
RHAN IY TALIAD AR GYFER PARSEL ORGANIG
1.Tir cymwys CTATA a chnydau parhaol: | |
(i)yn y flwyddyn gyntaf | £225 yr hectar |
(ii)yn yr ail flwyddyn | £135 yr hectar |
(iii)yn y drydedd flwyddyn | £50 yr hectar |
(iv)yn y bedwaredd flwyddyn | £20 yr hectar |
(v)yn y bumed flwyddyn | £20 yr hectar |
2.Tir wedi'i amgáu: | |
(i)yn y flwyddyn gyntaf | £175 yr hectar |
(ii)yn yr ail flwyddyn | £105 yr hectar |
(iii)yn y drydedd flwyddyn | £40 yr hectar |
(iv)yn y bedwaredd flwyddyn | £15 yr hectar |
(v)yn y bumed flwyddyn | £15 yr hectar |
3.Tir heb ei amgáu a choetir sy'n cael ei bori: | |
(i)yn y flwyddyn gyntaf | £25 yr hectar |
(ii)yn yr ail flwyddyn | £10 yr hectar |
(iii)yn y drydedd flwyddyn | £5 yr hectar |
(iv)yn y bedwaredd flwyddyn | £5 yr hectar |
(v)yn y bumed flwyddyn | £5 yr hectar |
Yn Rhan I o'r Atodlen hon—
- ystyr “tir cymwys CTATA” yw tir sy'n “dir cymwys” o fewn ystyr “eligible land” yn Rheoliadau Taliadau Arwynebedd Tir År 199612;
ystyr “llain arfordirol” yw'r llain o dir rhwng y marc penllanw a ffin y cae agosaf at y môr;
ystyr “coetir sy'n cael ei bori” yw coetir sy'n cael ei ddefnyddio ar gyfer pori gan dda byw;
ystyr “rhostir” yw tir sy'n cael ei ddangos gan y mannau lliw brown ar y mapiau a gynhwysir yn y gyfrol o fapiau sydd wedi'i marcio “Moorland Map of Wales 1992”, ac sydd wedi'i hadneuo yn swyddfeydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Parc Cathays, Caerdydd;
ystyr “tir wedi'i amgáu” yw unrhyw dir heblaw tir cymwys CTATA a chnydau parhaol sydd wedi'i amgáu'n llawn â ffiniau caeau traddodiadol neu ffensys ac, os yw'n cynnwys rhostir, nad yw'n cynnwys mwy na 5 hectar o rostir;
ystyr “cnydau parhaol” yw unrhyw gnydau sydd yn y pridd am gyfnod o bum mlynedd neu ragor ac sy'n cynhyrchu cnydau dros nifer o flynyddoedd;
ystyr “ffens lechi” yw ffens sy'n cynnwys darnau o lechi sydd wedi'u hoelio'n fertigol i mewn i'r ddaear mewn rhes ac wedi'u cysylltu â'i gilydd drwy ddefnyddio wifren;
ystyr “ffiniau caeau traddodiadol” yw strwythurau megis perthi, waliau cerrig, cloddiau pridd a ffensys llechi a ddefnyddir fel arfer i wahanu caeau ar fferm;
ystyr “tir heb ei amgáu” yw tir sy'n rhostir neu'n llain arfordirol, heblaw tir wedi'i amgáu.
RHAN IIY TALIAD AR GYFER YR UNED ORGANIG GYFAN
Yn y flwyddyn gyntaf | £300 am bob uned organig |
Yn yr ail flwyddyn | £200 am bob uned organig |
Yn y drydedd flwyddyn | £100 am bob uned organig |
ATODLEN 2Y SAFONAU I'W PARCHU
1.
Rhaid i'r buddiolwr beidio ag aredig, ailhadu na gwella, drwy ddefnyddio traeniau, teiliau neu asiantau calchu, unrhyw weundir, tir glas o werth cadwraeth, gan gynnwys tir glas toreithiog ei rywogaethau, neu dir pori garw. Rhaid i'r buddiolwr beidio â phori unrhyw gynefinoedd lled-naturiol a thrwy hynny achosi gorbori neu danbori a fyddai'n effeithio ar werth cadwraeth y cynefinoedd hynny.
2.
Rhaid i'r buddiolwr osgoi stocio'n drwm yn lleol yn y tymor nythu ar fannau llystyfiant lled-naturiol, gan gynnwys gweundir, tir glas toreithiog ei rywogaethau a thir pori garw.
3.
Rhaid i'r buddiolwr beidio â chyflawni gweithgareddau mewn caeau, megis llyfnu neu rolio, ar dir glas toreithiog ei rywogaethau neu dir pori garw yn ystod y tymor nythu.
4.
Rhaid i'r buddiolwr beidio â thrin y tir na rhoi gwrteithiau arno o fewn un metr o unrhyw nodweddion ffin, megis ffensys, perthi neu waliau.
5.
Rhaid i'r buddiolwr
(a)
cadw nodweddion ffiniau traddodiadol fferm, er enghraifft, perthi a waliau ;
(b)
tocio perthi mewn cylchdro, ond nid rhwng 1 Mawrth a 31 Awst mewn unrhyw flwyddyn;
(c)
cynnal unrhyw ffiniau gwrth-stoc, gan ddefnyddio dulliau a deunyddiau traddodiadol.
6.
Rhaid gwneud gwaith cynnal ffosydd mewn cylchdro, ond nid rhwng 1 Mawrth a 31 Awst mewn unrhyw flwyddyn.
7.
Rhaid i'r buddiolwr gynnal nentydd, pyllau a gwlyptiroedd.
8.
Rhaid i'r buddiolwr gadw unrhyw brysgwydd, coetiroedd fferm neu grwpiau o goed.
9.
Rhaid i'r buddiolwr sicrhau, wrth ffermio'r tir, nad yw'n niweidio, dinistrio nac yn dileu unrhyw nodwedd o ddiddordeb hanesyddol neu archeolegol, gan gynnwys mannau cefn a rhych.
10.
Rhaid i'r buddiolwr gydymffurfio â thelerau'r Dulliau Gweithredu ar Arferion Amaethyddol Da ar gyfer Diogelu Pridd, Aer, Dwr a, lle bo'n gymwys, ar gyfer Plaleiddiaid, a gyhoeddir o bryd i'w gilydd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.