2001 Rhif 495 (Cy. 22 )

ADDYSG , CYMRU

Rheoliadau Ariannu Ysgolion a Gynhelir (Diwygio) (Cymru) 2001

Wedi'u gwneud

Yn dod i rym

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 46(2) a (3) a 138(7) ac (8) o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 19981 ac sydd bellach wedi'u breinio yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru2.

Enwi, cychwyn a chymhwyso1

1

Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Ariannu Ysgolion a Gynhelir (Diwygio) (Cymru) 2001 a deuant i rym ar 1 Mawrth 2001.

2

Maent yn gymwys i Gymru yn unig.

3

Ni fydd y diwygiadau a wneir gan y Rheoliadau hyn yn gymwys mewn perthynas ag ariannu ysgolion a gynhelir mewn unrhyw flwyddyn ariannol sy'n dechrau cyn 1 Ebrill 2001.

Diwygio Rheoliadau2

1

Mae Rheoliadau Ariannu Ysgolion a Gynhelir 19993 yn cael eu diwygio fel a ganlyn.

2

Yn rheoliad 2(1)(b) yn lle “28(a) to (d)” rhowch “28(a), (b) and (d)”.

3

Yn rheoliad 3, dilëwch yr “and” yn union o flaen paragraff (f) ac ar ôl y paragraff hwnnw mewnosodwch —

g

expenditure in connection with the administration of committees dealing with education; and

h

expenditure in connection with external audit.

4

Yn Atodlen 2, ym mharagraff 28 hepgorwch is-baragraff (c) ac yn lle is-baragraff (d) rhowch “(d) revenue budget preparation and the production and publication of accounts.”.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 19984

D.Elis ThomasLlywydd y Cynulliad Cenedlaethol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Ariannu Ysgolion a Gynhelir 1999 (sydd erbyn hyn yn gymwys i Gymru yn unig), a hynny i weithredu penderfyniad gan y Cynulliad Cenedlaethol nad yw'n briodol i wariant ar weinyddiaeth pwyllgorau addysg na gwariant ar archwiliadau allanol gael eu cynnwys yng nghyllideb ysgolion lleol awdurdod addysg lleol. Gan hynny, mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio rheoliadau 2 a 3 o Reoliadau 1999 (sy'n nodi pa wariant sydd wedi'i gynnwys a pha wariant sydd heb ei gynnwys yn y gyllideb honno) er mwyn adlewyrchu'r penderfyniad hwnnw.

Mae'r Rheoliadau hefyd yn gwneud diwygiadau canlyniadol i Atodlen 2 i Reoliadau 1999 (sy'n pennu dosbarthiadau a disgrifiadau o wariant a all gael eu tynnu oddi ar gyllideb ysgolion lleol awdurdod addysg lleol er mwyn cyfrif eu cyllideb ysgolion unigol) a hynny i ddileu cyfeiriadau at y ddau gategori gwariant y cyfeirir atynt uchod.