RHAN IVGORFODI

Pwerau personau awdurdodedig16

1

Os gofynnir i berson awdurdodedig ddangos rhyw ddogfen sydd wedi'i dilysu'n briodol, ac sy'n dangos ei awdurdod, a'i fod yn gallu ei dangos, caiff arfer y pwerau a bennir yn y rheoliad hwn, ar bob adeg resymol, er mwyn—

a

gweithredu unrhyw fesur rheoli penodedig;

b

darganfod a oes tramgwydd o dan reoliad 18 wedi'i gyflawni neu wrthi'n cael ei gyflawni; neu

c

sicrhau bod taliadau Tir Mynydd yn cael eu gwneud mewn achosion priodol yn unig.

2

Caiff person awdurdodedig fynd ar unrhyw dir, heblaw tir sy'n cael ei ddefnyddio fel annedd yn unig, sy'n cael ei feddiannu gan geisydd neu y mae'n credu'n rhesymol ei fod yn ei feddiannu neu yn cael ei ddefnyddio ganddo ar gyfer pori gwartheg sugno neu famogiaid y mae cais am daliad Tir Mynydd wedi'i wneud ar eu cyfer.

3

Caiff person awdurdodedig sydd wedi mynd ar unrhyw dir yn rhinwedd y rheoliad hwn—

a

archwilio a dilysu cyfanswm arwynebedd y tir hwnnw neu unrhyw ran ohono;

b

archwilio a chyfrif unrhyw anifeiliaid ar y tir a darllen eu tagiau clust neu eu marciau adnabod eraill;

c

gwneud unrhyw weithgaredd arall sy'n fesur rheoli penodedig; ac

ch

archwilio'r tir er mwyn penderfynu a yw wedi'i orbori.

4

Caiff person awdurdodedig sy'n mynd ar dir yn rhinwedd y rheoliad hwn fynd ag unrhyw bersonau eraill gydag ef sy'n gweithredu o dan ei gyfarwyddiadau ac y mae'n credu eu bod yn angenrheidiol.

5

Caiff person awdurdodedig—

a

ei gwneud yn ofynnol i geisydd neu unrhyw weithiwr cyflogedig, gwas neu asiant ceisydd ddangos unrhyw ddogfen neu gofnod arall sydd yn ei feddiant neu o dan ei reolaeth a rhoi unrhyw wybodaeth ychwanegol sydd ym meddiant y person hwnnw neu o dan ei reolaeth ynghylch cais am daliad Tir Mynydd y bydd y person awdurdodedig yn gofyn yn rhesymol amdanynt;

b

archwilio unrhyw ddogfen neu gofnod arall y cyfeirir atynt yn is-baragraff (a), ac, os yw unrhyw gofnod o'r fath yn cael ei gadw drwy gyfrwng cyfrifiadur, mynd at unrhyw gyfrifiadur ac unrhyw offer neu ddeunyddiau cysylltiedig sy'n cael neu sydd wedi cael eu defnyddio mewn cysylltiad â'r cofnod hwnnw, a'u harchwilio a gwirio eu gweithrediad;

c

gwneud unrhyw gopïau o unrhyw ddogfen neu gofnod arall y cyfeirir atynt yn is-baragraff (a), y gwêl yn dda; a

ch

cipio a chadw unrhyw ddogfen neu record arall ceisydd y cyfeirir ati yn is-baragraff (a), y mae gan y person a awdurdodwyd le i gredu y gallai fod angen amdanynt fel tystiolaeth mewn achos o dan y rheoliadau hyn neu mewn achos ar gyfer adennill unrhyw daliad ac, os yw unrhyw gofnod o'r fath yn cael ei gadw drwy gyfrwng cyfrifiadur, ei gwneud yn ofynnol ei cynhyrchu ar ffurf sy'n ei gwneud yn bosibl mynd ag ef oddi yno.