RHAN IVGORFODI

Tramgwyddau18

Bydd yn drosedd i berson—

a

rhwystro person awdurdodedig yn fwriadol wrth iddo arfer pŵ er a roddir gan reoliad 16;

b

methu, heb esgus rhesymol, â chydymffurfio â'r gofynion a wneir o dan reoliad 16 neu gais a wneir o dan y rheoliad hwnnw; neu

c

gwneud datganiad, yn fwriadol neu'n ddi-hid, neu roi unrhyw wybodaeth sy'n ffug neu'n gamarweiniol mewn manylyn perthnasol os yw'r datganiad yn cael ei wneud neu os yw'r wybodaeth yn cael ei rhoi er mwyn sicrhau bod y cyfan neu unrhyw ran o unrhyw daliad Tir Mynydd yn cael ei roi iddo'i hun neu i unrhyw berson arall.