RHAN ICYFFREDINOL

Diffiniadau

2.—(1Yn y Rheoliadau hyn, oni fydd y cyd-destun yn mynnu fel arall—

mae “amaethyddiaeth” (“agriculture”) yn cynnwys garddwriaeth, tyfu ffrwythau, tyfu hadau, ffermio llaeth a bridio a chadw da byw, defnyddio'r tir fel tir pori, doldir, tir helyg, gerddi marchnad a phlanhigfeydd, a defnyddio'r tir ar gyfer coetiroedd pan yw'r defnydd hwnnw'n atodol i ddefnyddio'r tir at ddibenion amaethyddol eraill, a dehonglir “amaethyddol” (“agricultural”) yn unol â hynny;

  • ystyr “blwyddyn gynllun” (“scheme year”) yw blwyddyn galendr;

  • ystyr “buwch fridio” (“breeding cow”) yw buwch sugno neu fuwch llaeth;

  • mae i “buwch sugno” yr un ystyr ag i “suckler cow” yn Erthygl 3 o Reoliad y Cyngor (EC) 1254/1999(1));

  • mae i “cais am gymorth arwynebedd” yr un ystyr ag a roddir i “area aid application” yn erthygl 6 o Reoliad y Cyngor 3508/92(2));

  • ystyr “ceisydd” (“claimant”) yw person sy'n gwneud cais am lwfans iawndal a enwir yn daliad Tir Mynydd a dehonglir “cais” (“claim”) yn unol â hynny;

  • ystyr “daliad” (“holding”) yw'r holl unedau cynhyrchu a reolir gan y ceisydd ac sydd wedi'u lleoli o fewn y Deyrnas Unedig;

  • ystyr “dwysedd stocio” (“stocking density”) yw'r nifer o unedau da byw wedi ei rannu gan y nifer o hectarau;

  • ystyr “gorbori” (“overgrazing”) yw pori tir â chymaint o dda byw ag i effeithio'n andwyol ar dwf, ansawdd neu gynnwys rhywogaethol y llystyfiant (heblaw llystyfiant a borir fel rheol nes ei ddifa) ar y tir hwnnw i raddau arwyddocaol, a dehonglir “wedi'i orbori” (“overgrazed”) yn unol â hynny;

  • mae i “heffer” yr un ystyr ag i “heifer” yn Erthygl 3 o Reoliad y Cyngor (EC) 1254/1999;

  • ystyr “IACS” yw System Integredig Gweinyddu a Rheoli a sefydlwyd gan Reoliad y Cyngor 3508/92;

  • ystyr “mamog” (“ewe”) yw dafad fenyw sy'n un mlwydd oed o leiaf neu sydd wedi dod ac oen cyn 15 Mai yn y flwyddyn y gwneir cais am daliad Tir Mynydd;

  • ystyr “mapiau dynodedig” (“designated maps”) yw'r ddwy gyfrol o fapiau sydd wedi'u rhifo 1 a 2, a'r ddwy gyfrol wedi'u marcio “Volume of Maps of less favoured farming areas in Wales” ac â rhif y gyfrol, dyddiedig 20 Mai 1991, wedi'u llofnodi gan Ysgrifennydd Gwladol Cymru, ac wedi'u hadneuo yn swyddfeydd Adran Amaethyddiaeth Cynulliad Cenedlaethol Cymru ym Mharc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ;

  • ystyr “pensiwn ymddeol” (“retirement pension”) yw pensiwn categori A neu gategori B o fewn ystyr pensiwn “category A” a “category B” yn adran 20(1)(f) o Ddeddf Cyfraniadau a Budd-daliadau Nawdd Cymdeithasol 1992(3), neu bensiwn categori C neu gategori D o fewn ystyr pensiwn “category C” a “category D” yn adran 63(f) o'r Ddeddf honno neu fudd-dâl ymddeol graddedig fel y cyfeirir ato yn adran 62 o'r Ddeddf honno;

  • ystyr “person awdurdodedig” (“authorised person”) yw person sy'n cael ei awdurdodi gan y Cynulliad Cenedlaethol, naill ai'n gyffredinol neu'n benodol, i weithredu mewn materion sy'n codi o dan y Rheoliadau hyn, pu'n a yw'n swyddog y Cynulliad Cenedlaethol neu beidio;

  • ystyr “Rheoliad y Comisiwn 1750/1999” (“Commission Regulation 1750/1999”) yw Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1750/1999 (4) a bennodd reolau manwl ar gyfer cymhwyso Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1257/1999 ar gymorth ar gyfer datblygu gwledig o Gronfa Cyfarwyddo a Gwarantu Amaethyddiaeth Ewrop (EAGGF);

  • ystyr “Rheoliad y Cyngor 1257/1999” (“Council Regulation 1257/1999”) (5) yw Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1257/1999 ar gymorth ar gyfer datblygu gwledig o Gronfa Cyfarwyddo a Gwarantu Amaethyddiaeth Ewrop (EAGGF) ac a ddiwygiodd Reoliadau penodol a'u diddymu;

  • ystyr “Rheoliad y Cyngor 3508/92” (“Council Regulation 3508/92”) yw Rheoliad y Cyngor (EEC) 3508/92 yn sefydlu system integredig gweinyddu a rheoli ar gyfer cynlluniau cymorth y Gymuned;

  • ystyr “coetir” (“woodland”) yw tir a ddefnyddir yn bennaf ar gyfer tyfu coed;

  • ystyr “tir cymwys” (“eligible land”) yw tir tan anfantais neu dir tan anfantais ddifrifol sy'n cydymffurfio â gofynion y Rheoliadau hyn;

  • ystyr “tir tan anfantais” (“disadvantaged land”) (heblaw yn yr ymadrodd “tir tan anfantais ddifrifol”) yw'r tir a ddangosir â lliw glas ar y mapiau dynodedig;

  • ystyr “tir tan anfantais ddifrifol” (“severely disadvantaged land”) yw tir a ddangosir â lliw pinc ar y mapiau dynodedig;

  • ystyr “tir porthiant” (“forage land”) yw tir a ddefnyddiwyd i bori neu fwydo da byw ac a gynhwyswyd fel tir o'r fath mewn cais dilys am gymorth arwynebedd a gyflwynwyd ar gyfer y flwyddyn berthnasol;

  • ystyr “tir llai ffafriol” (“less favoured area”) yw tir sydd tan anfantais neu dan anfantais ddifrifol;

  • ystyr “uned gynhyrchu” (“production unit”) yw tir a ffermir gan geisydd fel uned unigol, gan ystyried cyflenwadau o beiriannau, da byw, porthiant a gweithwyr;

  • ystyr “uned da byw” (“livestock unit”) yw uned mesur rhifau da byw, ac mae'r canlynol yn ffurfio un uned da byw:—

    (a)

    un fuwch sugno;

    (b)

    1.67 o heffrod;

    (c)

    6.67 o ddefaid benyw sy'n gymwys o dan y Cynllun Premiwm Blynyddol Defaid yn unol â'r Rheoliadau Premiwm Blynyddol Defaid 1992(6)) fel y diwygiwyd.

(2Mae unrhyw gyfeiriad yn y Rheoliadau hyn at offeryn Cymunedol yn gyfeiriad at yr offeryn hwnnw fel y'i diwygir ar y dyddiad y gwneir y Rheoliadau hyn.

(3Mae unrhyw gyfeiriad yn y Rheoliadau hyn at reoliad neu atodlen â rhif (heb unrhyw cyfeiriad cyfatebol at offeryn penodol) yn gyfeiriad at y rheoliad neu'r atodlen a rifir felly yn y Rheoliadau hyn.

(1)

O.J. Rhif L160, 26.06.99, t.21.

(2)

O.J. Rhif L355, 05.12.92, t.1.

(4)

O.J. Rhif L214, 13.08.99, t.31.

(5)

O.J. Rhif L160, 26.06.99, t.80.