Offerynnau Statudol Cymru
ADEILADU AC ADEILADAU, CYMRU
Wedi'u gwneud
27 Chwefror 2001
Yn dod i rym
1 Ebrill 2001
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir gan adran 20A o Ddeddf Iawndal Tir 1973(1), drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol:—
1.—(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Taliadau Sŵn Priffyrdd (Cartrefi Symudol) (Cymru) 2001 a deuant i rym ar 1 Ebrill 2001.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru.
2. Yn y Rheoliadau hyn—
ystyr “yr awdurdod” (“the authority”) mewn perthynas â phriffordd yw'r awdurdod priffyrdd a adeiladodd neu a newidiodd neu sy'n bwriadu adeiladu neu newid y briffordd honno;
ystyr “buddiant anghymhwyso” (“disqualifying interest”) yw buddiant sy'n gymwys ar gyfer iawndal o dan Ran 1 o Ddeddf Iawndal Tir 197(2));
mae i “cartref cymwys” (“eligible home”) yr ystyr a nodir yn rheoliad 7;
ystyr “cartref symudol” (“moveable home”) yw —
ystyr “Cod 1988” (“the 1988 Code”) yw'r cyngor a'r cyfarwyddyd sydd wedi'u cynnwys yn y memorandwm technegol sy'n dwyn y teitl “Calculations of Road Traffic Noise” a gyhoeddwyd gan Wasg Ei Mawrhydi (1988);
ystyr “cwch preswyl” (“houseboat”) yw cwch neu strwythur tebyg sydd wedi'i ddylunio neu wedi'i addasu i'w ddefnyddio fel cartref;
mae i “cyfnod cymhwyso” (“qualifying period”) yr ystyr a nodir yn rheoliad 8;
mesuriad yw “dB(A)” o lefel y pwysedd sŵn (pwysoliad “A”) mewn desibelau sy'n cael ei dangos gan offer mesur sy'n cydymffurfio â Manyleb y Safon Brydeinig ar gyfer mesurydd lefel swn manwl-gywir a gyhoeddwyd ar 14 Medi 1967 o dan rif B.S. 4197:1967;
ystyr “dyddiad cychwyn” (“commencement date”) yw'r dyddiad y daw'r Rheoliadau hyn i rym;
ystyr “dyddiad perthnasol” (“relevant date”) yw'r dyddiad yr oedd priffordd ar agor i draffig cyhoeddus am y tro cyntaf neu, yn achos priffordd sydd wedi'i newid, y dyddiad yr oedd ar agor i draffig cyhoeddus am y tro cyntaf ar ôl adeiladu'r newid;
ystyr “gwaith perthnasol”(“relevant works”) yw'r gwaith ar gyfer adeiladu neu newid priffordd sy'n achosi'r sŵn sy'n arwain at bŵ er i wneud taliad sŵn neu y disgwylir iddo ei achosi;
lefel y swn mewn dB(A) yr eir y tu hwnt iddi am ddegfed ran o gyfnod o un awr yw “L10”;
cymedr rhifyddol pob lefel L10 yn ystod cyfnod o 0600 hyd at 2400 o'r gloch ar ddiwrnod gweithio arferol yw “L10 (18-awr)” (“L10(18-hour)”);
ystyr “lefel benodedig” (“specified level”) yw lefel swn L10 (18-awr) o 68dB(A);
ystyr “lefel sŵn gyffredinol” (“prevailing noise level”) yw lefel y sŵn, wedi'i mynegi fel lefel L10 (18-awr), un metr o flaen yr un mwyaf di-amddiffyn o unrhyw ffenestr neu ddrws ar wyneb mwyaf diamddiffyn unrhyw gartref symudol sy'n cael ei achosi gan draffig sy'n defnyddio unrhyw briffordd yn union cyn i waith adeiladu neu newid y briffordd ddechrau;
ystyr “lefel sŵn berthnasol” (“relevant noise level”) yw lefel y sŵn, wedi'i mynegi fel lefel L10 (18-awr), un metr o flaen yr un mwyaf diamddiffyn o unrhyw ffenestr neu ddrws ar wyneb mwyaf diamddiffyn cartref symudol sy'n cael ei achosi gan draffig sy'n defnyddio priffordd berthnasol neu y disgwylir y bydd yn cael ei achosi ganddo;
ystyr “newid” (“alteration”) mewn perthynas â phriffordd yw newid yn lleoliad, lled neu lefel lôn gerbydau sy'n rhan o'r briffordd honno (heblaw drwy osod wyneb newydd arni) neu adeiladu lôn gerbydau ychwanegol wrth ochr lôn gerbydau sy'n bodoli eisoes neu uwch ei phen neu islaw iddi ac mae “newid” (“alter”) ac “wedi'i newid” (“altered”) i'w dehongli yn yr un modd;
mae “priffordd” (“highway”) yn cynnwys unrhyw ran o briffordd a'i ystyr yw priffordd neu ran o briffordd y gellir ei chynnal ar gost y cyhoedd fel y'i diffinnir yn adran 329(1) o Ddeddf Priffyrdd 1980(5);
ystyr “priffordd berthnasol” (“relevant highway”) yw priffordd y digwyddodd y dyddiad perthnasol ar ei chyfer ar ôl 25 Medi 1990;
mae i “taliad sŵn” (“noise payment”) yr ystyr a nodir yn rheoliad 3(5).
3.—(1) Yn ddarostyngedig i ddarpariaethau'r Rheoliadau hyn ac yn unol â hwy, os yw defnyddio priffordd berthnasol yn achosi sŵn, mewn perthynas â chartref cymwys, ar lefel heb fod yn llai na'r lefel benodedig neu y disgwylir iddo achosi sŵn o'r fath, caiff yr awdurdod wneud taliad o dan y paragraff hwn o'r rheoliad hwn.
(2) At ddibenion paragraff (1) o'r rheoliad hwn mae defnyddio priffordd berthnasol yn achosi sŵn ar lefel heb fod yn llai na'r lefel benodedig neu disgwylir iddo achosi sŵn o'r fath —
(a)os yw lefel sŵn berthnasol o leiaf 1 dB(A) yn fwy na'r lefel sŵn gyffredinol, a
(b)os yw sŵn sydd wedi'i achosi neu y disgwylir iddo gael ei achosi gan draffig sy'n defnyddio'r briffordd honno neu y disgwylir iddo ei defnyddio yn gwneud cyfraniad effeithiol at y lefel sŵn berthnasol o 1 dB(A) o leiaf.
(3) Yn ddarostyngedig i'r Rheoliadau hyn ac yn unol â hwy, os yw gwaith ar gyfer adeiladu neu newid priffordd ar unrhyw bryd ar ôl y dyddiad cychwyn, yn achosi sŵn ar lefel sydd, ym marn yr awdurdod, wedi cael effaith andwyol ddifrifol ar fwynhad cartref cymwys dros gyfnod di-dor o nid llai na chwe mis, caiff yr awdurdod wneud taliad o dan y paragraff hwn o'r rheoliad hwn.
(4) Pan ddaw priffordd yn briffordd y gellir ei chynnal ar gost y cyhoedd o fewn ystyr adran 329(1) o Ddeddf Priffyrdd 1980(6) o fewn tair blynedd ar ôl y dyddiad perthnasol, caiff yr awdurdod priffyrdd ar gyfer y briffordd wneud taliad o dan baragraffau (1) neu (3) o'r rheoliad hwn mewn perthynas â chartref cymwys os byddai pŵ er i wneud hynny wedi codi petai'r briffordd wedi bod yn briffordd y gellid ei chynnal ar gost y cyhoedd ar y dyddiad perthnasol a phetai gwaith adeiladu neu newid y briffordd wedi'i gyflawni gan yr awdurdod priffyrdd hwnnw.
(5) Cyfeirir at daliad o dan y rheoliad hwn fel “taliad sŵn” yn y Rheoliadau hyn.
4. At ddibenion rheoliad 3(2) rhaid i'r lefel sŵn gyffredinol, y lefel sŵn berthnasol a'r cyfraniad effeithiol at y lefel sŵn berthnasol sy'n cael ei achosi neu y disgwylir iddo gael ei achosi gan draffig sy'n defnyddio priffordd neu y disgwylir iddo ei defnyddio gael eu hasesu yn unol â Chod 1988.
5. Swm taliad sŵn yw'r swm y mae'r awdurdod yn penderfynu arno yn ôl ei ddisgresiwn ond ni chaiff fod yn fwy na £1,650.
6. Os oes taliad sŵn wedi'i wneud mewn perthynas â chartref cymwys sy'n deillio o waith adeiladu, newid neu ddefnyddio priffordd, p'un ai o dan reoliad 3(1), neu o dan reoliad 3(3), ni chaniateir gwneud unrhyw daliad sŵn pellach mewn perthynas â'r cartref cymwys hwnnw sy'n codi o waith adeiladu, newid neu ddefnyddio'r briffordd honno oni bai bod y briffordd honno yn cael ei newid ar ôl hynny a bod pŵer i wneud taliad sŵn mewn perthynas â'r cartref cymwys hwnnw yn codi yn sgil y newid hwnnw i'r briffordd neu ei defnyddio fel y'i newidiwyd felly.
7.—(1) Yn ddarostyngedig i baragraffau (2) a (3) o'r rheoliad hwn, mae cartref cymwys yn gartref symudol sydd, drwy gydol y cyfnod cymhwyso —
(a)yn achos carafán, wedi'i lleoli'n gyfreithlon ar safle gwarchodedig o fewn ystyr adran 1(2) o Ddeddf Safleoedd Carafanau 1968(7);
(b)yn achos cwch preswyl, wedi'i fwrio'n gyfreithlon neu wedi'i glynu'n sownd fel arall wrtho gydag unrhyw gydsyniad sy'n angenrheidiol ar gyfer y lleoliad o dan sylw oddi wrth unrhyw awdurdod mordwyo, ymgymeriad harbyrau neu ymgymeriad camlesi sy'n gyfrifol am y dŵ r y mae wedi'i leoli ynddo a chyda chydsyniad y person sy'n meddiannu unrhyw dir y mae wedi'i fwrio neu wedi'i glynu'n sownd wrtho;
(c)sydd wedi'i leoli yn y fath fan neu fannau fel bod rhyw ran ohono, ar ôl adeiladu neu newid y briffordd berthnasol, heb fod yn fwy na 300 metr o'r pwynt agosaf ar lon gerbydau'r briffordd honno.
(2) Nid yw cartref symudol yn gartref cymwys os oedd yn gerbyd modur o fewn ystyr adran 185(1) o Ddeddf Traffig Ffyrdd 1988(8) neu os oedd yn adeilad neu'n rhan o adeilad ar unrhyw adeg yn ystod y cyfnod cymhwyso.
(3) At ddibenion taliad sŵn sy'n codi o waith perthnasol nid yw cartref symudol yn gartref cymwys —
(a)os cafodd ei feddiannu gyntaf ar ôl y dyddiad perthnasol mewn perthynas â'r gwaith hwnnw;
(b)os yw wedi'i leoli adeg gwneud cais am daliad sŵn, mewn man sy'n cyfateb, yn gyfan gwbl neu'n rhannol, i'r fan lle'r oedd unrhyw gartref cymwys arall, y mae taliad sŵn eisoes wedi'i wneud ar ei gyfer, yn ystod unrhyw ran o'r cyfnod cymhwyso mewn perthynas â'r taliad sŵn hwnnw, ac os yw'r taliad sŵn hwnnw yn deillio o'r un gwaith perthnasol.
8.—(1) Os oes taliad sŵn o dan reoliad 3(1) yn cael ei wneud o ganlyniad i waith perthnasol y mae'r dyddiad perthnasol ar ei gyfer yn digwydd cyn y dyddiad cychwyn, y cyfnod o dair blynedd sy'n dod i ben ar y dyddiad cychwyn yw'r cyfnod cymhwyso.
(2) Os oes taliad sŵn o dan reoliad 3(1) yn cael ei wneud o ganlyniad i waith perthnasol y mae'r dyddiad perthnasol ar ei gyfer yn digwydd un flwyddyn ar ôl, y dyddiad cychwyn neu o fewn un flwyddyn ar ei ôl, y cyfnod sy'n dechrau ar y dyddiad cychwyn ac sy'n dod i ben ddwy flynedd ar ôl y dyddiad perthnasol yw'r cyfnod cymhwyso.
(3) Os oes taliad sŵn o dan reoliad 3(1) yn cael ei wneud o ganlyniad i waith perthnasol y mae'r dyddiad perthnasol ar ei gyfer yn digwydd fwy na blwyddyn ar ôl y dyddiad cychwyn, y cyfnod sy'n dechrau un flwyddyn cyn y dyddiad perthnasol ac sy'n dod i ben ddwy flynedd ar ôl y dyddiad perthnasol yw'r cyfnod cymhwyso.
(4) Os oes taliad sŵn yn cael ei wneud o dan reoliad 3(3) y cyfnod sy'n dechrau un flwyddyn cyn dechrau'r gwaith perthnasol ac sy'n dod i ben pan fydd y sŵn sy'n cael ei achosi gan y gwaith hwnnw wedi cael effaith andwyol ddifrifol ar fwynhad y cartref cymwys dros gyfnod di-dor o chwe mis yw'r cyfnod cymhwyso.
9.—(1) Dim ond i'r personau canlynol y gellir gwneud taliad sŵn—
(a)person sydd wedi gwneud cais am daliad sŵn yn unol â Rheoliad 10;
(b)person na fu ganddo fuddiant anghymhwyso yn y tir yr oedd y cartref cymwys wedi'i leoli arno neu, yn achos cwch preswyl, yr oedd wedi'i fwrio neu wedi'i glynu'n sownd fel arall wrtho ar unrhyw adeg yn ystod y cyfnod sy'n dechrau ar y dyddiad perthnasol ac sy'n dod i ben ar y dyddiad y gwnaed y cais ;
(c)person a fu'n meddiannu'r cartref cymwys y mae'r taliad wedi'i wneud mewn perthynas ag ef fel unig neu brif breswylfa drwy gydol y cyfnod cymhwyso ac sydd wedi parhau i wneud hynny hyd at a chan gynnwys y diwrnod y gwnaed y cais.
(2) Os yw'n ymddangos i'r awdurdod, mewn perthynas â chartref cymwys, fod yna fwy nag un person y byddai paragraff (1) o'r rheoliad hwn yn awdurdodi gwneud taliad swn iddynt, caiff yr awdurdod, yn ôl ei ddisgresiwn, ddyrannu unrhyw daliad sŵn y mae'n penderfynu ei wneud rhwng y personau hynny ac, os yw'n gwneud hynny, ymdrinnir â thaliadau y mae'n eu gwneud i bersonau gwahanol o dan yr is-baragraff hwn at ddibenion rheoliad 5 fel un taliad o gyfanswm y taliadau hynny.
10.—(1) Gall yr awdurdod ystyried cais am daliad sŵn os yw'n cael ei wneud yn ystod y cyfnod o chwe blynedd sy'n dechrau ar y diwrnod ar ôl diwedd y cyfnod cymhwyso.
(2) Rhaid i gais am daliad sŵn gael ei gyflwyno yn ysgrifenedig a rhaid iddo gynnwys yr wybodaeth ganlynol—
(a)enw a chyfeiriad llawn y ceisydd ac unrhyw berson a awdurdodir i weithredu ar ran y ceisydd;
(b)cyfeiriad y cartref cymwys y mae'r cais yn cael ei wneud mewn perthynas ag ef;
(c)manylion maint a natur adeiladwaith y cartref cymwys;
(ch)a yw'r ceisydd yn meddiannu'r cartref cymwys fel prif neu unig breswylfa adeg gwneud y cais ac os felly y dyddiad y dechreuodd y feddiannaeth honno;
(d)natur buddiant y ceisydd yn y cartref cymwys a'r dyddiad y cafwyd y buddiant hwnnw a thrwy ba fodd y'i cafwyd;
(dd)a yw'r cartref cymwys wedi'i leoli yn ystod y cyfnod pan oedd wedi'i feddiannu gan y ceisydd, mewn unrhyw fan heblaw'r un y mae wedi'i leoli ynddi ar y dyddiad y mae'r cais yn cael ei wneud ac os felly manylion y fan honno neu'r mannau hynny a'r dyddiadau yr oedd wedi'i leoli felly ynddynt;
(e)a oes gan y ceisydd, ar ddyddiad y cais, unrhyw fuddiant yn y tir y mae'r cartref cymwys wedi'i leoli arno neu, yn achos cwch preswyl y mae wedi'i fwrio neu wedi'i glynu'n sownd fel arall wrtho neu a fu ganddo fuddiant o'r fath ar unrhyw adeg yn ystod meddiannaeth y ceisydd ar y cartref cymwys fel unig neu brif breswylfa ac os felly manylion y buddiant hwnnw a dyddiad ei gaffael ac, os yw'n briodol, dyddiad ei waredu;
(f)manylion y gwaith perthnasol;
(ff)y dyddiad perthnasol;
(g)a yw'r cais yn gais am daliad sŵn o dan reoliad 3(1) neu o dan reoliad 3(3);
(3) Rhaid i gais o dan y rheoliad hwn gael ei lofnodi gan y ceisydd a rhaid iddo ymgorffori datganiad gan y ceisydd fod yr wybodaeth y mae'n ei chynnwys yn gywir hyd eithaf gwybodaeth a chred y ceisydd.
(4) Ni fernir bod cais o dan y rheoliad hwn wedi'i wneud oni bai ei fod yn cynnwys yr holl wybodaeth a ragnodir gan y rheoliad hwn a'i fod yn ymgorffori'r datganiad sy'n ofynnol gan baragraff (3) o'r rheoliad hwn ac ni fernir ei fod wedi'i wneud nes i'r awdurdod y bwriedir ei gyflwyno iddo ei gael mewn gwirionedd.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(9)
D. Elis Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
27 Chwefror 2001
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r Rheoliadau hyn yn rhoi pŵ er i awdurdodau priffyrdd wneud taliadau o hyd at £1,650 i feddianwyr cartrefi symudol megis carafanau a chychod preswyl pan fydd sŵn sy'n cael ei achosi wrth adeiladu neu ddefnyddio ffyrdd newydd neu rai sydd wedi'u newid yn effeithio arnynt, neu pan fydd yn debyg o effeithio arnynt, i raddau sylweddol. Mae'r pŵ er i wneud Rheoliadau sy'n awdurdodi taliadau o'r fath i'w gael o dan Adran 20A o Ddeddf Iawndal Tir 1973, sydd wedi'i mewnosod gan baragraff 5(1) o Atodlen 15 i Ddeddf Cynllunio ac Iawndal 1991. Mae'r pŵ er i wneud taliadau o dan y Rheoliadau hyn yn gyfochrog â'r ddyletswydd i ddarparu inswleiddiad rhag sŵn mewn adeiladau neu i wneud taliadau grant yn lle hynny o dan Reoliadau Inswleiddio rhag Sŵn 1975 (O.S. 1975/1763 fel y'i diwygiwyd gan O.S. 1988/2000). Am resymau ymarferol ni ellir cymhwyso'r darpariaethau hynny at gartrefi symudol.
Gellir cael y memorandwm sy'n dwyn y teitl “Calculation of Traffic Noise” a gyhoeddwyd gan Wasg Ei Mawrhydi (1988) o Siop Lyfrau Oriel, 18-19 Heol Fawr, Caerdydd CF10 2BZ.
Gellir cael Safon Brydeinig 4197:1967 o unrhyw fan werthu sy'n cael ei gweithredu gan y Sefydliad Safonau Prydeinig (BSI) neu drwy'r post o'r BSI yn 389 Chiswick High Road, Llundain W4 4AL.
1973 p.26; mewnosodwyd adran 20A gan Ddeddf Cynllunio ac Iawndal 1991 (p.34), adran 70 ac Atodlen 15, paragraff 5(1). Mae'r pŵ er i wneud rheoliadau o adran 20A o Ddeddf Iawndal Tir 1973 wedi'i ddatganoli i Gynulliad Cenedlaethol Cymru o dan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999, erthygl 2 ac Atodlen 1 (O.S. 1999/672).