2001 Rhif 605 (Cy. 28)
LLYWODRAETH LEOL, CYMRU
Gorchymyn Deddf Llywodraeth Leol a Thai 1989 (Cyfathrebu Electronig) (Cymru) 2001
Wedi'i wneud
Yn dod i rym
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru o'r farn bod awdurdodi defnyddio cyfarthrebu electronig gan y Gorchymyn hwn at unrhyw ddiben yn gyfryw nes na fydd cofnodion o bethau a wneir at y diben hwnnw ar gael ar raddfa lai boddhaol (os o gwbl) mewn achosion lle caiff cyfarthrebu electronig ei ddefnyddio nag mewn achosion eraill. Gan hynny, mae'n gwneud y Gorchymyn hwn drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 8 a 10 (2), (3)(d),(3)(e), (4) a (5) o Ddeddf Cyfathrebu Electronig 20001 a chyda chydsyniad yr Ysgrifennydd Gwladol: