Rheoliadau Awdurdodau Addysg Lleol (Cynlluniau Cymorth Ymddygiad) (Diwygio) (Cymru) 2001
cy
King's Printer of Acts of Parliament
2011-07-05
ADDYSG, CYMRU
Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Awdurdodau Addysg Lleol (Cynlluniau Cymorth Ymddygiad) 1998 mewn perthynas â Chymru i drosglwyddo swyddogaethau gweinyddol clercod ustusiaid i brif weithredwyr ustusiaid yn unol ag adran 90 o Ddeddf Cyfle i Gael Cyfiawnder 1999 (p.22) ac Atodlen 13 iddi.
2001 Rhif 606 (Cy. 29)
ADDYSG, CYMRU
Rheoliadau Awdurdodau Addysg Lleol (Cynlluniau Cymorth Ymddygiad) (Diwygio) (Cymru) 2001
Wedi'u gwneud
Yn dod i rym
Drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 527A(4) a (5) a 569(4) a (5) o Ddeddf Addysg 19961 ac sydd wedi'u breinio bellach yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru2, mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol: