Gorchymyn Personau Digartref (Angen Blaenoriaethol) (Cymru) 2001

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Personau Digartref (Angen Blaenoriaethol) (Cymru) 2001 a daw i rym ar Ddydd Gwyl Dewi, Mawrth 1af 2001.

(2Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys i Gymru yn unig.

Personau y mae arnynt angen blaenoriaethol i gael llety

2.  Mae ar y disgrifiadau o berson a bennir yn erthyglau 3 i 7 angen blaenoriaethol i gael llety o dan adran 189 o Ddeddf Tai 1996.

Person sy'n ymadael â gofal neu berson sydd mewn perygl neilltuol o ecsbloetio rhywiol neu ariannol, ac sy'n 18 oed neu drosodd ond o dan 21 oed

3.—(1Person Sydd

(a)yn 18 oed neu'n hyn ond o dan 21 oed; a

(b)a oedd ar unrhyw adeg pan oedd yn dal yn blentyn, ond nad yw bellach, yn derbyn gofal, yn cael ei letya neu'n cael ei faethu; neu

(c)sydd mewn perygl neilltuol o ecsbloetio rhywiol neu ariannol.

(2Ym mharagraff (1)(b) uchod, ystyr “yn derbyn gofal, yn cael ei letya neu'n cael ei faethu” yw:

(a)yn derbyn gofal gan awdurdod lleol;

(b)yn cael ei letya gan gorff gwirfoddol neu ar ei ran;

(c)yn cael ei letya mewn cartref preifat i blant;

(ch)yn cael ei letya am gyfnod di-dor o dri mis o leiaf—

(i)gan unrhyw awdurdod iechyd, awdurdod iechyd arbennig neu awdurdod addysg lleol, neu

(ii)mewn unrhyw gartref gofal preswyl, cartref nyrsio neu gartref nyrsio meddwl neu mewn unrhyw lety a ddarperir gan un o Ymddiriedolaethau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol; neu

(d)yn cael ei faethu'n breifat.

Person 16 neu 17 oed

4.  Person sy'n 16 neu'n 17 oed.

Person sy'n ffoi rhag trais yn y cartref neu rhag bygythiad trais yn y cartref

5.  Person heb blant dibynnol sydd wedi bod yn destun trais yn y cartref neu sydd mewn perygl trais o'r fath, neu a fydd mewn perygl trais yn y cartref os bydd ef neu hi'n dychwelyd yno.

Person sydd heb lety ar ôl ymadael â'r lluoedd arfog

6.—(1Person sydd yn y gorffennol wedi gwasanaethu yn lluoedd arfog rheolaidd y Goron sydd wedi bod yn ddigartref ers ymadael â'r lluoedd hynny.

(2Ym mharagraff (1) uchod, mae i'r ymadrodd “lluoedd arfog rheolaidd y Goron” yr ystyr a roddir i “regular armed forces of the Crown” yn adran 199(4) o Ddeddf Tai 1996.

Cyn-garcharor sydd heb lety ar ôl cael ei ryddhau o'r ddalfa

7.—(1Cyn-garcharor sydd wedi bod yn ddigartref ers ymadael â'r ddalfa ac sydd â chysylltiad lleol gydag ardal yr awdurdod tai lleol.

(2Ystyr “carcharor” yw unrhyw berson sydd am y tro yn cael ei gadw yn y ddalfa yn gyfreithlon o ganlyniad i ofyniad a osodwyd gan lys iddo ef gael ei gadw neu iddi hi gael ei chadw.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(1).

D. Elis Thomas

Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

27 Chwefror 2001