- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r rheoliadau hyn, sy'n gymwys i Gymru, yn diwygio Rheoliadau Ffrwythloni Artiffisial Gwartheg (Iechyd Anifeiliaid) (Lloegr a Chymru) 1985 (O.S. 1985/1861) (y cyfeirir atynt yn y nodyn hwn fel Rheoliadau 1985) er mwyn gwneud darpariaethau trosiannol sy'n perthyn i'r trwyddedau argyfwng sy'n dod i ben ac a ddyroddwyd o dan Reoliadau Ffrwythloni Artiffisial Gwartheg (Trwyddedau Argyfwng) (Cymru) 2001 (O.S. 2001/1539 (Cy. 107)) yn ystod yr achosion diweddar o glwy'r traed a'r genau ac i alluogi Cynulliad Cenedlaethol Cymru i gydnabod cyrsiau hyfforddi ychwanegol at y rhai a gydnabuwyd gan y Bwrdd Hyfforddi Amaethyddol (sydd bellach wedi darfod).
Mae Rheoliad 2(2) o'r rheoliadau hyn yn mewnosod diffiniadau newydd o “emergency licence” (“trwydded argyfwng”) , “special acceptance licence” (“ trwydded dderbyn arbennig”) a “special transfer licence” (“trwydded drosglwyddo arbennig”) i reoliad 2(1) o Reoliadau 1985.
Mae Rheoliad 2(3) yn diwygio rheoliad 4(3A) o Reoliadau 1985 i adlewyrchu'r diffiniad newydd o “emergency licence” (“trwydded argyfwng”).
Mae Rheoliad 2(4) yn diwygio rheoliad 7 o Reoliadau 1985 i ddarparu ar gyfer dyroddi trwyddedau trosglwyddo arbennig a thrwyddedau derbyn arbennig.
Mae Rheoliad 2(5) yn diwygio rheoliad 21 o Reoliadau 1985 er mwyn caniatáu (yn ddarostyngedig i amodau) derbyn had i'w gyflenwi sydd wedi ei gasglu a'i brosesu yn unol â thrwydded argyfwng.
Mae Rheoliad 2(6) yn diwygio rheoliad 24 o Reoliadau 1985 er mwyn caniatáu defnyddio had a gasglwyd neu a symudwyd yn unol â thrwydded argyfwng ac i alluogi Cynulliad Cenedlaethol Cymru i gydnabod cyrsiau hyfforddi.
Ni ddarparwyd Arfarniad Rheoliadol mewn perthynas â'r Rheoliadau hyn.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: