Rheoliadau Bucholion a Chynhyrchion Buchol (Masnach) (Diwygio) (Cymru) 2002

Offerynnau Statudol Cymru

2002 Rhif 1174 (Cy.122)

AMAETHYDDIAETH, CYMRU

Rheoliadau Bucholion a Chynhyrchion Buchol (Masnach) (Diwygio) (Cymru) 2002

Wedi'u gwneud

25 Ebrill 2002

Yn dod i rym

1 Gorffennaf 2002

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, sydd wedi'i ddynodi(1) at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf Cymunedau Ewrop 1972(2) mewn perthynas â pholisi amaethyddol cyffredin y Gymuned Ewropeaidd, yn gwneud y Rheoliadau canlynol:

Enwi, cymhwyso a chychwyn

1.  Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Bucholion a Chynhyrchion Buchol (Masnach) (Diwygio) (Cymru) 2002; maent yn gymwys i Gymru yn unig a deuant i rym ar 1 Gorffennaf 2002.

Diwygio Rheoliadau Bucholion a Chynhyrchion Buchol (Masnach) 1999

2.—(1I'r graddau y maent yn gymwys i Gymru, diwygir Rheoliadau Bucholion a Chynhyrchion Buchol (Masnach) 1999(3) yn unol â pharagraffau canlynol y rheoliad hwn.

(2Yn y diffiniad o “export dedicated establishment” ym mharagraff (1) o reoliad 2 (dehongli), mewnosodir y cymal “and may include such establishments which prepare DBES goods destined for placing on the market in the United Kingdom” ar ôl y gair “below”.

(3Ym mharagraff (a) o'r diffiniad o “export eligible goods” ym mharagraff (1) o reoliad 2, mewnosodir y cymal “(other than any such goods destined for placing on the market in the United Kingdom)” ar ôl y gair “goods” yn y lle y mae'n ymddangos gyntaf.

(4Ym mharagraff (1)(b) o reoliad 12 (cymeradwyo sefydliadau ar gyfer paratoi neu anfon nwyddau o darddiad tramor sy'n gymwys i'w hallforio, nwyddau'r CASD a'r CABH a sgil-gynhyrchion buchol o darddiad tramor) mewnosodir y gair “origin” yn lle'r gair “original”.

(5Ym mharagraff (3)(a) o reoliad 12, mewnosodir y cymal “or DBES goods destined for placing on the market in the United Kingdom” ar ôl y gair “goods” yn y lle y mae'n ymddangos ddiwethaf.

(6Ym mharagraff (3)(c)(i) o reoliad 12, mewnosodir y cymal “other than DBES goods destined for placing on the market in the United Kingdom” ar ôl y gair “abroad”.

(7Ym mharagraff (3)(c)(ii) o reoliad 12, mewnosodir y cymal “other than DBES goods destined for placing on the market in the United Kingdom” ar y diwedd.

(8Ym mharagraff (3)(a) o reoliad 13 (gofynion a osodir ar weithredydd sefydliad a gymeradwywyd o dan reoliad 12), hepgorir y cymal “, DBES goods”.

(9Ym mharagraff (6) o reoliad 13, mewnosodir y cymal “or DBES goods destined for placing on the market in the United Kingdom” ar ôl y gair “goods”.

(10Ym mharagraff (13) o reoliad 13, rhoddir y gair “become” yn lle'r gair “are”.

(11Yng ngofyniad 5 yng ngholofn gyntaf Atodlen 2 (y dulliau gweithredu a fynnir ar gyfer paratoi nwyddau sy'n gymwys i'w hallforio mewn sefydliadau sydd wedi'u neilltuo ar gyfer allforio), mewnosodir y cymal “or DBES goods destined for placing on the market in the United Kingdom” ar y diwedd.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(4).

D.Elis-Thomas

Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

25 Ebrill 2002

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Bucholion a Chynhyrchion Buchol (Masnach) 1999 (O.S. 1999/1103, fel y'u diwygiwyd) (“y Prif Reoliadau”) i'r graddau y maent yn gymwys i Gymru. Mae'r Prif Reoliadau yn rhoi effaith i Benderfyniadau'r Comisiwn 98/692/EC (O.J. Rhif L328, 4.12.98, t.28) a 98/564/EC (O.J. Rhif L273, 9.10.98, t.37) a ddiwygiodd Benderfyniad y Cyngor 98/256/EC (O.J. Rhif L113, 15.4.98, t.32).

Effaith y diwygiadau yw caniatáu anfon cig eidion ag esgyrn ynddo o safleoedd wedi'u cymeradwyo o dan y Cynllun Allforio ar Sail Dyddiadau (“CASD”) i'r farchnad ddomestig.

Paratowyd arfarniad rheoliadol yn unol ag adran 65 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 a Rheolau Sefydlog Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Gellir cael copiau oddiwrth Is-Adran Iechyd Anifeiliaid 1, Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.