xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN ICYFFREDINOL

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cynlluniau Datblygu Addysg (Cymru) 2002 a deuant i rym ar 26 Ebrill 2002.

(2Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys mewn perthynas ag awdurdodau addysg lleol yng Nghymru yn unig.

(3Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys mewn perthynas â chynlluniau llawn 2002—05 a chynlluniau dilynol (p'un ai llawn neu atodol) yn unig.

Diddymu ac arbed

2.—(1Mae'r Rheoliadau hyn yn diddymu Rheoliadau Cynlluniau Datblygu Addysg (Cymru) 1999(1).

(2Ni fydd diddymu'r rheoliadau yn (1) uchod yn rhagfarnu dilysrwydd parhaus y cynlluniau sydd eisoes wedi'u gwneud o dan y rheoliadau hynny.

Dehongli

3.—(1Yn y Rheoliadau hyn, onid yw'r cyd-destun yn mynnu fel arall—

(2Yn y Rheoliadau hyn mae cyfeiriad—

(a)at reoliad â rhif yn gyfeiriad at y rheoliad yn y Rheoliadau hyn sy'n dwyn y rhif hwnnw;

(b)at baragraff â rhif mewn rheoliad neu Atodlen yn gyfeiriad at y paragraff sy'n dwyn y rhif hwnnw yn y rheoliad hwnnw neu'r Atodlen honno;

onid yw'r cyd-destun yn mynnu fel arall.

(3Rhaid dehongli unrhyw gyfeiriad yn y Rheoliadau hyn at ddisgybl sy'n ennill—

(a)gradd mewn arholiad TGAU,

(b)cymhwyster galwedigaethol, neu

(c)gradd mewn arholiad cwrs byr TGAU,

erbyn diwedd blwyddyn ysgol, fel cyfeiriad at y disgybl hwnnw yn ennill y radd honno neu'r cymhwyster hwnnw yn ystod y flwyddyn ysgol y mae—

(i)yn sefyll yr arholiad hwnnw, neu

(ii)(yn ôl fel y digwydd) yn cwblhau'r cwrs sy'n arwain at ddyfarnu'r cymhwyster hwnnw,

hyd yn oed os yw'r penderfyniad i ddyfarnu'r radd neu'r cymhwyster yn cael ei wneud mewn blwyddyn ysgol ddiweddarach.

Y cyfnod y mae'n rhaid i'r datganiad o gynigion ymwneud ag ef

4.—(1Rhaid i'r datganiad o gynigion yn y cynllun llawn cyntaf a baratoir o dan y Rheoliadau hyn (y cyfeirir ato yn y Rheoliadau hyn fel “cynllun llawn 2002—05”) ymwneud â chyfnod o dair blwyddyn ysgol sy'n dechrau ar 1 Medi 2002.

(2Raid i'r datganiad o gynigion mewn cynllun llawn dilynol ymwneud â chyfnod o dair blwyddyn ysgol, sy'n dechrau pan ddaw cyfnod y cynllun llawn blaenorol mwyaf diweddar i ben.

(3Rhaid i'r datganiad o gynigion mewn cynllun atodol cyntaf ymwneud â chyfnod o ddwy flwyddyn ysgol sy'n dechrau pan ddaw'r flwyddyn ysgol gyntaf yng nghyfnod y cynllun llawn mwyaf diweddar i ben.

(4Rhaid i'r datganiad o gynigion mewn ail gynllun atodol ymwneud â chyfnod—

(a)mewn perthynas yn unig â gosod targedau a bennir yn rheoliad 30, o ddwy flwyddyn ysgol sy'n dechrau pan ddaw'r ail flwyddyn ysgol yng nghyfnod y cynllun llawn mwyaf diweddar i ben;

(b)ym mhob cyswllt arall, un flwyddyn ysgol sy'n dechrau pan ddaw'r ail flwyddyn ysgol yng nghyfnod y cynllun llawn mwyaf diweddar i ben.

Y cyfnodau y mae'n rhaid paratoi cynlluniau strategol addysg rhyngddynt a chyflwyno'r cynlluniau i'r Cynulliad Cenedlaethol

5.—(1Rhaid paratoi cynlluniau strategol addysg bob blwyddyn.

(2Rhaid i bob awdurdod gyflwyno ei gynllun llawn 2002—05 i'r Cynulliad Cenedlaethol ar neu cyn y 31 Mai 2002.

(3Rhaid i bob awdurdod gyflwyno cynllun dilynol (p'un ai llawn neu atodol) i'r Cynulliad Cenedlaethol ar neu cyn 30 Ebrill cyn diwrnod cyntaf y cynllun hwnnw.

Cyhoeddi'r cynllun strategol addysg

6.—(1Rhaid i bob awdurdod gyhoeddi copi llawn o'i gynllun a gymeradwywyd—

(a)drwy sicrhau fod copi electronig neu ysgrifenedig ar gael i'w archwilio yn swyddfeydd yr awdurdod, a

(b)drwy ei osod gerbron y Cynulliad Cenedlaethol,

ar neu cyn diwrnod cyntaf y cynllun, neu cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol wedi i'r cynllun gael ei gymeradwyo, os yw hynny'n ddiweddarach.

(2Rhaid i bob awdurdod ddarparu copi o'i gynllun a gymeradwywyd, neu fersiwn cryno ohono—

(a)i bennaeth a chadeirydd corff llywodraethu pob ysgol a gynhelir gan yr awdurdod; a

(b)i unrhyw berson arall os bydd y person hwnnw yn gwneud cais yn ysgrifenedig.

(3Yn y rheoliad hwn ystyr “cynllun a gymeradwywyd” yw cynllun strategol addysg sy'n gynllun llawn, yn gynllun atodol, neu'n gynllun wedi'i addasu, lle mae'r datganiad o gynigion wedi cael ei gymeradwyo o dan adran 7(2) neu 7(8) o Ddeddf 1998, a rhaid dehongli “a gymeradwywyd” mewn perthynas â chynllun o'r fath yn unol â hynny.

(4Bernir y bydd y gofyniad ym mharagraff (2)(a) wedi'i fodloni os bydd yr awdurdod wedi hysbysu'r personau y cyfeirir atynt yn y paragraff hwnnw fod cynllun yr awdurdod a gafodd ei gymeradwyo neu fersiwn gryno ohono ar gael ar wefan y mae'r awdurdod yn ei chynnal neu ar y Rhyngrwyd.

(5)

Y gorchmynion priodol sydd mewn grym ar hyn o bryd yw Gorchymyn Addysg (Y Cwricwlwm Cenedlaethol) (Trefniadau Asesu ar gyfer Cymraeg, Saesneg, Mathemateg a Gwyddoniaeth) (Cyfnod Allweddol 2) (Cymru) 1997, O.S. 1997/2009, fel y'i diwygiwyd gan O.S. 1998/1977 a Gorchymyn Addysg (Y Cwricwlwm Cenedlaethol) (Trefniadau Asesu Cyfnod Allweddol 3) (Cymru) 1997, O.S. 1977/2010, fel y'i diwygiwyd gan O.S. 1998/1976 ac O.S. 2001/889 (Cy.40).