RHAN IICYNLLUNIAU LLAWN — DATGANIAD O GYNIGION

Blaenoriaethau ar gyfer gwella ysgolion7

Rhaid i'r datganiad o gynigion mewn cynllun llawn—

a

nodi'r blaenoriaethau a nodwyd gan yr awdurdod ar gyfer codi safonau'r addysg a ddarperir ar gyfer plant yn ardal yr awdurdod yn ystod cyfnod y cynllun ac ar gyfer gwella perfformiad yr ysgolion a gynhelir gan yr awdurdod yn ystod y cyfnod hwnnw, ac unedau cyfeirio disgyblion ac ysgolion meithrin a gynhelir yn ei ardal;

b

pennu, mewn perthynas â phob un o'r blaenoriaethau a nodir yn unol â pharagraff (a), ar ba sail y cafodd ei nodi a sut y bydd yn cyfrannu at gyflawni'r targedau y cyfeirir atynt yn rheoliad 11;

c

rhestru, mewn perthynas â phob un o'r blaenoriaethau a nodir yn unol â pharagraff (a), y gweithgareddau y mae'r awdurdod yn bwriadu ymgymryd â hwy yn ystod cyfnod y cynllun er mwyn mynd i'r afael â'r flaenoriaeth honno;

ch

cynnwys datganiad yn nodi sut y mae'r awdurdod yn bwriadu monitro'r perfformiad yn ystod cyfnod y cynllun mewn ysgolion a gynhelir, ysgolion meithrin a gynhelir ac unedau cyfeirio disgyblion ac yn ei ardal;

d

cynnwys datganiad yn nodi sut y mae'r awdurdod yn bwriadu nodi a chefnogi ysgolion sy'n achosi pryder;

dd

gosod targedau cynnydd wedi'u hamseru, yn benodol a mesuradwy o ran pob un o flaenoriaethau'r awdurdod fel y nodir hwy yn unol â pharagraff (a); ac

e

cynnwys datganiad yn nodi'r camau y mae'r awdurdod yn bwriadu eu cymryd mewn perthynas ag unrhyw ddiffygion gwirioneddol neu ddiffygion a ddisgwylir wrth gyflawni ei dargedau yn y cynllun blaenorol, p'un ai cynllun llawn neu gynllun atodol.

Disgyblion ag anghenion addysgol arbennig8

Rhaid i'r datganiad o gynigion mewn cynllun llawn—

a

nodi polisi'r awdurdod ar ddarparu addysg i ddisgyblion sydd ag anghenion addysgol arbennig;

b

nodi polisi'r awdurdod ar gyfer darparu addysg i ddisgyblion o'r fath mewn ysgolion prif-ffrwd;

c

pennu cynigion yr awdurdod ar gyfer darparu a gwella cefnogaeth ar gyfer disgyblion ag anghenion addysgol arbennig yn ystod cyfnod y cynllun;

ch

pennu cynigion yr awdurdod ar gyfer hybu ei bolisi ar gynnwys disgyblion ag anghenion addysgol arbennig mewn ysgolion prif-ffrwd yn ystod cyfnod y cynllun; a

d

gosod targedau cynnydd wedi'u hamseru, yn benodol a mesuradwy o ran pob un o flaenoriaethau'r awdurdod fel y nodir hwy yn unol â pharagraffau (c) ac (ch).

Hybu ymwybyddiaeth hil9

Rhaid i'r datganiad o gynigion yn y cynllun llawn sy'n ymwneud â'r tair blwyddyn ysgol sy'n dechrau ar 1 Medi 2005 ac mewn cynlluniau llawn dilynol—

a

nodi polisi'r awdurdod ar hybu ymwybyddiaeth hil mewn ysgolion; a

b

nodi strategaeth yr awdurdod ar gyfer atal a mynd i'r afael â hiliaeth mewn ysgolion.

Plant sy'n derbyn gofal gan awdurdod lleol10

Rhaid i'r datganiad o gynigion mewn cynllun llawn—

a

nodi polisi'r awdurdod ar y ddarpariaeth addysg i ddisgyblion sy'n blant sy'n derbyn gofal; a

b

pennu safonau addysgol y dylai disgyblion sy'n blant sy'n derbyn gofal yn ardal yr awdurdod fod yn eu cyrraedd yn yr ysgolion a gynhelir ganddo, ac wrth osod safonau o'r fath, rhaid i'r awdurdod roi sylw i dargedau cenedlaethol a osodir gan y Cynulliad Cenedlaethol ar gyfer y safonau addysgol y mae disgyblion o'r fath i'w cyrraedd.

Targedau11

1

Yn y datganiad o gynigion mewn cynllun llawn rhaid i'r awdurdod osod targedau ar gyfer y flwyddyn gyntaf a'r ail yng nghyfnod y cynllun mewn perthynas â'r materion y cyfeirir atynt ym mharagraff (2).

2

Y materion y cyfeirir atynt ym mharagraff (1) yw—

a

cyraeddiadau disgyblion cyfnod allweddol dau fel y'u nodir yn rheoliad 12;

b

cyraeddiadau disgyblion cyfnod allweddol tri fel y'u nodir yn rheoliad 13;

c

cyraeddiadau disgyblion a fydd yn cyrraedd 16 oed fel y'u nodir yn rheoliad 14;

ch

canran y disgyblion na chyflwynwyd eu henwau i sefyll arholiadau fel y'i nodir yn rheoliad 15;

d

nifer y gwaharddiadau parhaol fel y'i nodir yn rheoliad 16;

dd

nifer y gwaharddiadau cyfnod penodedig fel y'i nodir yn rheoliad 17; ac

e

cyfradd yr absenoldebau diawdurdod fel y'i nodir yn rheoliad 18.

Disgyblion yng nghyfnod allweddol dau12

1

Cyraeddiadau disgyblion cyfnod allweddol dau y cyfeirir atynt yn rheoliad 11 yw'r cyraeddiadau a nodir ym mharagraff (2) mewn cysylltiad â pherfformiad y grŵp perthnasol o ddisgyblion o'r fath ym mhrofion y CC sydd i'w gweinyddu i'r grŵp hwnnw ar neu yn agos i ddiwedd pob un o'r blynyddoedd ysgol y mae'r targed i gael ei osod mewn perthynas â hwy.

2

Dyma'r cyraeddiadau y cyfeirir atynt ym mharagraff (1)—

a

ar gyfer pob un o'r pynciau craidd, canran y disgyblion sydd i gyrraedd lefel 4 neu'n uwch mewn profion o'r fath yn y pwnc hwnnw;

b

canran y disgyblion a fydd yn cyflawni'r dangosydd pynciau craidd mewn profion o'r fath;

c

canran y merched a fydd yn cyflawni'r dangosydd pynciau craidd mewn profion o'r fath; ac

ch

canran y bechgyn a fydd yn cyflawni'r dangosydd pynciau craidd mewn profion o'r fath.

3

Yn y rheoliad hwn, ystyr “y grŵp perthnasol o ddisgyblion o'r fath”, mewn perthynas â blwyddyn ysgol, yw'r holl bersonau y mae'r awdurdod yn amcangyfrif y byddant, yn y flwyddyn ysgol honno—

a

yn ddisgyblion cofrestredig mewn ysgol a gynhelir gan yr awdurdod, a

b

ym mlwyddyn olaf cyfnod allweddol dau.

Disgyblion yng nghyfnod allweddol tri13

1

Cyraeddiadau disgyblion cyfnod allweddol tri y cyfeirir atynt yn rheoliad 11 yw'r cyraeddiadau a nodir ym mharagraff (2) mewn cysylltiad â pherfformiad y grŵp perthnasol o ddisgyblion o'r fath ym mhrofion y CC sydd i'w gweinyddu i'r grŵp hwnnw ar neu yn agos i ddiwedd pob un o'r blynyddoedd ysgol y mae'r targed i gael ei osod mewn perthynas â hwy.

2

Dyma'r cyraeddiadau y cyfeirir atynt ym mharagraff (1)—

a

ar gyfer pob un o'r pynciau craidd, canran y disgyblion sydd i gyrraedd lefel 5 neu'n uwch mewn profion o'r fath yn y pwnc hwnnw;

b

canran y disgyblion a fydd yn cyflawni'r dangosydd pynciau craidd mewn profion o'r fath;

c

canran y merched a fydd yn cyflawni'r dangosydd pynciau craidd mewn profion o'r fath; ac

ch

canran y bechgyn a fydd yn cyflawni'r dangosydd pynciau craidd mewn profion o'r fath.

3

Yn y rheoliad hwn ystyr “y grŵp perthnasol o ddisgyblion o'r fath”, mewn perthynas â blwyddyn ysgol, yw'r holl bersonau y mae'r awdurdod yn amcangyfrif y byddant, yn y flwyddyn ysgol honno—

a

yn ddisgyblion cofrestredig mewn ysgol a gynhelir gan yr awdurdod, a

b

ym mlwyddyn olaf cyfnod allweddol tri.

Disgyblion a fydd yn cyrraedd 16 oed

14

1

Cyraeddiadau'r disgyblion a fydd yn cyrraedd 16 oed y cyfeirir atynt yn rheoliad 11 yw'r cyraeddiadau y cyfeirir atynt ym mharagraff (2) mewn perthynas â pherfformiad y grŵp perthnasol o ddisgyblion a fydd yn cyrraedd 16 oed mewn arholiadau erbyn diwedd pob un o'r blynyddoedd ysgol y mae targedau yn cael eu gosod mewn perthynas â hwy.

2

Dyma'r cyraeddiadau y cyfeirir atynt ym mharagraff (1)—

a

canran y disgyblion sydd i gyflawni'r dangosydd pynciau craidd;

b

canran y merched a fydd yn cyflawni'r dangosydd pynciau craidd;

c

canran y bechgyn a fydd yn cyflawni'r dangosydd pynciau craidd;

ch

canran y disgyblion a fydd yn ennill unrhyw radd o A* i C mewn pump neu fwy o bynciau mewn arholiadau TGAU;

d

canran y disgyblion a fydd yn cyflawni unrhyw radd o A* i G mewn pump neu fwy o bynciau mewn arholiadau TGAU; ac

dd

canran y disgyblion a fydd yn ymadael â'r ysgol heb naill ai ennill unrhyw radd o A* i G mewn arholiadau TGAU neu basio unrhyw arholiadau ELQ.

3

O ran y cyfeiriadau at ddisgyblion—

a

sy'n ennill graddau penodol mewn arholiadau TGAU ym mharagraff (2) (ch), (d) ac (dd), rhaid eu dehongli at ddibenion y darpariaethau hyn fel eu bod yn cynnwys cyfeiriadau at ddisgyblion sy'n ennill dyfarniadau cyfatebol mewn nifer cyfatebol o gymwysterau galwedigaethol neu arholiadau cwrs byr TGAU; a

b

sy'n ymadael â'r ysgol ym mharagraff 2(dd) nid ydynt yn cynnwys disgyblion sy'n trosglwyddo i sefydliad addysgol arall ar sail llawnamser.

4

Bydd gan yr Atodlen effaith ar gyfer penderfynu, at ddibenion y rheoliad hwn, ar gwestiynau ynghylch—

a

pa ddyfarniad cymhwyster galwedigaethol sy'n cyfateb i ba radd arholiad TGAU;

b

y cyfwerthedd rhwng canlyniadau arholiadau TGAU a chymwysterau galwedigaethol; ac

c

y cyfwerthedd rhwng canlyniadau arholiadau TGAU a chanlyniadau arholiadau cwrs byr TGAU.

5

Yn y rheoliad hwn ac yn rheoliad 15, ystyr “y grŵp perthnasol o ddisgyblion a fydd yn cyrraedd 16 oed” mewn perthynas â blwyddyn ysgol, yw'r holl bersonau y mae'r awdurdod yn amcangyfrif y byddant—

a

ar ddyddiad rhifo'r Cyfrifiad Ysgolion yn y flwyddyn ysgol honno yn ddisgyblion cofrestredig mewn ysgol a gynhelir gan yr awdurdod, a

b

yn cyrraedd 16 oed yn ystod y flwyddyn ysgol honNo.

15

Canran y disgyblion na chyflwynwyd eu henwau i sefyll arholiadau y cyfeirir ati yn rheoliad 11 yw'r ganran o'r grŵp perthnasol o ddisgyblion a fydd yn cyrraedd 16 oed, fel y'i diffinnir yn rheoliad 14, yn ardal yr awdurdod na fydd eu henwau yn cael eu cyflwyno i sefyll unrhyw arholiad TGAU, arholiad cwrs byr TGAU, dyfarniad cymhwyster galwedigaethol neu ELQ.

Targedau ar gyfer gwaharddiadau parhaol16

1

Nifer y gwaharddiadau parhaol y cyfeirir ato yn rheoliad 11 yw uchafswm nifer yr achlysuron y mae'r awdurdod yn amcangyfrif y caiff disgyblion eu gwahardd yn barhaol o ysgolion a gynhelir gan yr awdurdod, heblaw am unrhyw ysgol a leolir mewn ysbyty.

2

Yn y rheoliad hwn ac yn rheoliad 17, dylid dehongli “gwahardd” yn unol ag “excluded” yn adran 64(4) o Ddeddf 1998.

Targedau ar gyfer gwaharddiadau cyfnod penodedig17

Y gwaharddiadau cyfnod penodedig y cyfeirir atynt yn rheoliad 11 yw—

a

uchafswm nifer y diwrnodau, a

b

uchafswm nifer yr achlysuron,

pryd y mae'r awdurdod yn amcangyfrif y caiff disgyblion eu gwahardd am gyfnod penodedig o ysgolion a gynhelir gan yr awdurdod heblaw am unrhyw ysgol a leolir mewn ysbyty.

Targedau ar gyfer absenoldebau diawdurdod18

1

Y gyfradd absenoldeb diawdurdod y cyfeirir ati yn rheoliad 11 yw'r gyfradd absenoldeb diawdurdod ar gyfer pob un o'r blynyddoedd ysgol y mae'r targed yn cael ei osod mewn perthynas â hi, mewn ysgolion a gynhelir gan yr awdurdod sy'n darparu addysg uwchradd, heblaw am ysgolion arbennig ac unrhyw ysgol a leolir mewn ysbyty.

2

Yn y rheoliad hwn—

a

ystyr “y gyfradd absenoldeb diawdurdod”, mewn perthynas ag awdurdod ac unrhyw flwyddyn ysgol, yw cyfanswm yr absenoldebau diawdurdod o'r ysgolion a gynhelir gan yr awdurdod yn ystod y cyfnod perthnasol yn y flwyddyn honno, wedi'i fynegi fel canran o gyfanswm y presenoldebau posibl yn y cyfnod hwnnw;

b

ystyr “absenoldeb diawdurdod” yw achlysur pan fo disgybl dydd perthnasol wedi'i gofrestru yn absennol o'r ysgol heb awdurdod yn unol â Rheoliadau Addysg (Cofrestru Disgyblion) 199510;

c

ystyr “cyfanswm y presenoldebau posibl”, mewn perthynas ag awdurdod ac unrhyw flwyddyn ysgol, yw'r nifer a geir yn sgil lluosi nifer y disgyblion dydd perthnasol yn yr ysgolion a gynhelir gan yr awdurdod gyda nifer y sesiynau ysgol yn y cyfnod perthnasol yn y flwyddyn honno;

ch

ystyr “disgybl dydd perthnasol”, mewn perthynas ag ysgol a blwyddyn ysgol, yw disgybl a gofrestrwyd yn yr ysgol honno heblaw am—

i

byrddiwr, neu

ii

disgybl sydd, cyn dechrau'r flwyddyn ysgol honno, naill ai heb gyrraedd deg oed a chwe mis, neu sydd wedi cyrraedd un ar bymtheg oed;

d

ystyr “y cyfnod perthnasol”, mewn perthynas â blwyddyn ysgol, yw'r cyfnod sy'n dechrau ar ddechrau'r flwyddyn honno ac sy'n gorffen gyda diwedd y diwrnod ysgol sy'n disgyn ar y dydd Gwener cyn y dydd Llun olaf ym Mai yn y flwyddyn honno; ac

dd

mae i “addysg uwchradd” yr ystyr a roddir i “secondary education” yn adran 2(2) o Ddeddf 1996.

Gwybodaeth a ddefnyddir gan awdurdod wrth osod targedau19

Rhaid i'r datganiad o gynigion mewn cynllun llawn—

a

disgrifio sut y bydd pob un o'r targedau ar gyfer unrhyw flwyddyn a osodir gan yr awdurdod yn rhinwedd rheoliad 11 yn ymwneud ag unrhyw dargedau cyfatebol ar gyfer y flwyddyn honno a osodir gan gyrff llywodraethu ysgolion a gynhelir gan yr awdurdod hwnnw yn rhinwedd Rheoliadau 1999;

b

disgrifio sut y bydd yr awdurdod yn mynd ati gyda ysgolion a gynhelir gan yr awdurdod i gynorthwyo cyrff llywodraethu ysgolion o'r fath i osod y targedau y mae gofyn iddynt eu gosod yn rhinwedd Rheoliadau 1999, gan gynnwys disgrifiad o'r wybodaeth a roddir gan yr awdurdod i gyrff llywodraethu o'r fath er mwyn eu cynorthwyo i osod y targedau hynny;

c

disgrifio sut y bydd pob un o'r targedau ar gyfer unrhyw flwyddyn a osodir gan yr awdurdod yn rhinwedd rheoliad 11 yn ymwneud ag unrhyw dargedau cenedlaethol a osodwyd gan y Cynulliad Cenedlaethol ar gyfer ysgolion a gynhelir yng Nghymru; ac

ch

crynhoi'r wybodaeth a ddefnyddir gan yr awdurdod wrth osod y targedau y cyfeirir atynt yn rheoliad 11.