Rheoliadau Cynlluniau Datblygu Addysg (Cymru) 2002

Disgyblion yng nghyfnod allweddol dau

12.—(1Cyraeddiadau disgyblion cyfnod allweddol dau y cyfeirir atynt yn rheoliad 11 yw'r cyraeddiadau a nodir ym mharagraff (2) mewn cysylltiad â pherfformiad y grŵp perthnasol o ddisgyblion o'r fath ym mhrofion y CC sydd i'w gweinyddu i'r grŵp hwnnw ar neu yn agos i ddiwedd pob un o'r blynyddoedd ysgol y mae'r targed i gael ei osod mewn perthynas â hwy.

(2Dyma'r cyraeddiadau y cyfeirir atynt ym mharagraff (1)—

(a)ar gyfer pob un o'r pynciau craidd, canran y disgyblion sydd i gyrraedd lefel 4 neu'n uwch mewn profion o'r fath yn y pwnc hwnnw;

(b)canran y disgyblion a fydd yn cyflawni'r dangosydd pynciau craidd mewn profion o'r fath;

(c)canran y merched a fydd yn cyflawni'r dangosydd pynciau craidd mewn profion o'r fath; ac

(ch)canran y bechgyn a fydd yn cyflawni'r dangosydd pynciau craidd mewn profion o'r fath.

(3Yn y rheoliad hwn, ystyr “y grŵp perthnasol o ddisgyblion o'r fath”, mewn perthynas â blwyddyn ysgol, yw'r holl bersonau y mae'r awdurdod yn amcangyfrif y byddant, yn y flwyddyn ysgol honno—

(a)yn ddisgyblion cofrestredig mewn ysgol a gynhelir gan yr awdurdod, a

(b)ym mlwyddyn olaf cyfnod allweddol dau.