RHAN IICYNLLUNIAU LLAWN — DATGANIAD O GYNIGION

Disgyblion yng nghyfnod allweddol dau12

1

Cyraeddiadau disgyblion cyfnod allweddol dau y cyfeirir atynt yn rheoliad 11 yw'r cyraeddiadau a nodir ym mharagraff (2) mewn cysylltiad â pherfformiad y grŵp perthnasol o ddisgyblion o'r fath ym mhrofion y CC sydd i'w gweinyddu i'r grŵp hwnnw ar neu yn agos i ddiwedd pob un o'r blynyddoedd ysgol y mae'r targed i gael ei osod mewn perthynas â hwy.

2

Dyma'r cyraeddiadau y cyfeirir atynt ym mharagraff (1)—

a

ar gyfer pob un o'r pynciau craidd, canran y disgyblion sydd i gyrraedd lefel 4 neu'n uwch mewn profion o'r fath yn y pwnc hwnnw;

b

canran y disgyblion a fydd yn cyflawni'r dangosydd pynciau craidd mewn profion o'r fath;

c

canran y merched a fydd yn cyflawni'r dangosydd pynciau craidd mewn profion o'r fath; ac

ch

canran y bechgyn a fydd yn cyflawni'r dangosydd pynciau craidd mewn profion o'r fath.

3

Yn y rheoliad hwn, ystyr “y grŵp perthnasol o ddisgyblion o'r fath”, mewn perthynas â blwyddyn ysgol, yw'r holl bersonau y mae'r awdurdod yn amcangyfrif y byddant, yn y flwyddyn ysgol honno—

a

yn ddisgyblion cofrestredig mewn ysgol a gynhelir gan yr awdurdod, a

b

ym mlwyddyn olaf cyfnod allweddol dau.