
Print Options
PrintThe Whole
Instrument
PrintThis
Section
only
Statws
This is the original version (as it was originally made). This item of legislation is currently only available in its original format.
Dehongli
2.—(1) Yn y Rheoliadau hyn—
mae i “anghenion addysgol arbennig” a “darpariaeth addysgol arbennig” yr ystyron a roddir i “special educational needs” a “special educational provision” gan adran 312(2) a (4) o Ddeddf Addysg 1996());
ystyr “awdurdod” (“authority”) yw awdurdod addysg lleol;
mae i “blwyddyn ariannol” yr ystyr a roddir i “financial year” gan adran 579(1) o Ddeddf Addysg 1996();
dehonglir “cyfnod allweddol” (“key stage”) yn unol ag adran 355(1) o Ddeddf Addysg 1996;
mae i “cyfran o'r gyllideb” yr ystyr a roddir i “budget share” gan adran 47(1) o Ddeddf 1998;
ystyr “y Cynulliad Cenedlaethol” (“the National Assembly”) yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru;
ystyr “Deddf 1998” (“the 1998 Act”) yw Deddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998;
ystyr “datganiad” (“statement”) mewn perthynas â disgybl ag anghenion addysgol arbennig yw datganiad a wneir o dan adran 324(1) o Ddeddf Addysg 1996;
ystyr “datganiad cyllideb” (“budget statement”) yw'r datganiad y cyfeirir ato yn adran 52(1) o Ddeddf 1998;
ystyr “ffactor” (“factor”) yw un o'r ffactorau neu'r meini prawf a gymerir i ystyriaeth yn y fformwla ddyrannu;
ystyr “fformwla ddyrannu” (“allocation formula”) yw fformwla'r awdurdod o dan reoliad 10 o Reoliadau 1999 a ddefnyddir i benderfynu cyfrannau o'r gyllideb ysgolion;
ystyr “ISB” yw cyllideb ysgolion unigol awdurdod o fewn ystyr adran 46(2) o Ddeddf 1998;
ystyr “perthnasol” (“relevant”) mewn perthynas ag “oedran” (“age”), “grŵ p oedran” (“age group”) a “grŵp blwyddyn” (“year group”) yw oedran, grŵ p oedran neu grŵ p blwyddyn sy'n cael eu trin ar wahân yn y fformwla ddyrannu at ddibenion penderfynu'r rhan honno o gyfran pob ysgol o'r gyllideb sydd i'w phenderfynu drwy gyfeirio at niferoedd y disgyblion cofrestredig;
ystyr “Rheoliadau 1999” (“the 1999 Regulations”) yw Rheoliadau Cyllido Ysgolion a Gynhelir 1999();
ystyr “rhif AALl” (“LEA number”) yw'r rhif cyfeirnod a ddyrannwyd i'r awdurdod gan y Cynulliad Cenedlaethol neu'r Ysgrifennydd Gwladol;
ystyr “rhif cyfeirnod swyddogol” (“official reference number”) yw'r rhif cyfeirnod a ddyrannwyd i'r ysgol gan y Cynulliad Cenedlaethol neu'r Ysgrifennydd Gwladol;
ystyr “rhif fersiwn” (“version number”) yw rhif sy'n gwahaniaethu ffurflen benodol a gyflwynir gan yr awdurdod oddi wrth fersiynau cynharach o'r ffurflen a gyflwynwyd ganddynt;
ystyr “ysgol” (“school”) yw ysgol a gynhelir, sef ysgol gymunedol, ysgol sefydledig neu ysgol wirfoddol neu ysgol gymunedol arbennig neu ysgol sefydledig arbennig; ac
mae i “ysgol ganol” yr ystyr a roddir i “middle school” gan adran 5(3) o Ddeddf Addysg 1996().
(2) Yn y Rheoliadau hyn, onid yw'r cyd-destun yn mynnu fel arall—
(a)nid yw cyfeiriadau at ysgolion cynradd neu ysgolion uwchradd yn cynnwys ysgolion arbennig; a
(b)mae cyfeiriadau at nifer neu niferoedd o ddisgyblion cofrestredig mewn un neu fwy o ysgolion yn gyfeiriadau at y nifer neu'r niferoedd o'r cyfryw ddisgyblion y mae'n ofynnol eu defnyddio o dan y fformwla ddyrannu ar gyfer penderfyniad cychwynnol cyfran yr ysgol honno o'r gyllideb neu gyfrannau yr ysgolion hynny o'r gyllideb ar gyfer y flwyddyn gan anwybyddu unrhyw bwysoliad yn unol â pharagraff (7) neu unrhyw addasiad o dan baragraff (8) o reoliad 11 o Reoliadau 1999.
(3) Mae unrhyw gyfeiriad yn y Rheoliadau hyn at reoliad neu Atodlen â rhif yn gyfeiriad at y rheoliad yn y Rheoliadau hyn neu'r Atodlen iddynt sy'n dwyn y rhif hwnnw.
Back to top