2.—(1) Yn y Rheoliadau hyn—
mae i “anghenion addysgol arbennig” a “darpariaeth addysgol arbennig” yr ystyron a roddir i “special educational needs” a “special educational provision” gan adran 312(2) a (4) o Ddeddf Addysg 1996(1));
ystyr “awdurdod” (“authority”) yw awdurdod addysg lleol;
mae i “blwyddyn ariannol” yr ystyr a roddir i “financial year” gan adran 579(1) o Ddeddf Addysg 1996(2);
dehonglir “cyfnod allweddol” (“key stage”) yn unol ag adran 355(1) o Ddeddf Addysg 1996;
mae i “cyfran o'r gyllideb” yr ystyr a roddir i “budget share” gan adran 47(1) o Ddeddf 1998;
ystyr “y Cynulliad Cenedlaethol” (“the National Assembly”) yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru;
ystyr “Deddf 1998” (“the 1998 Act”) yw Deddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998;
ystyr “datganiad” (“statement”) mewn perthynas â disgybl ag anghenion addysgol arbennig yw datganiad a wneir o dan adran 324(1) o Ddeddf Addysg 1996;
ystyr “datganiad cyllideb” (“budget statement”) yw'r datganiad y cyfeirir ato yn adran 52(1) o Ddeddf 1998;
ystyr “ffactor” (“factor”) yw un o'r ffactorau neu'r meini prawf a gymerir i ystyriaeth yn y fformwla ddyrannu;
ystyr “fformwla ddyrannu” (“allocation formula”) yw fformwla'r awdurdod o dan reoliad 10 o Reoliadau 1999 a ddefnyddir i benderfynu cyfrannau o'r gyllideb ysgolion;
ystyr “ISB” yw cyllideb ysgolion unigol awdurdod o fewn ystyr adran 46(2) o Ddeddf 1998;
ystyr “perthnasol” (“relevant”) mewn perthynas ag “oedran” (“age”), “grŵ p oedran” (“age group”) a “grŵp blwyddyn” (“year group”) yw oedran, grŵ p oedran neu grŵ p blwyddyn sy'n cael eu trin ar wahân yn y fformwla ddyrannu at ddibenion penderfynu'r rhan honno o gyfran pob ysgol o'r gyllideb sydd i'w phenderfynu drwy gyfeirio at niferoedd y disgyblion cofrestredig;
ystyr “Rheoliadau 1999” (“the 1999 Regulations”) yw Rheoliadau Cyllido Ysgolion a Gynhelir 1999(3);
ystyr “rhif AALl” (“LEA number”) yw'r rhif cyfeirnod a ddyrannwyd i'r awdurdod gan y Cynulliad Cenedlaethol neu'r Ysgrifennydd Gwladol;
ystyr “rhif cyfeirnod swyddogol” (“official reference number”) yw'r rhif cyfeirnod a ddyrannwyd i'r ysgol gan y Cynulliad Cenedlaethol neu'r Ysgrifennydd Gwladol;
ystyr “rhif fersiwn” (“version number”) yw rhif sy'n gwahaniaethu ffurflen benodol a gyflwynir gan yr awdurdod oddi wrth fersiynau cynharach o'r ffurflen a gyflwynwyd ganddynt;
ystyr “ysgol” (“school”) yw ysgol a gynhelir, sef ysgol gymunedol, ysgol sefydledig neu ysgol wirfoddol neu ysgol gymunedol arbennig neu ysgol sefydledig arbennig; ac
mae i “ysgol ganol” yr ystyr a roddir i “middle school” gan adran 5(3) o Ddeddf Addysg 1996(4).
(2) Yn y Rheoliadau hyn, onid yw'r cyd-destun yn mynnu fel arall—
(a)nid yw cyfeiriadau at ysgolion cynradd neu ysgolion uwchradd yn cynnwys ysgolion arbennig; a
(b)mae cyfeiriadau at nifer neu niferoedd o ddisgyblion cofrestredig mewn un neu fwy o ysgolion yn gyfeiriadau at y nifer neu'r niferoedd o'r cyfryw ddisgyblion y mae'n ofynnol eu defnyddio o dan y fformwla ddyrannu ar gyfer penderfyniad cychwynnol cyfran yr ysgol honno o'r gyllideb neu gyfrannau yr ysgolion hynny o'r gyllideb ar gyfer y flwyddyn gan anwybyddu unrhyw bwysoliad yn unol â pharagraff (7) neu unrhyw addasiad o dan baragraff (8) o reoliad 11 o Reoliadau 1999.
(3) Mae unrhyw gyfeiriad yn y Rheoliadau hyn at reoliad neu Atodlen â rhif yn gyfeiriad at y rheoliad yn y Rheoliadau hyn neu'r Atodlen iddynt sy'n dwyn y rhif hwnnw.
1996 p.56. Diwygiwyd adran 312(4) gan baragraff 71 o Atodlen 30 i Ddeddf 1998.
O.S. 1999/101 a ddiwygiwyd gan O.S. 2000/911(Cy. 40) a 2001/495 (Cy. 22).
Diwygiwyd adran 5(3) gan baragraff 59 o Atodlen 30 i Ddeddf 1998.