xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
32.—(1) Gall gwybodaeth berthnasol o ddatganiadau gwerthuso gael ei chymryd i ystyriaeth gan benaethiaid, cyrff llywodraethu ysgolion (gan gynnwys pwyllgorau cyrff llywodraethu), Prif Swyddogion Addysg neu unrhyw swyddogion neu gynghorwyr a ddynodir yn benodol gan Brif Swyddog Addysg o dan reoliad 31(2)(ch) wrth iddynt wneud penderfyniadau, ac wrth iddynt gynghori'r rhai sy'n gyfrifol am wneud penderfyniadau, ynghylch dyrchafu, diswyddo neu ddisgyblu athrawon ysgol neu ynghylch arfer unrhyw ddisgresiwn mewn perthynas â thâl.
(2) Rhaid i weithdrefnau gwerthuso beidio â bod yn rhan o unrhyw weithdrefnau disgyblu neu ddiswyddo.