Enwi a chychwyn
1. Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Cynlluniau Iaith Gymraeg (Cyrff Cyhoeddus) 2002 a daw i rym ar 25 Mehefin 2002.
Pennu Cyrff Cyhoeddus
2. Pennir y personau y cyfeirir atynt yn yr Atodlen i'r Gorchymyn hwn at ddibenion Rhan II o Ddeddf yr Iaith Gymraeg 1993.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(1).
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
28 Mai 2002