2002 Rhif 1441 (Cy.145)
YR IAITH GYMRAEG
Gorchymyn Cynlluniau Iaith Gymraeg (Cyrff Cyhoeddus) 2002
Wedi'i wneud
Yn dod i rym
Gan ei bod yn ymddangos i Gynulliad Cenedlaethol Cymru fod y personau y cyfeirir atynt yn yr Atodlen i'r Gorchymyn hwn yn bersonau sy'n arfer swyddogaethau cyhoeddus eu natur;
Yn awr felly, mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y swyddogaethau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adran 6(1) o Ddeddf yr Iaith Gymraeg 19931, ac a freiniwyd bellach yn y Cynulliad Cenedlaethol2, a phob pwer arall sy'n ei alluogi yn y cyswllt hwnnw, drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn canlynol: