xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Offerynnau Statudol Cymru

2002 Rhif 1441 (Cy.145)

YR IAITH GYMRAEG

Gorchymyn Cynlluniau Iaith Gymraeg (Cyrff Cyhoeddus) 2002

Wedi'i wneud

28 Mai 2002

Yn dod i rym

25 Mehefin 2002

Gan ei bod yn ymddangos i Gynulliad Cenedlaethol Cymru fod y personau y cyfeirir atynt yn yr Atodlen i'r Gorchymyn hwn yn bersonau sy'n arfer swyddogaethau cyhoeddus eu natur;

Yn awr felly, mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y swyddogaethau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adran 6(1) o Ddeddf yr Iaith Gymraeg 1993(1), ac a freiniwyd bellach yn y Cynulliad Cenedlaethol(2), a phob pwer arall sy'n ei alluogi yn y cyswllt hwnnw, drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn canlynol:

Enwi a chychwyn

1.  Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Cynlluniau Iaith Gymraeg (Cyrff Cyhoeddus) 2002 a daw i rym ar 25 Mehefin 2002.

Pennu Cyrff Cyhoeddus

2.  Pennir y personau y cyfeirir atynt yn yr Atodlen i'r Gorchymyn hwn at ddibenion Rhan II o Ddeddf yr Iaith Gymraeg 1993.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(3).

D. Elis-Thomas

Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

28 Mai 2002

Yr AtodlenENW CYMRAEG NEU GYFIEITHIAD O'R ENW

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

O dan Ran II o Ddeddf yr Iaith Gymraeg 1993 (“y Ddeddf”) gall Bwrdd yr Iaith Gymraeg roi hysbysiad ysgrifenedig i unrhyw gorff cyhoeddus lunio Cynllun Iaith Gymraeg. Mae adran 6 o'r Ddeddf yn rhestru amryw o gyrff cyhoeddus at ddibenion Rhan II o'r Ddeddf ac yn darparu bod yr Ysgrifennydd Gwladol (y Cynulliad Cenedlaethol bellach) yn cael pennu cyrff cyhoeddus pellach at y dibenion hynny.

Mae'r Gorchymyn hwn yn pennu cyrff cyhoeddus pellach at ddibenion Rhan II o'r Ddeddf.

Mae tri Gorchymyn blaenorol wedi'u gwneud o dan adran 6 o'r Ddeddf:

Gorchymyn Cynlluniau Iaith Gymraeg (Cyrff Cyhoeddus) 1996 (1996/1898);

Gorchymyn Cynlluniau Iaith Gymraeg (Cyrff Cyhoeddus) 1999 (1999/1100); a

Gorchymyn Cynlluniau Iaith Gymraeg (Cyrff Cyhoeddus) 2001 (2001/2550 (Cy.215)).

(2)

Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).