Gorchymyn Cynlluniau Iaith Gymraeg (Cyrff Cyhoeddus) 2002

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

O dan Ran II o Ddeddf yr Iaith Gymraeg 1993 (“y Ddeddf”) gall Bwrdd yr Iaith Gymraeg roi hysbysiad ysgrifenedig i unrhyw gorff cyhoeddus lunio Cynllun Iaith Gymraeg. Mae adran 6 o'r Ddeddf yn rhestru amryw o gyrff cyhoeddus at ddibenion Rhan II o'r Ddeddf ac yn darparu bod yr Ysgrifennydd Gwladol (y Cynulliad Cenedlaethol bellach) yn cael pennu cyrff cyhoeddus pellach at y dibenion hynny.

Mae'r Gorchymyn hwn yn pennu cyrff cyhoeddus pellach at ddibenion Rhan II o'r Ddeddf.

Mae tri Gorchymyn blaenorol wedi'u gwneud o dan adran 6 o'r Ddeddf:

Gorchymyn Cynlluniau Iaith Gymraeg (Cyrff Cyhoeddus) 1996 (1996/1898);

Gorchymyn Cynlluniau Iaith Gymraeg (Cyrff Cyhoeddus) 1999 (1999/1100); a

Gorchymyn Cynlluniau Iaith Gymraeg (Cyrff Cyhoeddus) 2001 (2001/2550 (Cy.215)).