2002 Rhif 1475 (Cy.147) (C.41)
Gorchymyn Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2001 (Cychwyn Rhif 2) (Cymru) 2002
Wedi'i wneud
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adran 70(2) o Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2001 1 drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn canlynol:—
Enwi, dehongli a chymhwyso1
1
Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2001 (Cychwyn Rhif 2) (Cymru) 2002.
2
Yn y Gorchymyn hwn, ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2001.
3
Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys i Gymru'n unig.
Y diwrnod penodedig2
1
Pennir drwy hyn 1 Gorffennaf 2002 fel y dyddiad y daw darpariaethau'r Ddeddf a bennir yn Rhan 1 o'r Atodlen i'r Gorchymyn hwn i rym.
2
Pennir drwy hyn 1 Rhagfyr 2002 fel y dyddiad y daw darpariaethau'r Ddeddf a bennir yn Rhan 2 o'r Atodlen i'r Gorchymyn hwn i rym.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 19982
YR ATODLEN
Rhan 1DARPARIAETHAU'R DDEDDF SY'N DOD I RYM AR 1 GORFFENNAF 2002
Darpariaethau'r Ddeddf | Pwnc |
---|---|
Adran 3(1) a (2) | Taliadau atodol i GIG |
Adran 5 | Cynhyrchu Incwm |
Adran 19 | Tystysgrifau cofnodion troseddol manylach |
Adran 20 | Rhestrau meddygol, deintyddol, offthalmig a fferyllol etc. |
Adran 21 | Cynnwys yn amodol ar restrau meddygol, deintyddol, offthalmig a fferyllol |
Adran 22 | Cofforaethau Deintyddol |
Adran 23 | Datgan buddiannau ariannol, rhoddion, etc. |
Adran 24 | Rhestrau ychwanegol |
Adran 25 | Atal ac anghymhwyso ymarferwyr |
Adran 26 | Rhestrau GMP a GDP |
Adran 28 | Cynlluniau Peilot |
Adran 29 | Gwneud cynlluniau peilot |
Adran 30 | Dynodi cymdogaethau neu safleoedd blaenoriaethol |
Adran 31 | Adolygu cynlluniau peilot |
Adran 32 | Amrywio a therfynu cynlluniau peilot |
Adran 33 | Contractau GIG |
Adran 34 | Ariannu gwaith paratoadol |
Adran 35 | Ffioedd, adfer taliadau a chosbau |
Adran 36 | Effaith Deddf Gwasanaethau Iechyd Gwladol 1977 |
Adran 37 | Safleodd y gellir darparu cynlluniau peilot ohonynt |
Adran 38 | Rheoliadau rheoli mynediad |
Adran 39 | Asesu cynlluniau peilot |
Adran 41 | Darpariaethau cyfatebol a chymhwyso deddfiadau |
Adran 42 | Gweinyddu presgripsiynau GIG a darparu gwasanaethau fferyllol |
Adran 43 | Darparu gwasanaethau fferyllol etc o bell |
Adran 67 i'r graddau y mae'n berthnasol i ddarpariaethau Atodlen 5 ac Atodlen 6 a bennir isod:— | Mân ddiwygiadau canlyniadol a dirymiadau |
Yn Atodlen 5—
| |
Yn Atodlen 6, dirymu i'r graddau y maent yn berthnasol i Gymru:— | |
Adran 102(1)(a)(ii) a (2)(a) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977; | |
Adran 21(1) o Ddeddf y Gwasanaethau Iechyd 1980; Paragraff 18(1) o Atodlen 9 i Deddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Gofal Cymunedol 1990; | |
Paragraff 29 i Atodlen 1 i Ddeddf yr Awdurdodau Iechyd 1995; | |
Adrannau 2(1), 4 i 6 a 14(5) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Diwygio) 1995; a | |
Pharagraffau 13 a 76 o Atodlen 2 i Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gofal Sylfaenol) 1997. | |
Atodlen 2 | Gwasanaethau Peilot |
Atodlen 3 | Gwasanaethau GFfLl |
Rhan 2DARPARIAETHAU'R DDEDDF SY'N DOD I RYM AR 1 RHAGFYR 2002
Darpariaethau'r Ddeddf | Pwnc |
---|---|
Adran 11 | Rôl y cyhoedd ac ymgynghori |
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Daethpwyd â darpariaethau'r Ddeddf y cyfeirir atynt yn y tabl isod i rym mewn perthynas â Chymru drwy gyfrwng Gorchmynion Cychwyn a wnaethpwyd cyn gwneud y Gorchymyn hwn.
Darpariaeth | Dyddiad Cychwyn | Rhif O.S. |
---|---|---|
Adran 49 | 03/12/2001 | |
Adran 50 | 19/12/2001 |
Daeth amrywiol ddarpariaethau o'r Ddeddf i rym mewn perthynas â Lloegr o dan yr Offerynnau Statudol canlynol: O.S. 2001/2804 (C.95)O.S. 2001/3167 (C.101); O.S. 2001/3294 (C.107); O.S. 2001/3619 (C.117); O.S. 2001/3738 (C.121); O.S. 2001/3752 (C. 122) ac O.S. 2001/4149 (C.133).