- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made).
1.—(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cig (Dadansoddi Peryglon a Phwynt Rheoli Critigol) (Cymru) 2002 ac maent yn gymwys i Gymru yn unig.
(2) Yn y Rheoliadau hyn—
(a)ystyr “cig coch ffres” (“fresh red meat”) yw cig ffres fel y diffinnir “fresh meat” yn rheoliad 2(1) o'r Rheoliadau Cig Ffres;
(b) mae i “cig dofednod ffres” yr un ystyr â “fresh poultry meat” yn rheoliad 2(1) o'r Rheoliadau Cig Dofednod;
(c)ystyr “dofednod” (“poultry”) yw ffowls domestig, tyrcwn, ieir gini, hwyaid a gwyddau;
(ch)ystyr “lladd-dy cig coch trwyddedig” (“licensed red meat slaughterhouse”) yw lladd-dy sydd wedi'i drwyddedu o dan reoliad 4 o'r Rheoliadau Cig Ffres;
(d)ystyr “lladd-dy cig dofednod trwyddedig” (“licensed poultry meat slaughterhouse”) yw lladd-dy sydd wedi'i drwyddedu o dan reoliad 4 o'r Rheoliadau Cig Dofednod;
(dd)ystyr “y Rheoliadau Cig Dofednod” (“the Poultry Meat Regulations”) yw Rheoliadau Cig Dofednod, Cig Adar Hela wedi'i Ffermio a Chig Cwningod (Hylendid ac Archwilio) 1995(1).
(e)ystyr “y Rheoliadau Cig Ffres” (“the Fresh Meat Regulations”) yw Rheoliadau Cig Ffres (Hylendid ac Archwilio)1995(2);
(f)ystyr “safle torri cig coch trwyddedig” (“licensed red meat cutting plant”) yw lladd-dy sydd wedi'i drwyddedu o dan reoliad 4 o'r Rheoliadau Cig Ffres;
(ff)ystyr “safle torri cig dofednod trwyddedig” (“licensed poutry meat cutting plant”) yw safle torri sydd wedi'i drwyddedu o dan reoliad 4 o'r Rheoliadau Cig Dofednod;
(g)ystyr “y swm penodedig” (“the specified amount”)—
(i)yn achos unrhyw ladd-dy cig coch trwyddedig, yw 500 uned da byw;
(ii)yn achos unrhyw safle torri cig coch trwyddedig, yw 150 tunnell fetrig o gig coch ffres;
(iii)yn achos unrhyw ladd-dy cig dofednod trwyddedig, yw 200,000 o ddofednod; a
(iv)yn achos unrhyw safle torri cig dofednod trwyddedig, yw 150 tunnell fetrig o gig dofednod ffres; ac
(ng)mae i “uned da byw” yr un ystyr â “livestock unit” yn rheoliad 2(1) o'r Rheoliadau Cig Ffres.
(3) Ni fydd dim yn y Rheoliadau hyn yn gymwys mewn perthynas ag unrhyw ladd-dy cig coch trwyddedig sy'n cael ei ddefnyddio i brosesu anifeiliaid buchol o dan y cynllun prynu a gyflwynwyd gan Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 716/96 ac a fabwysiadodd fesurau cynnal eithriadol ar gyfer y farchnad cig eidion yn y Deyrnas Unedig(3)
O.S. 1995/540, a ddiwygiwyd gan O.S. 1995/1763, O.S. 1995/2200, O.S. 1995/2148, O.S. 1995/3205, O.S. 1997/1729, O.S. 2000/656, O.S. 2000/2257 (Cy.150), O.S. 2001/343 (Cy.15) ac O.S. 2001/2198 (Cy.158).
O.S. 1995/539, a ddiwygiwyd gan O.S. 1995/731, O.S. 1995/1763, O.S. 1995/2148, O.S. 1995/2200, O.S. 1995/3124, O.S. 1995/3189, O.S. 1996/1148, O.S. 1996/2235, O.S. 1997/1729, O.S. 1997/2074, O.S. 2000/656, O.S. 2000/2257 (Cy.150), O.S. 2001/343(Cy.15), 2001/1508 (Cy.105), 2001/1740 (Cy.123), 2001/1802 (Cy.131), 2001/2627 (Cy.216), O.S. 2001/3459 (Cy.279) ac O.S. 2002/129 (Cy.17).
OJ Rhif L99, 20.4.96, t.14.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: