xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Cychwyn

2.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff (2) isod, daw'r Rheoliadau hyn i rym ar 7 Mehefin 2002.

(2Er gwaethaf paragraff (1) uchod, daw'r Rheoliadau hyn i rym ar 7 Mehefin 2003, i'r graddau y maent yn gymwys i unrhyw sefydliad cig bach.

(3At ddibenion paragraff (2) uchod, ystyr “sefydliad cig bach” (“small meat establishment”) yw—

(a)lladd-dy cig coch trwyddedig, lladd-dy cig dofednod trwyddedig, safle torri cig coch trwyddedig neu safle torri cig dofednod trwyddedig

(i)a oedd yn weithredol yn y flwyddyn galendr 2000 ac yr oedd ganddo drwybwn wythnosol cyfartalog yn y flwyddyn honno a oedd yn is na'r swm penodedig,

(ii)a ddaeth yn weithredol am y tro cyntaf ar 1 Ionawr 2001 neu ar ôl hynny ond cyn 1 Mai 2002 ac yr oedd ganddo drwybwn wythnosol cyfartalog a oedd yn llai na'r swm penodedig yn ystod yr amser yr oedd yn weithredol yn y cyfnod hwnnw, neu

(iii)a ddaeth yn weithredol am y tro cyntaf ar 1 Mai 2002 neu ar ôl hynny, ac y mae'r Asiantaeth o'r farn y bydd ei drwybwn wythnosol cyfartalog yn debyg o fod yn is na'r swm penodedig;

(b)storfa oer sydd wedi'i thrwyddedu o dan reoliad 4 o'r Rheoliadau Cig Ffres neu reoliad 4 o'r Rheoliadau Cig Dofednod, gyda chynhwysedd storio o lai na 25,000 metr ciwbig yn y ddau achos;

(c)canolfan ailbecynnu sydd wedi'i thrwyddedu o dan reoliad 4 o'r Rheoliadau Cig Ffres; neu

(ch)canolfan ail-lapio sydd wedi'i thrwyddedu o dan reoliad 4 o'r Rheoliadau Cig Dofednod.