RHAN IIASESIADAU

Hysbysiadau sy'n ymwneud ag asesu6

1

Mae paragraff (2) yn gymwys—

a

os oes awdurdod yn cyflwyno hysbysiad o dan adran 323(1) neu 329A(3) i riant plentyn eu bod yn ystyried a ddylid gwneud asesiad, neu

b

os nad oes hysbysiad wedi'i roi mewn perthynas ag asesiad penodol o dan adran 323(1) neu 329A(3), a bod awdurdod yn rhoi hysbysiad i riant plentyn o'u penderfyniad i wneud asesiad o dan adran 323(4) neu 329A(7).

2

Os yw'r paragraff hwn yn gymwys, rhaid i'r awdurdod anfon copïau o'r hysbysiad perthnasol—

a

i'r awdurdod gwasanaethau cymdeithasol,

b

i'r awdurdod iechyd,

c

os yw'r plentyn wedi'i gofrestru mewn ysgol, at bennaeth yr ysgol honno, neu

ch

os yw'r plentyn yn derbyn addysg gan ddarparydd addysg gynnar, at y pennaeth AAA mewn perthynas â'r darparydd hwnnw.

3

Os anfonir copi o hysbysiad o dan baragraff (2), rhaid i arnodiad ar y copi neu hysbysiad sy'n cyd-fynd â'r copi hwnnw hysbysu'r derbynnydd pa gymorth y mae'r awdurdod yn debyg o ofyn amdano.

4

Os—

a

bydd rhiant plentyn yn gofyn o dan adran 328(2) neu 329(1) i awdurdod drefnu asesiad, a

b

nad oes asesiad wedi'i wneud ar gyfer y plentyn hwnnw o fewn y cyfnod o chwe mis sy'n diweddu â'r dyddiad y gwneir y cais

rhaid i'r awdurdod roi hysbysiad i'r personau y cyfeirir atynt ym mharagraff (2)(a) i (ch) fod y cais wedi'i wneud a'i hysbysu pa gymorth y mae'r awdurdod yn debyg o ofyn amdano.

5

Os bydd—

a

corff cyfrifol yn gofyn o dan adran 329A(1) i awdurdod drefnu asesiad, a

b

nad oes asesiad wedi'i wneud ar gyfer y plentyn hwnnw o fewn y cyfnod o chwe mis sy'n diweddu â'r dyddiad y gwneir y cais,

rhaid i'r awdurdod rhoi hysbysiad i'r personau y cyfeirir atynt ym mharagraff (2)(a) i (ch) fod y cais wedi'i wneud a'u hysbysu pa gymorth y mae'r awdurdod yn debyg o ofyn amdano.

6

Os pennaeth ysgol neu bennaeth AAA mewn perthynas â darparydd addysg gynnar yw'r corff cyfrifol y cyfeirir ato ym mharagraff (5)(a), caiff yr awdurdod—

a

dewis peidio â chyflwyno hysbysiad i'r pennaeth neu'r pennaeth AAA o dan baragraff (5), a

b

arnodi'r hysbysiad a gyflwynir i'r corff cyfrifol o dan adran 329A(7) neu gyflwyno hysbysiad pellach i gyd-fynd â'r hysbysiad hwnnw yn hysbysu pennaeth yr ysgol neu'r pennaeth AAA mewn perthynas â'r darparydd addysg gynnar pa gymorth y mae'r awdurdod yn debyg o ofyn amdano.

Y cyngor sydd i'w geisio7

1

Er mwyn gwneud asesiad, rhaid i'r awdurdod geisio—

a

cyngor gan riant y plentyn;

b

cyngor addysgol fel y darperir ar ei gyfer yn rheoliad 8;

c

cyngor meddygol gan yr awdurdod iechyd fel y darperir ar ei gyfer yn rheoliad 9;

ch

cyngor seicolegol fel y darperir ar ei gyfer yn rheoliad 10;

d

cyngor gan yr awdurdod gwasanaethau cymdeithasol; ac

dd

unrhyw gyngor arall y mae'r awdurdod yn credu ei fod yn briodol at ddibenion gwneud asesiad boddhaol.

2

Rhaid i'r cyngor y cyfeirir ato ym mharagraff (1) fod yn gyngor ysgrifenedig sy'n ymwneud â'r canlynol—

a

nodweddion addysgol, meddygol, seicolegol neu eraill yr achos (yn ôl natur y cyngor a geisir) y mae'n ymddangos eu bod yn berthnasol i anghenion addysgol y plentyn (gan gynnwys ei anghenion tebygol yn y dyfodol);

b

sut y gallai'r nodweddion hynny effeithio ar anghenion addysgol y plentyn; ac

c

y ddarpariaeth sy'n briodol ar gyfer y plentyn yng ngoleuni'r nodweddion hynny ar achos y plentyn, o ran darpariaeth addysgol arbennig neu ddarpariaeth anaddysgol, ond heb fod yn ymwneud ag unrhyw fater y mae angen ei bennu mewn datganiad yn rhinwedd adran 324(4)(b).

3

Caiff person y ceisir y cyngor y cyfeirir ato ym mharagraff (1) oddi wrtho ymgynghori mewn cysylltiad â'r cyngor hwnnw ag unrhyw bersonau y mae'n ymddangos iddo ei bod yn hwylus ymgynghori â hwy; a rhaid iddo ymgynghori ag unrhyw bersonau, os oes rhai, a bennir yn yr achos penodol gan yr awdurdod fel personau sydd â gwybodaeth berthnasol am y plentyn neu ynghylch y plentyn.

4

Wrth geisio'r cyngor y cyfeirir ato ym mharagraff (1)(b) i (dd), rhaid i'r awdurdod roi copïau o'r canlynol i'r person y ceisir y cyngor oddi wrtho—

a

unrhyw sylwadau a wnaed gan y rhiant; a

b

unrhyw dystiolaeth a gyflwynwyd gan y rhiant neu ar gais y rhiant

o dan adran 323(1)(d) neu adran 329A(3)(d) yn ôl fel y digwydd.

5

Nid oes angen i'r awdurdod geisio'r cyngor y cyfeirir ato ym mharagraff (1)(b), (c), (ch), (d) neu (dd)—

a

os yw'r awdurdod wedi sicrhau cyngor o dan baragraff (1)(b), (c), (ch), (d) neu (dd) yn y drefn honno yn y 12 mis blaenorol; a

b

os yw'r awdurdod, y person y cafwyd y cyngor oddi wrtho a rhiant y plentyn wedi'u bodloni fod y cyngor presennol yn ddigonol er mwyn gwneud asesiad boddhaol.

Cyngor addysgol8

1

Yn ddarostyngedig i baragraffau (2) i (5), rhaid i'r cyngor addysgol y cyfeirir ato yn rheoliad 7(1)(b) gael ei geisio—

a

oddi wrth bennaeth unrhyw ysgol y mae'r plentyn yn ei mynychu ar hyn o bryd;

b

os na ellir cael cyngor oddi wrth bennaeth ysgol y mae'r plentyn yn ei mynychu ar hyn o bryd (am nad yw'r plentyn yn mynychu ysgol neu fel arall), oddi wrth berson y mae'r awdurdod wedi'u bodloni bod ganddo brofiad o addysgu plant ag anghenion addysgol arbennig neu wybodaeth am y ddarpariaeth wahanol y gall fod galw amdani mewn achosion gwahanol er mwyn diwallu'r anghenion hynny;

c

os nad yw'r plentyn yn mynychu ysgol ar hyn o bryd ac os nad yw'r cyngor a geir o dan is-baragraff (b) yn gyngor oddi wrth berson o'r fath, oddi wrth berson sy'n gyfrifol am y ddarpariaeth addysgol i'r plentyn; ac

ch

os oes unrhyw un o rieni'r plentyn yn gwasanaethu fel aelod o luoedd arfog Ei Mawrhydi, oddi wrth Addysg Plant y Lluoedd.

2

Yn ddarostyngedig i baragraff (3), rhaid peidio â cheisio'r cyngor a geisir fel y darperir ar ei gyfer ym mharagraff (1)(a) i (c) oddi wrth unrhyw berson nad yw'n athro neu'n athrawes gymwysedig.

3

Os yw'r cyngor a geisir fel y darperir ym mharagraff (1)(c) i'w sicrhau mewn perthynas â phlentyn sy'n derbyn addysg gan ddarparydd addysg gynnar ac nad oes person sy'n gyfrifol am ddarpariaeth addysgol y plentyn hwnnw sy'n athro neu'n athrawes gymwysedig, rhaid ceisio cyngor oddi wrth berson sy'n gyfrifol am ddarpariaeth addysgol y plentyn nad yw'n athro neu'n athrawes gymwysedig.

4

Os nad yw'r pennaeth ei hun wedi addysgu'r plentyn o fewn y 18 mis blaenorol, rhaid i'r cyngor a geisir oddi wrth bennaeth fel y darperir ym mharagraff (1)(a) fod yn gyngor a roddir ar ôl ymgynghori ag athro neu athrawes sydd wedi addysgu'r plentyn.

5

Rhaid i'r cyngor a geisir oddi wrth bennaeth fel y darperir ym mharagraff (1)(a) gynnwys cyngor ynghylch y camau sydd wedi'u cymryd gan yr ysgol i adnabod ac asesu anghenion addysgol arbennig y plentyn ac i wneud darpariaeth er mwyn diwallu'r anghenion hynny.

6

Rhaid i'r cyngor a geisir o dan baragraffau (1)(b) neu (1)(c) mewn perthynas â phlentyn sy'n derbyn addysg gan ddarparydd addysg gynnar gynnwys cyngor ynghylch y camau sydd wedi'u cymryd gan y darparydd i adnabod ac asesu anghenion addysgol arbennig y plentyn ac i wneud darpariaeth ar gyfer diwallu'r anghenion hynny.

7

Os yw'n ymddangos i'r awdurdod, o ganlyniad i gyngor meddygol neu fel arall, fod gan y plentyn o dan sylw—

a

nam ar ei glyw;

b

nam ar ei olwg; neu

c

nam ar ei glyw ac ar ei olwg,

ac nad yw unrhyw berson y ceisir cyngor oddi wrtho fel y darperir ym mharagraff (1) wedi'i gymhwyso i addysgu disgyblion a chanddynt nam o'r fath yna rhaid i'r cyngor a geisir fod yn gyngor a roddir ar ôl ymgynghori â pherson sydd wedi'i gymhwyso felly.

8

At ddibenion paragraff (7), bernir bod person wedi'i gymhwyso i addysgu disgyblion a chanddynt nam ar y clyw neu nam ar y golwg neu a chanddynt nam ar y clyw ac ar y golwg os yw'r person hwnnw wedi'i gymhwyso i'w gyflogi mewn ysgol yn athro neu'n athrawes i ddosbarth o ddisgyblion â nam o'r fath heblaw i roi hyfforddiant mewn crefft, masnach, neu bwnc domestig.

9

Nid yw paragraffau (4) a (7) yn rhagfarnu rheoliad 7(3).

Cyngor meddygol9

Rhaid i'r cyngor y cyfeirir ato ym mharagraff 7(1)(c) gael ei geisio oddi wrth yr awdurdod iechyd, y mae'n rhaid iddynt sicrhau cyngor oddi wrth ymarferydd meddygol sydd wedi'i gofrestru'n llawn.

Cyngor seicolegol10

1

Rhaid i'r cyngor seicolegol y cyfeirir ato ym mharagraff 7(1)(ch) gael ei geisio oddi wrth berson—

a

sy'n cael ei gyflogi'n rheolaidd gan yr awdurdod yn seicolegydd addysgol, neu

b

a gymerir ymlaen gan yr awdurdod yn seicolegydd addysgol yn yr achos o dan sylw.

2

Os oes gan y person hwnnw reswm dros gredu bod gan seicolegydd arall wybodaeth berthnasol am y plentyn neu ynghylch y plentyn, rhaid i'r cyngor a geisir oddi wrth berson fel y darperir ym mharagraff (1) fod yn gyngor a roddir ar ôl ymgynghori â'r seicolegydd arall hwnnw.

3

Nid yw paragraff (2) yn rhagfarnu rheoliad 7(3).

Y materion sydd i'w cymryd i ystyriaeth wrth wneud asesiad11

Wrth wneud asesiad rhaid i awdurdod gymryd i ystyriaeth—

a

unrhyw sylwadau a gyflwynir gan riant y plentyn o dan adran 323(1)(d) neu adran 329A(3)(d);

b

unrhyw dystiolaeth a gyflwynir gan riant y plentyn, neu ar gais rhiant y plentyn o dan adran 323(1)(d) neu adran 329A(3)(d); ac

c

y cyngor a geir o dan reoliad 7.

Terfynau amser a gwybodaeth ragnodedig12

1

Os oes awdurdod yn cyflwyno hysbysiad i riant plentyn, o dan adran 323(1), yn rhoi gwybod i'r rhiant eu bod yn ystyried a ddylid gwneud asesiad, o fewn chwe wythnos o ddyddiad cyflwyno'r hysbysiad hwnnw rhaid iddynt roi hysbysiad i riant y plentyn—

a

o'u penderfyniad i wneud asesiad, ac o'u rhesymau dros wneud y penderfyniad hwnnw, neu

b

o'u penderfyniad i beidio ag asesu anghenion addysgol y plentyn ac o'u rhesymau dros wneud y penderfyniad hwnnw, ac

c

yn y naill achos neu'r llall bod cyngor a gwybodaeth ar gael i'r rhiant am faterion sy'n ymwneud ag anghenion addysgol arbennig y plentyn oddi wrth y gwasanaeth partneriaeth rhieni.

2

Os oes rhiant yn gofyn, o dan adrannau 328(2) neu 329(1), i'r awdurdod drefnu gwneud asesiad, o fewn chwe wythnos o ddyddiad derbyn y cais rhaid iddynt roi hysbysiad i riant y plentyn—

a

o'r canlynol—

i

eu penderfyniad i wneud asesiad;

ii

eu rhesymau dros wneud y penderfyniad hwnnw; a

iii

bod cyngor a gwybodaeth ar gael i'r rhiant am faterion sy'n ymwneud ag anghenion addysgol arbennig y plentyn oddi wrth y gwasanaeth partneriaeth rhieni; neu

b

o'r canlynol—

i

eu dyfarniad i beidio â chydymffurfio â chais y rhiant;

ii

eu rhesymau dros wneud y dyfarniad hwnnw;

iii

bod cyngor a gwybodaeth ar gael i'r rhiant am faterion sy'n ymwneud ag anghenion addysgol arbennig y plentyn oddi wrth y gwasanaeth partneriaeth rhieni;

iv

bod trefniadau ar gael i'r rhiant ar gyfer atal a datrys anghytundebau rhwng rhieni ac awdurdodau, wedi'u gwneud gan yr awdurdod o dan adran 332B(1);

v

hawl y rhiant i apelio i'r Tribiwnlys yn erbyn y penderfyniad i beidio â gwneud asesiad;

vi

y terfyn amser y mae'n rhaid gwneud apêl at y Tribiwnlys o'i fewn; a

vii

y ffaith na all y trefniadau a wneir o dan adran 332B(1) effeithio ar hawl y rhiant i apelio at y Tribiwnlys ac y caiff y rhiant apelio at y Tribiwnlys a gwneud unrhyw drefniadau a wneir o dan adran 332B(1).

3

Os yw adran 329A yn gymwys, rhaid i awdurdod, o fewn chwe wythnos o ddyddiad cael cais gan gorff cyfrifol y dylid gwneud asesiad o blentyn, roi hysbysiad i'r corff hwnnw—

a

o'u penderfyniad i wneud asesiad, ac o'u rhesymau dros wneud y penderfyniad hwnnw, neu

b

o'u penderfyniad i beidio ag asesu anghenion addysgol y plentyn, ac o'u rhesymau dros wneud y penderfyniad hwnnw.

4

Os yw adran 329A yn gymwys, rhaid i awdurdod, o fewn chwe wythnos o ddyddiad cael cais gan gorff cyfrifol y dylid gwneud asesiad o blentyn, roi hysbysiad i riant y plentyn—

a

o'r canlynol—

i

eu penderfyniad i wneud asesiad;

ii

eu rhesymau dros wneud y penderfyniad hwnnw; a

iii

bod cyngor a gwybodaeth ar gael i'r rhiant am faterion sy'n ymwneud ag anghenion addysgol arbennig y plentyn oddi wrth y gwasanaeth partneriaeth rhieni; neu

b

o'r canlynol—

i

eu penderfyniad i beidio ag asesu anghenion addysgol y plentyn;

ii

eu rhesymau dros wneud y penderfyniad hwnnw;

iii

bod cyngor a gwybodaeth ar gael i'r rhiant am faterion sy'n ymwneud ag anghenion addysgol arbennig y plentyn oddi wrth y gwasanaeth partneriaeth rhieni;

iv

bod trefniadau ar gael i'r rhiant ar gyfer atal a datrys anghytundebau rhwng rhieni ac awdurdodau, wedi'u gwneud gan yr awdurdod o dan adran 332B(1);

v

hawl y rhiant i apelio at y Tribiwnlys yn erbyn y penderfyniad i beidio â gwneud asesiad;

vi

y terfyn amser y mae'n rhaid gwneud apêl at y Tribiwnlys o'i fewn; a

vii

y ffaith na all y trefniadau a wneir o dan adran 332B(1) effeithio ar hawl y rhiant i apelio at y Tribiwnlys ac y caiff y rhiant apelio at y Tribiwnlys a gwneud unrhyw drefniadau a wneir o dan adran 332B(1).

5

Nid oes angen i awdurdod gydymffurfio â'r terfynau amser y cyfeirir atynt ym mharagraffau (1) i (4) os yw'n anymarferol gwneud hynny—

a

am fod yr awdurdod wedi gofyn am gyngor oddi wrth bennaeth ysgol yn ystod cyfnod yn dechrau un wythnos cyn unrhyw ddyddiad pryd yr oedd yr ysgol honno ar gau am gyfnod di-dor o ddim llai na phedair wythnos o'r dyddiad hwnnw ac yn diweddu un wythnos cyn y dyddiad y mae'n ailagor;

b

am fod yr awdurdod wedi gofyn am gyngor oddi wrth y pennaeth AAA neu berson arall sy'n gyfrifol am addysg plentyn mewn darparydd addysg gynnar yn ystod cyfnod yn dechrau un wythnos cyn unrhyw ddyddiad pryd yr oedd y darparydd addysg gynnar hwnnw ar gau am gyfnod di-dor o ddim llai na phedair wythnos o'r dyddiad hwnnw ac yn diweddu un wythnos cyn y dyddiad y mae'n ailagor;

c

am fod amgylchiadau personol eithriadol yn effeithio ar y plentyn neu ar riant y plentyn yn ystod y cyfnod o chwe wythnos y cyfeirir ato ym mharagraffau (1) i (4); neu

ch

am fod y plentyn neu riant y plentyn yn absennol o ardal yr awdurdod am gyfnod di-dor o ddim llai na phedair wythnos yn ystod y cyfnod o chwe wythnos y cyfeirir ato ym mharagraffau (1) i (4).

6

Yn ddarostyngedig i baragraff (7), os oes awdurdod wedi rhoi hysbysiad, o dan adrannau 323(4) neu 329A(7), i riant y plentyn o'u penderfyniad i wneud asesiad, rhaid iddynt gwblhau'r asesiad hwnnw o fewn 10 wythnos o'r dyddiad y rhoddwyd yr hysbysiad.

7

Nid oes angen i awdurdod gydymffurfio â'r terfyn amser y cyfeirir ato ym mharagraff (6) os yw'n anymarferol gwneud hynny—

a

am ei bod yn angenrheidiol i'r awdurdod geisio cyngor pellach mewn achosion eithriadol ar ôl cael cyngor a geisiwyd o dan reoliad 7;

b

am fod rhiant y plentyn wedi mynegi i'r awdurdod ei fod yn dymuno rhoi cyngor i'r awdurdod ar ôl i chwe wythnos ddod i ben o'r dyddiad y cafwyd cais am gyngor o'r fath o dan reoliad 7(1)(a), a bod yr awdurdod wedi cytuno i ystyried y cyngor hwnnw cyn cwblhau'r asesiad;

c

am fod yr awdurdod wedi gofyn am gyngor oddi wrth bennaeth ysgol o dan reoliad 7(1)(b) yn ystod cyfnod yn dechrau un wythnos cyn unrhyw ddyddiad pryd yr oedd yr ysgol honno ar gau am gyfnod di-dor o ddim llai na phedair wythnos o'r dyddiad hwnnw ac yn diweddu un wythnos cyn y dyddiad y mae'n ailagor;

ch

am fod yr awdurdod wedi gofyn am gyngor oddi wrth y pennaeth AAA mewn perthynas ag addysg plentyn mewn darparydd addysg gynnar, neu berson arall sy'n gyfrifol am yr addysg honno, o dan reoliad 7(1)(b), yn ystod cyfnod yn dechrau un wythnos cyn unrhyw ddyddiad pryd yr oedd y darparydd addysg gynnar hwnnw ar gau am gyfnod di-dor o ddim llai na phedair wythnos o'r dyddiad hwnnw ac yn diweddu un wythnos cyn y dyddiad y mae'n ailagor;

d

am fod yr awdurdod wedi gofyn am gyngor oddi wrth awdurdod iechyd neu awdurdod gwasanaethau cymdeithasol o dan reoliad 7(1)(c) neu (d) yn y drefn honno a bod yr awdurdod iechyd neu'r awdurdod gwasanaethau cymdeithasol heb gydymffurfio â'r cais hwnnw o fewn chwe wythnos o'r dyddiad y gwnaed y cais;

dd

am fod amgylchiadau personol eithriadol yn effeithio ar y plentyn neu ar riant y plentyn yn ystod y cyfnod o 10 wythnos y cyfeirir ato ym mharagraff (6);

e

am fod y plentyn neu riant y plentyn yn absennol o ardal yr awdurdod am gyfnod di-dor o ddim llai na phedair wythnos yn ystod y cyfnod o ddeg wythnos y cyfeirir ato ym mharagraff (6); neu

f

am fod y plentyn yn methu â chadw apwyntiad ar gyfer archwiliad neu brawf yn ystod y cyfnod o 10 wythnos y cyfeirir ato ym mharagraff (6).

8

Yn ddarostyngedig i baragraffau (9), (10) ac (11), os oes awdurdod wedi gofyn am gyngor oddi wrth awdurdod iechyd neu awdurdod gwasanaethau cymdeithasol o dan reoliad 7(1)(c) neu (d) yn y drefn honno, rhaid i'r awdurdod iechyd neu'r awdurdod gwasanaethau cymdeithasol gydymffurfio â'r cais hwnnw o fewn chwe wythnos o'r dyddiad y maent yn cael y cais.

9

Nid oes angen i awdurdod iechyd neu awdurdod gwasanaethau cymdeithasol gydymffurfio â'r terfyn amser y cyfeirir ato ym mharagraff (8) os yw'n anymarferol gwneud hynny—

a

am fod amgylchiadau personol eithriadol yn effeithio ar y plentyn neu ar riant y plentyn yn ystod y cyfnod o chwe wythnos y cyfeirir ato ym mharagraff (8);

b

am fod y plentyn neu riant y plentyn yn absennol o ardal yr awdurdod am gyfnod di-dor o ddim llai na phedair wythnos yn ystod y cyfnod o chwe wythnos y cyfeirir ato ym mharagraff (8); neu

c

am fod y plentyn yn methu â chadw apwyntiad ar gyfer archwiliad neu brawf a wnaed gan yr awdurdod iechyd neu'r awdurdod gwasanaethau cymdeithasol yn y drefn honno yn ystod y cyfnod o chwe wythnos y cyfeirir ato ym mharagraff (8).

10

Nid oes angen i awdurdod iechyd gydymffurfio â'r terfyn amser y cyfeirir ato ym mharagraff (8) os nad ydynt, cyn y dyddiad y cyflwynwyd copi o hysbysiad iddynt yn unol â rheoliad 6(1), 6(3) neu 6(4), wedi cynhyrchu neu wedi cadw unrhyw wybodaeth neu gofnodion sy'n berthnasol i asesu'r plentyn.

11

Nid oes angen i awdurdod gwasanaethau cymdeithasol gydymffurfio â'r cais y cyfeirir ato ym mharagraff (8) os nad ydynt, cyn y dyddiad y cyflwynwyd copi o hysbysiad iddynt yn unol â rheoliad 6(1), 6(3) neu 6(4), wedi cynhyrchu neu wedi cadw unrhyw wybodaeth neu gofnodion sy'n berthnasol i asesu'r plentyn.

Plant heb ddatganiadau mewn ysgolion arbennig13

Os oes plentyn heb ddatganiad wedi'i dderbyn i ysgol arbennig at ddibenion asesiad, fel y darperir ar ei gyfer yn adran 316A(2), caiff aros yn yr ysgol honno—

a

nes bod 10 diwrnod ysgol yn dod i ben ar ôl i'r awdurdod gyflwyno hysbysiad o dan adran 325 yn hysbysu rhiant y plentyn nad ydynt yn bwriadu gwneud datganiad, neu

b

nes i ddatganiad gael ei wneud10.