RHAN ICYFFREDINOL

Dehongli2

1

Yn y Rheoliadau hyn—

  • ystyr “adolygiad blynyddol” (“annual review”) yw adolygiad o ddatganiad plentyn o anghenion addysgol arbennig a wneir o fewn 12 mis o wneud y datganiad neu'r adolygiad blaenorol o dan adran 328(5)(b) o'r Ddeddf;

  • ystyr “asesiad” (“assessment”) yw asesiad o anghenion addysgol plentyn o dan adran 323 o'r Ddeddf;

  • ystyr “awdurdod” (“authority”) yw awdurdod addysg lleol;

  • ystyr “awdurdod gwasanaethau cymdeithasol” (“social services authority”) yw awdurdod lleol at ddibenion Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol Awdurdodau Lleol 19703 yn gweithredu wrth gyflawni unrhyw swyddogaethau o'r fath y cyfeirir atynt yn adran 1A o'r Ddeddf honno;

  • mae i “awdurdod iechyd” yr un ystyr ag sydd i “health authority” yn Neddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 19774;

  • ystyr “cynllun trosiannol” (“transition plan”) yw dogfen sy'n nodi'r trefniadau sy'n briodol ar gyfer person ifanc yn ystod y cyfnod sy'n dechrau â chychwyn y ddegfed flwyddyn o addysg orfodol ac yn dod i ben pan fydd yn 19 oed, gan gynnwys trefniadau ar gyfer darpariaeth addysgol arbennig ac ar gyfer unrhyw ddarpariaeth angenrheidiol arall, ar gyfer cyflogaeth a llety addas a gweithgareddau hamdden, ac a fydd yn hwyluso trosiant boddhaol o fywyd plentyn i fywyd oedolyn;

  • ystyr “y Cynulliad Cenedlaethol” (“the National Assembly”) yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru;

  • ystyr “darparydd addysg gynnar” (“early education provider”) yw darparydd addysg feithrin berthnasol ac eithrio na fydd yn cynnwys awdurdod mewn perthynas ag ysgol feithrin a gynhelir;

  • ystyr “datganiad” (“statement”) yw datganiad o anghenion addysgol arbennig plentyn a wnaed o dan adran 324 o'r Ddeddf;

  • ystyr “degfed flwyddyn o addysg orfodol” (“tenth year of compulsory education”) yw'r nawfed flwyddyn ysgol ar ôl y flwyddyn ysgol y mae plentyn yn cyrraedd oedran ysgol gorfodol;

  • ystyr “diwrnod gwaith” (“working day”) yw diwrnod heblaw dydd Sadwrn, dydd Sul, Dydd Nadolig, Gwener y Groglith neu Ŵyl Banc o fewn ystyr Deddf Bancio a Thrafodion Ariannol 19715;

  • ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Addysg 1996;

  • ystyr “Gwasanaeth Gyrfaoedd” (“Careers Service”) yw corff (p'un a oes iddo bersonoliaeth gyfreithiol wahanol neu beidio) a sefydlwyd i ddarparu gwasanaethau gyrfaoedd o dan adrannau 8 i 10 o Ddeddf Cyflogaeth a Hyfforddiant 19736;

  • ystyr “gwasanaethau partneriaeth rhieni” (“parent partnership services”) yw'r trefniadau a wneir gan awdurdod o dan adran 332A o'r Ddeddf ar gyfer darparu cyngor a gwybodaeth am faterion sy'n ymwneud ag anghenion addysgol arbennig i rieni plant sydd ag anghenion addysgol arbennig;

  • mae “pennaeth” (“head teacher”) yn cynnwys unrhyw berson y mae dyletswyddau neu swyddogaethau pennaeth o dan y Rheoliadau hyn wedi'u dirprwyo iddo gan y pennaeth yn unol â rheoliad 3;

  • ystyr “pennaeth AAA” (“head of SEN”) yw'r person sy'n gyfrifol am gydgysylltu'r ddarpariaeth addysgol o ddydd i ddydd ar gyfer disgyblion ag anghenion addysgol arbennig;

  • ystyr “Rheoliadau 1994” (“the 1994 Regulations”) yw Rheoliadau Addysg (Anghenion Addysgol Arbennig) 19947.

  • ystyr “targed” (“target”) yw'r wybodaeth, y medrau a'r ddealltwriaeth y disgwylir y byddant gan blentyn erbyn diwedd cyfnod penodol;

  • ystyr “Tribiwnlys” (“Tribunal”) yw'r Tribiwnlys Anghenion Addysgol Arbennig y mae ganddo'r awdurdodaeth a roddwyd iddo gan adran 333 o'r Ddeddf.

2

Mae i'r ymadroddion a ddefnyddir yn y Rheoliadau hyn ac a nodir yng ngholofn gyntaf y tabl isod yr ystyr a roddir gan y darpariaethau y cyfeirir atynt yn ail golofn y tabl hwnnw (neu, yn ôl fel y digwydd, maent i'w dehongli yn unol â'r darpariaethau hynny):

“addysg feithrin berthnasol” (“relevant nursery education”)

Adran 509A(5) o'r Ddeddf

“athro neu athrawes gymwysedig” (“qualified teacher”)

Adran 218 o Ddeddf Diwygio Addysg 19888

“blwyddyn ysgol” (“school year”)

Adran 579(1) o'r Ddeddf

“corff cyfrifol” (“responsible body”)

Adran 329A(13) o'r Ddeddf

“diwrnod ysgol” (“school day”)

Adran 579(1) o'r Ddeddf

“oedran ysgol gorfodol” (“compulsory school age”)

Adran 5 o'r Ddeddf

“rhiant”(“parent”)

Adran 576 o'r Ddeddf

“sefydliad tramgwyddwyr ifanc” (“young offender institution”)

Adran 43 o Ddeddf Carchar 19529

“ysgol a gynhelir” (“maintained school”)

Adran 312 o'r Ddeddf

“ysgol arbennig” (“special school”)

Adran 337 o'r Ddeddf

3

Yn y Rheoliadau hyn mae unrhyw gyfeiriad at yr awdurdod iechyd neu'r awdurdod gwasanaethau cymdeithasol, mewn perthynas â phlentyn penodol, yn gyfeiriad at yr awdurdod iechyd neu'r awdurdod gwasanaethau cymdeithasol y mae'r plentyn yn byw yn eu hardal.

4

Os yw'n ofynnol gwneud rhywbeth o dan y Rheoliadau hyn—

a

o fewn cyfnod ar ôl i gam gael ei gymryd, ni chaiff y diwrnod y cymerwyd y cam hwnnw ei gyfrif wrth gyfrifo'r cyfnod hwnnw, a

b

o fewn cyfnod ac nad yw diwrnod olaf y cyfnod hwnnw yn ddiwrnod gwaith, caiff y cyfnod ei estyn i gynnwys y diwrnod gwaith canlynol.

5

Oni fydd y cyd-destun yn mynnu fel arall, mae cyfeiriadau yn y Rheoliadau hyn—

a

at adran yn gyfeiriadau at adran o'r Ddeddf;

b

at Atodlen yn gyfeiriadau at Atodlen i'r Deddf;

c

at reoliad yn gyfeiriadau at reoliad yn y Rheoliadau hyn.